
Cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol, Caerdydd
Our Facilities
Ein Cyfleusterau
Mae ein myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd wedi’u lleoli yn Nhŷ Haywood ac mae ganddyn nhw fynediad at nifer o stiwdios ymarfer, yn cynnwys stiwdio ddawns gyda llawr dawnsio Harlequin, drychau symudol a Barrau Bale ynghyd â system sain Yamaha a phiano llwyfan, ystafell ddatganiadau a labordy cyfrifiadurol i gyd o fewn taith fer ar droed i ganol y ddinas. 
Cluster Facilities
Mae ein cyfleusterau arbenigol i’r Celfyddydau Perfformio yn cynnwys y canlynol:
Mae ein cyfleusterau’n cynnwys theatr stiwdio, ystafell ddatganiadau, pedair stiwdio, ystafell ddosbarth, a labordy cyfrifiadurol â chyfrifiaduron Apple Mac. At hynny rydym ni’n cynnig Hwb Myfyrwyr a man ymneilltuo, gan ddarparu mannau hyblyg ar gyfer astudio ac ymlacio.


Fideos 360° Tŷ Haywood
Croeso i Dŷ Haywood, canolfan Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yng Nghaerdydd. Ewch ar daith o gwmpas y lloriau gwahanol gyda’n fideos 360°.
Theatr Stiwdio

Ystafell Ddatganiadau

Stiwdio Ddawns

°ÕÅ·&²Ô²ú²õ±è;±á²¹²â·É´Ç´Ç»å&²Ô²ú²õ±è;

Oriel Gyfleusterau
Bywyd ar y Campws
Bywyd ar y Campws

Darganfyddwch Gampws Caerdydd
Os ydych chi’n berfformiwr, neu’n dwlu ar y celfyddydau, byddwch chi’n dod o hyd i’r hyn sy’n iawn i chi yng Nghaerdydd. Mae’n ganolfan gyffrous i bobl y theatr – lle sy’n gorlifo gyda chreadigrwydd a’r bwrlwm oesol cyn y sioe. Mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau, rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl â diddordebau tebyg i chi. Oherwydd fan hyn y dewch chi ar draws pobl o’r un anian greadigol a fydd yn dod yn ffrindiau pennaf am oes i chi.