ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Technoleg Cerddoriaeth Greadigol (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
120 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd Technoleg Cerddoriaeth Greadigol wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau artistig, technegol, creadigol a phroffesiynol sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau cerddoriaeth.  Mae’r radd hon yn un ymarferol iawn sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, Mae’n cynnig ymagwedd aml-sgilio sy’n cynnwys cyfansoddi, dadansoddi, recordio a chynhyrchu. 

Byddwch yn datblygu eich sgiliau cynhyrchu cerddoriaeth, gan ddysgu sut i gyfleu mynegiant personol a dychmygol wrth gynhyrchu cerddoriaeth ymarferol.  Byddwch hefyd yn datblygu arbenigedd mewn cerddoriaeth wedi’i recordio a chynhyrchiad sain wedi’i gymhwyso.  Mae natur y rhaglen sy’n seiliedig ar brosiect yn golygu gallwch deilwra aseiniadau i’ch diddordebau eich hun o fewn maes eang cynhyrchu technoleg cerddoriaeth. 

Mae’r cwrs yn cwmpasu ystod eang o dechnegau technoleg cerddoriaeth ac adnoddau, gan eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o’r maes. Byddwch yn datblygu dulliau ymholi, dadansoddi, arloesedd a chreadigol ar gyfer cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth. 

Byddwch yn cael mewnwelediad i faterion busnes a chyfreithiol yn ymwneud â chymhwyso technoleg gerddoriaeth yn yr amgylchedd masnachol.  Mae hyn yn dysgu sut i gynhyrchu a chyfathrebu cysyniadau gwreiddiol sy’n adeiladu ar yr wybodaeth a ddatblygwyd yn yr adrannau addysgu o’r rhaglen. 

Mae ein gradd yn darparu cymwysterau o’r radd flaenaf a mynediad at y dechnoleg cerddoriaeth ddiweddaraf. Byddwch yn gweithio ar brosiectau sy’n cynnwys dylunio sain, cerddoriaeth electronig, a cherddoriaeth arbrofol, gan eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd yn y sector sain. Mae perfformiadau byw, cyfansoddi a pherfformio, a chelfyddydau sonig hefyd yn rhan o’r cwrs. 

Mae’r cwrs sydd wedi’i arwain gan ymarfer wedi’i dylunio i gadw eich diddordeb a theimlo’n gyffrous am eich astudiaethau. Mae ein cysylltiadau cryf â’r sin gerddoriaeth leol yn eich darparu â digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r hyn rydych yn ei ddysgu mewn lleoliadau byd go iawn.  

Byddwch wedi datblygu portffolio cynhwysfawr o waith sy’n arddangos eich sgiliau a’ch creadigrwydd erbyn diwedd y cwrs.  Bydd hyn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant cerddoriaeth, ymchwil pellach, a datblygiad proffesiynol parhaus.  Byddwch yn gymwys i gyfrannu at synau dyfodol y byd cerddorol a rhagori mewn arfer technoleg cerddoriaeth gyfoes.  

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
J931
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
120 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Staff profiadol sydd ag arbenigedd helaeth.
02
Cyfleoedd cydweithredol gwych ym mhob disgyblaeth yng Ngholeg Celf Abertawe.
03
Cymorth un-i-un ym mhob prosiect pwysig yr ymgymerir ag ef.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar feithrin eich sgiliau creadigol a thechnegol drwy brofiad ymarferol ac ymgysylltu â’r diwydiant. Ein nod yw datblygu gweithwyr proffesiynol cyflawn sy’n barod i greu effaith sylweddol yn y diwydiant cerddoriaeth. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio sylfeini dysgu digidol a heriau cyfoes. Byddwch yn gwella’ch sgiliau creadigol a dadansoddol drwy brosiectau amrywiol, gan ddatblygu sylfaen gadarn mewn triniaeth sain, cyfansoddiad stiwdio, a pheirianneg. Mae’r flwyddyn hon wedi’i chynllunio i’ch cyflwyno i gysyniadau ac offer hanfodol technoleg gerddoriaeth.

Gorfodol 

Ffyrdd o feddwl

(10 credydau)

Ffyrdd o Ganfod

(10 credydau)

Trin Sain Creadigol

(20 credydau)

Y Cyfansoddwr Stiwdio

(20 credydau)

Y Peiriannydd Stiwdio

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Mae eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau technegol a’ch galluoedd creadigol. Byddwch yn gweithio ar adeiladu eich brand personol, deall creadigrwydd a chreu gwerth, a defnyddio’r cysyniadau hyn mewn lleoliadau ymarferol. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau stiwdio, dylunio sain ar gyfer y sgrin, a recordio mewn lleoliadau, gan eich paratoi ar gyfer senarios cynhyrchu sain yn y byd go iawn.  Yn ogystal, bydd sgiliau ymchwil yn cael eu datblygu i gefnogi eich ymdrechion creadigol.

Gorfodol 

Ymchwil mewn Cyd-destun

(10 credydau)

Ymchwil ar Waith

(10 credydau)

Dylunio Sain ar gyfer y Sgrin

(20 credydau)

Prosiect Stiwdio

(20 credydau)

Y Stiwdio Gynaliadwy

(10 credydau)

Recordio ar Leoliad

(10 credyd)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn atgyfnerthu eich gwybodaeth drwy brosiectau mawr a modylau arbenigol.  Byddwch yn gweithio ar brosiect annibynnol, cynhyrchu fideos cerddoriaeth a thechnegau meistroli a chynhyrchu. Bydd y ffocws ar greu portffolio proffesiynol a rîl arddangos, gan arddangos eich sgiliau a’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Cynhyrchu Fideos Cerddoriaeth

(20 credydau)

Portffolio Terfynol a Fideo Arddangos

(40 credydau)

Mastro a Chynhyrchu

(20 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities

Cyfleusterau 

Edrychwch ar ein Cyfleusterau Technoleg Cerddoriaeth Greadigol

Mixing desk

Meet our Students

°ä·É°ù»å»å&²Ô²ú²õ±è;â‵µ&²Ô²ú²õ±è;²Ñ²â´Ú²â°ù·É²â°ù

Gwybodaeth allweddol

  • 120 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDM, IB: 33 a Phortffolio  

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. 

    Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith. 

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen    

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • – Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE). 

    Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol.  Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau. â€¯ 

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Cyfweliad 

    Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.  

    Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.  

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk

    Portffolio 

    Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.

    Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.

  • Caiff myfyrwyr sydd ar y rhaglen eu hasesu’n bennaf ar eu portffolio a’u hallbwn creadigol, eu cyfansoddiadau, eu recordiadau, eu cynyrchiadau a’u prosiectau creadigol ac ati.

    Drwy’r holl brosiectau yr ymgymerwyd â nhw, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau ymarferol yn ogystal â dealltwriaeth o egwyddorion damcaniaethol.

    Mae’r cwrs yn asesu dealltwriaeth y myfyrwyr o rolau niferus technoleg wrth greu cerddoriaeth, gan gymryd ymagwedd aml-sgil a rhoi i fyfyrwyr y cyfle i arbenigo mewn meysydd yr hoffent yrfa ynddynt yn ddiweddarach.

  • Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r defnyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.

    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol wrth ymestyn eu hymchwil i’w harfer personol. Er enghraifft, prynu eu defnyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn teithiau astudio dewisol, ac argraffu. 

    Disgwylir i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw wrth ddechrau ar y cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd eu hangen ar gyfer eich cwrs astudio a’ch cyfeirio chi at gyflenwyr priodol i brynu eitemau hanfodol cyn neu yn ystod eich astudiaethau.

    Bydd ‘pecyn offer celf a dylunio’ sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd eu hangen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Hefyd, er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (Cyfrifiadur Personol a MAC) i chi gyflawni eich gwaith cwrs, efallai yr hoffech ddod â’ch dyfeisiau digidol eich hun, felly eto cysylltwch â ni’n gyntaf cyn prynu unrhyw beth.

    Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer ymweliadau tramor – mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac fel arfer ar brisiau gostyngedig i’n myfyrwyr.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn UDA, Ewrop a Chanada.

  • Mae’r diwydiant adloniant, ac yn enwedig y cyfryngau sydd wedi’u recordio a’r rhai sy’n cael eu darlledu, wedi tyfu’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae’r diwydiant yn cyflogi nifer mawr o bobl sydd wedi’u dosbarthu ar draws ystod o wahanol weithgareddau.

    Ar hyn o bryd, mae tua thri chant o gwmnïau recordio wrthi yn y DU, o labeli arbenigol bychain i gwmnïau rhyngwladol mawr.  Y mae sawl mil o stiwdios recordio ar gael, ynghyd â miloedd o leoliadau ar gyfer perfformiadau byw, hefyd cwmnïau llogi offer sain a gwneuthurwyr offer sain. Yn ychwanegol i hyn, ceir cwmnïau cynhyrchu setiau teledu, dylunwyr gemau cyfrifiadurol, darparwyr cynnwys ar gyfer y rhyngrwyd, i enwi ychydig ohonynt, ac mae angen ar bob un o’r rhain sgiliau technoleg cerddoriaeth. 

    Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r cynnydd mawr yng ngwerthiant cyfrifiaduron cartref a systemau sinema sain amgylchynol wedi cynnig cyfleoedd mewn meysydd sy’n ymwneud â systemau sain amgylchynol a thechnoleg glywedol gysylltiedig.