Animeiddio a VFX (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)
Mae’r HND mewn Animeiddio a VFX yn rhoi i chi gyflwyniad cynhwysfawr i fyd animeiddio digidol ac effeithiau gweledol. Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn mewn agweddau creadigol a thechnegol ar y maes, gan eich galluogi i ddod â’ch syniadau dychmygus yn fyw drwy ddefnyddio offer a thechnegau o safon diwydiant. Drwy gydol y rhaglen, cewch gyfle i ddatblygu portffolio o waith sy’n arddangos eich sgiliau mewn animeiddio a VFX, gan eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol yn y diwydiant cyffrous ac esblygol hwn.
Byddwch yn archwilio pob cam o’r broses animeiddio a chynhyrchu VFX, gan ddysgu sut i greu cynnwys digidol o’r cysyniad cychwynnol i’r cynnyrch terfynol. Mae hyn yn cynnwys cael eich hyfforddi i ddefnyddio meddalwedd fel MAYA, Z-Brush, ac Unreal Engine, a ddefnyddir ar draws y diwydiant. Bydd ein gweithdai yn eich tywys drwy gamau allweddol cynhyrchu, gan gwmpasu popeth o fodelu 3D a dylunio cymeriad i effeithiau gweledol a chyfansoddi. Drwy weithio ar brosiectau o’r byd go iawn, byddwch yn ennill y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ffynnu yn y maes cystadleuol hwn.
Yn ogystal ag elfennau ymarferol y cwrs, byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau meddwl deallusol a beirniadol. Byddwch yn archwilio cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol animeiddio a VFX, gan eich galluogi i ddeall sut mae’r ffurfiau celf hyn yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd. Bydd hyn yn eich helpu i greu gwaith sydd nid yn unig yn fedrus yn dechnegol ond sydd hefyd yn ystyrlon ac yn effeithiol.
Mae’r HND yn cwmpasu ystod eang o bynciau, gan sicrhau eich bod yn cael dealltwriaeth gyflawn o’r maes. Byddwch yn astudio meysydd fel cynhyrchu rhithwir, graffeg symud, ac animeiddio cyfrifiadurol, gan roi’r offer i chi lwyddo mewn amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol, gan gynnwys ffilm, teledu a gemau fideo. Mae’r cwrs hefyd yn rhoi pwyslais ar ddatrys problemau a chreadigrwydd, gan eich annog i feddwl yn feirniadol am eich gwaith a chynnig atebion arloesol i heriau cynhyrchu cymhleth.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein Hathroniaeth
Rydym yn credu mewn dull cyfannol o ddysgu ac addysgu sy’n cyfuno archwilio creadigol â meistrolaeth dechnolegol. Ein nod yw rhoi sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddeallusol i fyfyrwyr, gan feithrin arloesedd a datblygiad proffesiynol trwy gydol eu hastudiaethau. Mae ein staff yn artistiaid ac animeiddwyr angerddol, sydd wedi ymrwymo i ddarparu’r gefnogaeth orau i helpu’ch gwaith i sefyll allan.
Rydym yn cynnig cyfleoedd i ddod â’ch dychymyg a’ch straeon yn fyw, dod o hyd i’ch angerdd, a gwireddu eich breuddwydion. P’un a bod gennych chi ddiddordeb mewn ffilm, dylunio cysyniadol, modelu neu unrhyw fath o animeiddio, rydym yn eich helpu i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n ei garu a dod ag ef yn fyw. Boed hynny’n 2D, stop-symud, 3D — mae animeiddio digidol yn llwyr-ymdrochol.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn animeiddio a VFX trwy fodiwlau fel Astudiaethau Gweledol a Chyflwyniad i Animeiddio Cymeriadau. Byddwch yn archwilio cynhyrchu rhithwir, modelu 3D, a dylunio’r amgylchedd, tra hefyd yn datblygu eich sgiliau academaidd a phroffesiynol. Byddwch yn cael dealltwriaeth o safbwyntiau animeiddio ac effaith gadarnhaol VFX.
(10 Credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 Credydau)
(10 Credydau)
(10 Credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau gyda modiwlau fel Animeiddio Cymeriadau Uwch a Mecaneg y Corff ac Animeiddio Creaduriaid. Byddwch yn archwilio dylunio cynhyrchu rhithwir, technegau animeiddio arbrofol, ac effeithiau gweledol, wrth ddatblygu eich crefft greadigol. Bydd dylunio sain yn ategu eich gwaith gweledol, gan wella ansawdd eich cynhyrchiad cyffredinol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(10 Credydau)
(20 credydau)
(10 Credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
80 o Bwyntiau Tariff UCAS
-
e.e. Safon Uwch: BB, BTEC: DMM, IB: 28 a Phortffolio
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Mae llawer o’r briffiau a gwaith cwrs a’r gwaith y bydd rhaid i chi ei gyflwyno yn gofyn i chi greu rhywbeth ffres, newydd, ysbrydoledig – a’r cyfan yn ffocysu ar y diwydiant. Bydd gennych fewnbwn creadigol ar fydau newydd a dychmygus.
Tiwtorialau, darlithoedd, cyflwyniadau, crynodebau ac ymarferion a gyfoethogir yn weledol – gyda golwg ar gysyniad bob tro; gan feddwl o hyd am sut i ymestyn y gwaith hwn ar gyfer riliau arddangos. Yn aml, bydd adborth wedi’i ddarlunio a/neu’n llawn awgrymiadau mwy gweledol i helpu gyda dyluniadau amgen, symudiadau, strwythur naratif, ayb, ayb.
Gofynnwn i chi ddefnyddio cit anhygoel. Rydym yn harneisio technoleg – yn ei reoli – trwy ddarlunio, cintiqs, gwneud modelau, meddalwedd 2D a 3D, technegau cynhyrchu a setiau sgiliau.
Rydym yn darparu llawer o’r pethau sylfaenol, gyda heriau penodol i’ch dechrau ar y daith – ac i mewn i AU – gan ofyn i chi anelu’n uchel.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Byddwn ni’n darparu’n deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Disgwylir i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudiaethau a rhoi gwybod i chi am gyflenwyr priodol pe baech yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn neu yn ystod eich astudiaethau.
Bydd ‘pecyn offer celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei agen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) er mwyn i chi fynd ati i wneud eich gwaith cwrs, gallech ddod â’ch dyfeisiau digidol eich hun gyda chi, ond eto, cysylltwch â ni’n gyntaf cyn prynu unrhyw beth.
Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer teithiau tramor – mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac fel arfer ar brisiau gostyngedig i’n myfyrwyr.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Gall myfyrwyr fanteisio hefyd ar y cyfle i astudio am semester yn UDA a Canada
-
Cerrig sarn i ddiwydiant!
Mae bod yn berchen ar radd animeiddio yn caniatáu i chi feddwl am lawer o wahanol ddiwydiannau – a bydd gennych sgiliau trosglwyddadwy er mwyn gallu symud o un i’r llall. Mae gan rai o’n graddedigion eu cwmnïau gemau, delweddu neu gynhyrchu eu hunain. Mae rhai’n gweithio fel entrepreneuriaid ar eu brandiau eu hunain. Mae llawer yn dod o hyd i waith ar brosiectau, ffilmiau hir ac mewn tai cynhyrchu eithriadol.
Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn timau sy’n ennill Oscars ac ar ffilmiau nodwedd.
- Boxtrolls
- Captain America
- Chronicles of Narnia
- Fantastic Beasts
- Guardian of the Galaxy
- Hotel Transylvania
- Iron Man 2
- Jungle Book
- Kubo and The Two Strings
- Man of Steel
- Prometheus
- Skyfall
- Thor
- World War Z
a llawer iawn mwy.