
Perfformio Lleisiol (Llawn amser) (BMus Anrh)
Chi, y canwr, sy’n ganolog i’n gradd BMus Perfformio Lleisiol. Mae wedi’i chreu’n benodol ar gyfer cantorion, gan gynnig cyfle i chi archwilio llawer o feysydd o fewn y diwydiant a pharatoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae’r rhaglen hon yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar eich diddordebau penodol, gyda llwybrau mewn cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth boblogaidd, trwy gymysgedd o brosiectau dewisol ac annibynnol.
Ein nod yw eich helpu i ddod yn berfformiwr hyderus sy’n gallu mynd i’r afael â rolau yn y byd cerddorol. Datblygu eich sgiliau technegol mewn perfformio ac arfer trwy hyfforddiant galwedigaethol yw ein nod. Cewch hefyd sylfaen gref mewn dawn gerddorol, crefft lwyfan, ac ieithoedd.
Byddwch yn dysgu am dechnolegau perfformio a thechnegau recordio, yn ennill sgiliau cerddor sesiwn, a deall sut i drefnu seiniau lleisiol. Byddwch hefyd yn gweithio gydag eraill i greu perfformiadau ac yn dysgu i gydweithio â chyfarwyddwr a chyfarwyddwr cerddorol. Erbyn diwedd y rhaglen hon, bydd gennych sgiliau perfformio lleisiol uwch.
Un o nodweddion neilltuol ein rhaglen yw’r gwersi canu un-i-un a hyfforddiant repertoire un-i-un a gaiff eu darparu’n wythnosol, ymhob blwyddyn. Mae’r sesiynau hyn wedi’u teilwra i’ch diddordebau a’ch uchelgeisiau gyrfaol, gan gynnig dysgu sydd wedi’i bersonoli’n fanwl. Maent hefyd yn gyfle gwych i’n staff eich cefnogi ar lefel fugeiliol.
Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o berfformiadau. Mae’r rhain yn cynnwys cyngherddau a dosbarthiadau meistr a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau lleisiol, cerddorol a pherfformio, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel perfformiwr.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Ar y campws
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein Hathroniaeth
Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar hyfforddiant wedi’i bersonoli, sy’n sicrhau bod pob canwr yn datblygu ei lais a’i arddull unigryw. Trwy gyfuniad o hyfforddiant ymarferol ac astudio damcaniaethol, rydym yn paratoi myfyrwyr ar gyfer rolau amrywiol yn y diwydiant, gan feithrin sgiliau technegol, dawn gerddorol, a thwf proffesiynol. Wedi’i chyflwyno gan academyddion ac ymarferwyr arbenigol sy’n enwog yn genedlaethol a rhyngwladol, mae’r rhaglen hon yn cael ei chynnal mewn cyfleuster arbenigol yng Nghaerdydd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ffocysu ar adeiladu sylfaen cadarn mewn dawn gerddorol, technegau lleisiol a chrefft lwyfan. Byddwch yn archwilio gwahanol enres cerddorol ac yn dechrau datblygu eich sgiliau perfformio. Mae’r cwricwlwm yn cynnwys hyfforddiant prif astudiaeth un i un a phrosiectau cydweithredol i gyfoethogi eich profiad dysgu.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ym mlwyddyn dau byddwch yn ymchwilio’n ddyfnach i dechnegau lleisiol a sgiliau perfformio uwch. Byddwch yn astudio technegau recordio a sgiliau cerddor sesiwn, gan ddysgu i drefnu seiniau lleisiol a gweithio gyda thechnolegau perfformio. Bydd y flwyddyn hon hefyd yn cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn cyngherddau a dosbarthiadau meistr, gan ddarparu profiad o berfformio yn y byd go iawn.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credyd)
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich medrau canu ac yn arbenigo yn eich dewis faes. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect perfformio arwyddocaol, gan weithio’n agos gyda chyfarwyddwr neu gyfarwyddwr cerddorol. Bydd y flwyddyn hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol, gyda ffocws ar ddysgu wedi’i bersonoli a chyflawni eich uchelgeisiau gyrfaol.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(30 Credydau)
(30 credyd)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities

Cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol, Caerdydd
Mae ein myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd wedi’u lleoli yn NhÅ· Haywood ac mae ganddyn nhw fynediad at nifer o stiwdios ymarfer, yn cynnwys stiwdio ddawns gyda llawr dawnsio Harlequin, drychau symudol a Barrau Bale ynghyd â system sain Yamaha a phiano llwyfan, ystafell ddatganiadau a labordy cyfrifiadurol i gyd o fewn taith fer ar droed i ganol y ddinas. &²Ô²ú²õ±è;
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Cwrdd â’n Myfyrwyr
Gwybodaeth allweddol
-
90 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: A/B, BTEC: DDM, IB: 30, a Chlyweliad
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i berfformio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu clyweliadau a chyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr er mwyn asesu addasrwydd ar gyfer y cwrs a ddewiswyd.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadaui gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
³Ò´Ç´Ú²â²Ô¾±´Ç²Ô&²Ô²ú²õ±è;±õ²¹¾±³Ù³ó&²Ô²ú²õ±è;³§²¹±ð²õ²Ô±ð²µâ€¯
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Asesir y rhaglen hon drwy ystod o ddulliau sy’n cynnig cyfleoedd i gyflwyno dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol drwy gydol y cwrs. Mae nifer o’r dulliau yn cynnwys perfformiadau, portffolios, asesiadau technegol, recordio, profi electronig, trefnu, ffug glyweliadau, podlediadau, ysgrifennu traethodau a chyflwyniadau.
-
Gallai’r costau ychwanegol o gael gafael ar sgorau cerddorol, recordiadau neu destunau academaidd fod oddeutu £600 i £800 dros gyfnod y rhaglen.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Rhagwelir y bydd graddedigion y rhaglen Perfformio Lleisiol yn cychwyn eu gyrfaoedd fel perfformwyr, crewyr, athrawon, artistiaid recordio, ac o fewn amrywiol ddisgyblaethau cysylltiedig eraill. Gall y BMus (Anrh) Perfformio Lleisiol arwain hefyd at astudiaeth ôl-raddedig.