ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Dylunio Gemau Cyfrifiadurol (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
48 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n angerddol am greu gemau? Mae ein Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Dylunio Gemau Cyfrifiadurol wedi’i gynllunio i’ch helpu i droi’r angerdd hwnnw’n yrfa. Mae’r cwrs hwn sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n awyddus i ddod yn artistiaid 3D, animeiddwyr neu ddylunwyr gemau, yn cynnig archwiliad manwl o’r diwydiant gemau, wedi’i gefnogi gan bartneriaethau diwydiant cryf.

Byddwch yn defnyddio offer datblygu gemau pwerus ar y cwrs megis Unreal Engine ac Unity, sydd wedi’u cydnabod yn eang yn y diwydiant . Byddwch yn dysgu gan weithwyr proffesiynol gyda phrofiad byd go iawn, a fydd yn eich helpu i ddatblygu portffolio sy’n arddangos eich sgiliau i ddarpar gyflogwyr.

Mae’r cwricwlwm yn ymdrin ag ystod eang o bynciau sy’n hanfodol ar gyfer datblygu gemau. Byddwch yn astudio theori dylunio gemau, dylunio lefel ac amgylchedd a rhaglennu.  Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnwys y feddalwedd Adobe Creative Cloude (Adobe CC) diweddaraf, gan ddarparu’r holl offer angenrheidiol ar gyfer eich astudiaethau.  Gyda dosbarthiadau bach, mae ein staff, sydd â phrofiad helaeth yn y diwydiant yn gallu cynnig arweiniad a chymorth wedi’u personoli. 

Yn ychwanegol byddwch yn datblygu profiad ymarferol yn datblygu AR/VR ac animeiddio, gan ddysgu am y technolegau diweddaraf mewn dylunio gemau.  Bydd y cwrs hwn nid yn unig yn dysgu sgiliau technegol i chi, ond bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu galluoedd creadigol, beirniadol, dadansoddol a deongliadol sy’n angenrheidiol ar gyfer creu gemau cymhellol. Mae’r rhaglen yn annog twf unigol a gwaith tîm, gan eich paratoi i ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol.

Ar ôl gorffen y cwrs, byddwch wedi’ch paratoi’n dda a byddwch yn barod i symud ymlaen i flwyddyn olaf ein rhaglen radd 3 blynedd, a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant gemau. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CGD8
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
48 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Tîm addysgu angerddol gyda phrofiad o’r diwydiant o ran cynhyrchu annibynnol a lefel AAA.
02
PCYDDS 1af Brifysgol yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu (NSS, 2023).
03
Gofod stiwdio pwrpasol ar gyfer Myfyrwyr Gemau yn unig.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn credu mewn eich grymuso i ddylunio a chreu prosiectau rhyngweithiol sy’n arddangos yn llawn eich gwybodaeth datblygu gemau.  Mae ein cwrs yn ymwneud ag annog eich archwiliadau creadigol wrth sicrhau eich bod yn datblygu’r sgiliau technegol sydd eu hangen i lwyddo ym myd cystadleuol dylunio gemau cyfrifiadurol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf ar y cwrs Dylunio Gemau Cyfrifiadurol, byddwch yn dechrau archwilio byd datblygu gemau.  Byddwch yn dechrau drwy ddysgu hanfodion creu cymeriadau, graffeg 3D ac animeiddio.  Byddwch yn archwilio mecaneg gemau a systemau rheolau drwy brosiectau ymarferol, yn aml yn defnyddio modelau papur i gael syniad go iawn o sut mae gemau’n cael eu gwneud mewn seminarau a gweithdai.  Mae ein grwpiau tiwtorial bach yn golygu y byddwch yn cael digon o gymorth wedi’i bersonoli gan eich darlithwyr, gan eich helpu i adeiladu eich sgiliau a’ch hyder o’r dechrau. 

Dylunio'r Amgylchedd

(20 credydau)

Dylunio a Hanes Gemau

(20 credydau)

Cyflwyniad i Animeiddio Cymeriadau

(20 credydau)

Cyflwyniad i Fodelu 3D

(10 Credydau)

Astudiaethau Gweledol

(20 credydau)

Datblygiad Academaidd a Phroffesiynol

(10 Credydau)

Gemau ar gyfer Effaith Gadarnhaol

(20 Credydau)

Wrth symud i’r ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu, gan fynd i’r afael â phynciau uwch megis modelu cymeriad ac amgylchedd, gweadu a dylunio rhyngwyneb.  Dyma pan fydd eich prosiectau’n dechrau mynd yn fwy cymhleth ac arloesol. Yn ogystal, byddwch yn edrych ar y darlun ehangach gydag astudiaethau cyd-destunol, gan ddeall ochrau cymdeithasol a diwylliannol dylunio gemau.  

Animeiddio Cymeriadau Uwch

(20 credydau)

Datblygu Gemau'n Annibynnol

(20 credydau)

Theori a Dylunio Gemau

(20 credydau)

Datblygu eich Crefft o Greu

(20 Credydau)

Dylunio a Datblygu Lefel

(20 Credydau)

Naratif ac Adeiladu Bydoedd

(10 Credydau)

Dylunio Sain

(10 Credydau)

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 48 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: D, BTEC: PPP, IB: 24  a Phortffolio 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. 

    Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith. 

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen    

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Ni fydd unrhyw arholiadau ar y cwrs hwn. Mae myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modwl, mae asesu crynodol yn digwydd ar ddiwedd modwl.

    Er mwyn cynnal uniondeb academaidd, defnyddir amrywiaeth o strategaethau. Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith ymarferol yn cynnwys elfennau ysgrifenedig ffurfiol o ryw fath: popeth o fformat traethawd safonol i bethau megis adroddiadau defnyddioldeb, dogfennau diffinio cynnyrch, ymatebion i bapurau academaidd arloesol neu feirniadaethau ohonynt, cyfnodolion dysgu, cynlluniau busnes, ac ati. Bydd yn rhaid i bob myfyriwr Lefel 6 gwblhau Traethawd Hir.

    O L4 ymlaen caiff myfyrwyr eu hasesu’n eang hefyd mewn cyflwyniadau, gan arwain ar L6 at y Prosiect Mawr. Gwelsom fod asesiad llafar (viva voce) yn addas iawn i’r gwaith a wnawn yn yr Ysgol, sydd yn debyg iawn i arfer celf gain ond â sail dechnegol.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.

    Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.

    Bydd ‘pecyn celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi, felly cysylltwch â ni cyn prynu unrhyw beth.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

  • Gallai graddedigion o’n rhaglen Dylunio Gemau Cyfrifiadurol ddatblygu arbenigedd mewn unrhyw rai o’r cyd-destunau diwydiannol canlynol:

    • Gemau ar y We a Dyfeisiau Symudol: dylunydd, artist 2D, artist 3D, cyfarwyddwr prosiect.
    • Datblygu Gemau Consol/PC: dylunydd lefel, dylunydd cymeriadau, modelydd cymeriadau, animeiddiwr, artist deunyddiau, artist goleuo, artist bwrdd stori, dylunydd lefel cynorthwyol, modelydd cymeriadau cynorthwyol, cynorthwyydd goleuo, artist gwead cynorthwyol, artist cysyniadau cynorthwyol, dylunydd gemau dan hyfforddiant, modelydd asedau, rhestr cwestiynau ac atebion am y gêm.
    • TÅ· Cynhyrchu Animeiddio: dylunydd cymeriadau, modelydd cymeriadau, animeiddiwr, artist deunyddiau, artist goleuo, artist bwrdd stori, cyfarwyddwr prosiect.
    • Newyddiadurwr gemau.

    Mae myfyrwyr ar y cwrs wedi gweithio ar nifer o gemau sydd wedi’u canmol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan gynnwys Grand Theft Auto 5, Alien: Isolation, a Lego Star Wars 3. Mae gan y cwrs gysylltiadau â chwmnïau gemau megis:

    • EA
    • Rockstar North
    • Creative Assembly
    • Media Molecule
    • Traveller’s Tales
    • Fusebox Games
    • Blizzard