
Wedi’i ddylunio i roi i chi sgiliau hanfodol ar gyfer y diwydiannau ffilm a theledu deinamig, mae’r cwrs hwn yn eich trochi ym mhob agwedd ar gynhyrchu. O sgriptio a chynhyrchu i sinematograffi a golygu, fe gewch brofiad ymarferol sy’n cyd-fynd â mewnwelediadau damcaniaethol, gan eich grymuso i ddod â’ch gweledigaethau creadigol yn fyw.
Mae ein rhaglen yn cynnig cyfuniad cynhwysfawr o fodylau ymarferol gyda’r bwriad o ddyfnhau eich dealltwriaeth o strwythur ffilmiau ac arferion cyfredol y diwydiant. Byddwch yn meithrin medrau proffesiynol hanfodol er mwyn llwyddo ym maes cynhyrchu ffilm a theledu, a hynny oll o fewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Trwy gydol eich gradd, byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o fodylau trochi a gynlluniwyd i hogi eich medrau cyfarwyddo, golygu, ysgrifennu sgriptiau, a sinematograffi. Wedi’u hategu gan astudiaethau damcaniaethol, mae’r profiadau ymarferol hyn yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau cymhleth y diwydiant gyda hyder.
Drwy lunio partneriaethau gydag ymarferwyr y diwydiant, rydym yn cynnig prosiectau byd go iawn sy’n caniatáu i chi gydweithio gyda chleientiaid a mynd i’r afael â briffiau o safon diwydiant. Tu hwnt i leoliadau ystafell ddosbarth traddodiadol, mae ein cwrs yn darparu cyfleoedd ar-leoliad amrywiol, gan sicrhau taith dysgu cyfoethog trwy brofiadau.
Paratowch i ymuno â chymuned ffilm fywiog lle mae dysgu cydweithredol a mynegiant creadigol yn ffynnu. Adeiladwch eich portffolio, mireiniwch eich sgiliau dadansoddi, ac archwiliwch ystod o lwybrau gyrfaol ym maes cynhyrchu ffilm a theledu. Darganfyddwch sut mae ein cyfleusterau stiwdio a dosbarthiadau meistr yn meithrin eich angerdd a’ch potensial yn y maes deinamig hwn.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae eich siwrne’n dechrau a gorffen gydag adrodd straeon creadigol - cysyniad sy’n ganolog i astudio ffilm a theledu yn PCYDDS Abertawe. Gydag adrodd straeon yn ffocws canolog, mae ein modylau mewn cynhyrchu, dylunio sinematig a ffotograffig, ymchwil ac adrodd straeon, yn golygu y byddwch yn adeiladu portffolio cynhyrchu effeithiol sy’n gweddu eich diddordebau arbenigol eich hun.
Rydym yn eich rhoi chi wrth wraidd y dysgu, a golyga hyn ein bod yn eich annog i arbrofi mewn ystod o genres a rolau i gynhyrchu llwybr trwy’r cwrs sy’n eich gweddu chi. Bydd y broses o arbrofi yn eich helpu i arbenigo eich arddull unigryw chi a gwireddu eich potensial fel gwneuthurwr ffilm, sgriptiwr ffilmiau, ffilmiwr neu gyfarwyddwr gŵyl, i enwi ond rhaid. Ochr yn ochr â modylau cynhyrchu, anogwn waith gyda chleientiaid go iawn a briffiau byw i sicrhau y cewch chi brofiad uniongyrchol o’r diwydiant.
Mae llawr o’n modylau yn rhai ymarferol, gyda’r dysgu’n digwydd ar y campws, ond hefyd tu allan yn y byd go iawn mewn caffis, adeiladau gwag, theatrau, traethau a thu hwnt. Ceir cyfleoedd i gydweithio gyda myfyrwyr o gyrsiau eraill gan gynnwys cyrsiau actio, darlunio a ffotograffiaeth. Trwy addysgu mewn gwahanol leoliadau, rydym yn cynnig profiad dysgu arbennig, gyda chyfuniad cyffrous ac arloesol o sesiynau a addysgir a sesiynau ymarferol a gynhelir mewn amrywiaeth o leoliadau.
Caiff ein modylau seiliedig ar arfer eu haddysgu mewn blociau chwe wythnos gryno un ar ôl y llall, gan efelychu’r broses gynhyrchu. Bydd gweithdai technegol yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant creadigol drwy eich addysgu ar leoliad ac oddi ar leoliad. Bydd eich allbwn creadigol yn cael ei danategu gan ystod o fodylau damcaniaethol bywiog a dangos ffilmiau bob wythnos – paratowch i gael eich ysbrydoli.
Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich trochi mewn agweddau sylfaenol cynhyrchu ffilm a theledu. Cewch brofiad uniongyrchol o adrodd straeon, gweithredu camerâu, a golygu gan archwilio hanes a theori sinema. Byddwch yn cydweithio ar waith ffilmio mewn stiwdio ac ar leoliad i ddatblygu sgiliau ymarferol.
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Gan adeiladu ar eich gwybodaeth sylfaenol, mae Blwyddyn 2 yn ffocysu ar fireinio eich sgiliau technegol a’ch arfer. Byddwch yn ennill dealltwriaeth ddyfnach o ddulliau adrodd stori, sinematograffi, a dylunio sain ar draws gwahanol enres gan gynnwys rhaglenni dogfen a chynhyrchu teledu aml-gamera.
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn atgyfnerthu eich sgiliau ac yn paratoi ar gyfer gyrfa ym maes cynhyrchu ffilm a theledu. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol ac yn cael profiad o gyflwyno syniadau y byddwch yn gallu eu rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn.
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities & Exhibitions
Cyfleusterau ac Arddangosfeydd
Fel myfyriwr BA Ffilm a Theledu bydd gennych fynediad at raglenni Adobe a chyfrifiaduron Mac a’r Creative Cloud yn cynnwys Adobe Premiere ac After Effects.

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
-
120 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDM, IB: 33 a Phortffolio
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
– Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE).
Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau.  
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Cyfweliad
Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.
Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk
Portffolio
Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.
-
Mae’r holl asesu wedi’i seilio ar waith cwrs ymarferol 100%.
Disgwylir i fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth ar ffurf gwaith prosiect ymarferol. Mae’r holl waith ymarferol wedi’i seilio ar brosiect a phortffolio.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r meddalwedd sylfaenol a chamerâu sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn sesiynau gweithdy helaeth ac ar leoliad.
Bydd angen i chi brynu gyriant caled 1TB a dillad addas ar gyfer dysgu tu allan.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.
-
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i rolau cynhyrchu ar draws y diwydiant ffilm a theledu, ac mae graddedigion diweddar yn gweithio ar brosiectau fel Mission Impossible (4, 5 a 6), The Grand Tour, His Dark Materials, Paddington 2, Brissic, Guardians of the Galaxy, Outlaw King, Bancroft, Doctor Who a llawer iawn mwy.
Mae graddedigion eraill wedi cael swyddi gyda mawrion sefydledig y diwydiant, gan gynnwys BBC, Sky, Amazon, MPC a Milk VFX. Hefyd, mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi dod o hyd i lwyddiant fel gweithwyr llawrydd neu wedi creu eu cwmnïau cynhyrchu eu hunain.