ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Dawns Fasnachol (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerdydd
3 Blynedd Llawn Amser
96 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n ddarpar artist dawnus sydd am ddechrau eich gyrfa yn y sector dawns fasnachol a chelfyddydau perfformio?  Mae ein Gradd Dawns Fasnachol yn cynnig platfform cynhwysfawr i’ch helpu i gyflawni’ch nodau.  Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch darparu â’r sgiliau angenrheidiol a dealltwriaeth o’r diwydiant, gan sicrhau eich bod yn gallu gweithio’n broffesiynol a chwrdd â’r galw cynyddol am berfformwyr medrus, hyblyg a dibynadwy.  

Mae’r rhaglen ddwys hon yn canolbwyntio ar hyfforddiant galwedigaethol mewn dawns, gan ddarparu amgylchedd dysgu ymarferol yn y stiwdio lle gallwch ddatblygu eich sgiliau technegol ac artistig.  Byddwch yn cael y cyfle i fireinio eich techneg a gwella eich sgiliau perfformio o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant drwy hyfforddiant proffesiynol.  

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â champws rhyngddisgyblaethol, gan ymgysylltu ag amrywiaeth o brosiectau dawns a arweinir gan staff gyda chefndiroedd proffesiynol helaeth.  Mae’r ymagwedd hon nid yn unig yn gwella eich sgiliau dawns, ond mae hefyd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ddawns broffesiynol.  Nod y cwrs hwn yw eich helpu i greu cyfleoedd gwaith a sicrhau swyddi o fewn y diwydiannu creadigol.  

Mantais arwyddocaol y radd hon yw’r mynediad i ystod eang o diwtoriaid o amrywiaeth o ddiwydiannau creadigol.  Mae’r arbenigwyr hyn yn gweithio’n agos gyda chi, gan ddarparu cefnogaeth a chymorth drwy gydol eich astudiaethau.  Bydd eu mewnweliadau a’u harweiniad yn amhrisiadwy wrth i chi lywio eich llwybr gyrfa.  

Mae’r cwrs yn cynnwys sawl modwl wedi’u rhannu â rhaglenni perfformio WAVDA, gan hyrwyddo cydweithredu a’ch cyflwyno i brosiectau amlddisgyblaethol.   Mae’r profiad hwn yn lledaenu eich gorwelion ac yn ehangu eich posibiliadau galwedigaethol.   Mae gweithio ar y prosiectau hyn yn caniatáu i chi ddefnyddio’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu mewn cyd-destun byd go iawn, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r diwydiant dawns.  

Mae ein Gradd Dawns Fasnachol yn ddelfrydol ar gyfer y rheiny sydd am droi eu hangerdd dros ddawns i yrfa ddawns broffesiynol.  Drwy ffocysu ar ddysgu ymarferol yn y stiwdio a chynnig cyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau dawns technegol, mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer eich dyfodol yn y diwydiant dawns, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes deinamig dawns fasnachol.   

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
COD1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant dawns fasnachol, waeth beth fo’ch cefndir neu brofiad o ddawns.
02
Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd i weithio gydag ymarferwyr a choreograffwyr presennol sy’n gweithio yn y diwydiant i ddatblygu prosiectau a pherfformiadau.
03
Trwy gydol y dair blynedd cewch gipolwg perthnasol ar y diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer cyflogaeth pan fyddwch wedi graddio.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein Hathroniaeth 

Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar ddarparu profiadau dysgu ymarferol. Rydym yn credu mewn meithrin talentau unigryw pob myfyriwr drwy hyfforddiant galwedigaethol mewn dawns, gan sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau technegol ac artistig.  Byddwn yn eich helpu i ddod yn artist dawns unigryw gyda dealltwriaeth ardderchog o’r diwydiant dawns gyfoes a’r sgiliau i gynnal eich gyrfa greadigol eich hun.  Mae ein dull rhyngddisgyblaethol yn annog cydweithio, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa ddawns broffesiynol. 

Bydd y flwyddyn hon yn canolbwyntio ar eich dealltwriaeth ac yn datblygu ystod amrywiol o sgiliau dawns technegol sydd eu hangen ar gyfer y diwydiant dawns fasnachol.  Byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau, wrth ddysgu am yr holl gamau ffitrwydd, maeth ac atal anafiadau pwysig i wrthsefyll gofynion y diwydiant. Yn ogystal, byddwch yn astudio modylau rhagarweiniol ar hanes ddawns a chyd-destunau diwydiant, gan eich helpu i ddeall tirwedd ehangach y diwydiannau creadigol.  Bydd y flwyddyn hon yn dod i ben gyda phrosiect perfformio a fydd yn cael ei arwain gan goreograffydd gwadd. 

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Dosbarth Actio

(10 credydau)

Dawns Fasnachol 1

(30 credydau)

Dawns Gyfoes 1

(20 credydau)

Prosiect Perfformio

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 1

(20 credydau)

Bydd eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau dawnsio ymhellach ac ehangu eich galluoedd perfformio.   Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau dawns mwy cymhleth, derbyn hyfforddiant proffesiynol gan arbenigwyr y diwydiant, ac yn dechrau arbenigo mewn arddulliau dawns o’ch dewis.  Bydd canolbwyntio ar dechnegau cyfweliad a chydweithio â chymheiriaid ar brosiectau rhyngddisgyblaethol yn ehangu eich posibiliadau galwedigaethol.  

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Hyfforddiant Dawns 2

(20 credydau)

Prosiect Cydweithredol

(20 credydau)

Sgiliau Clyweliad

(10 credydau)

Dawns Fasnachol 2

(30 credydau)

Labordy Dawns

(20 Credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich techneg ac yn paratoi ar gyfer y byd dawns broffesiynol.  Mae hyn yn cynnwys prosiectau perfformio uwch, sy’n eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant dawns fasnachol.  

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Diwydiannau Creadigol

(20 credydau)

Cynhyrchiad Terfynol

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol ar gyfer Perfformio

(30 Credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

FACILITIES

Mae tri myfyriwr yn ymarfer symudiadau dawns: cam sy’n swagro i’r dde gan glicio’r bysedd.

Cyfleusterau Perfformio, Dawns a Theatr Gerddorol, Caerdydd

Mae ein myfyrwyr sy’n astudio yng Nghaerdydd wedi’u lleoli yn NhÅ· Haywood ac mae ganddyn nhw fynediad at nifer o stiwdios ymarfer, yn cynnwys stiwdio ddawns gyda llawr dawnsio Harlequin, drychau symudol a Barrau Bale ynghyd â system sain Yamaha a phiano llwyfan, ystafell ddatganiadau a labordy cyfrifiadurol i gyd o fewn taith fer ar droed i ganol y ddinas. &²Ô²ú²õ±è;

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o Bwyntiau Tariff UCAS

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30 a Chlyweliad  

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i berfformio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. 

    Rydym yn trefnu clyweliadau a chyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr er mwyn asesu addasrwydd ar gyfer y cwrs a ddewiswyd.

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadaui gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Gall y brifysgol ystyried ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol os ydynt yn gallu dangos bod ganddynt lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.

    Fel rhan o’r broses gyfweld, bydd yn ofynnol i chi gymryd rhan yn y canlynol. 

    1. Dosbarth jazz dechnegol sy’n cynnwys cynhesu, ymarferion jazz technegol a chyfuniad byr neu ddawnsdrefn. 
    2. Dosbarth Masnachol technolegol lle  byddwch yn gweithio ar ddarn byr o goreograffi. 
    3. Cyfweliad â Chyfarwyddwr y Rhaglen a’r tîm, lle gofynnir cyfres o gwestiynau cyfweliad. Yna, byddwch yn cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am y cwrs. 

    Mewn rhai amgylchiadau, gallem dderbyn proses gyfweld ar-lein.  Gweler isod ar gyfer gofynion cyflwyno ar-lein: 

    Bydd angen i chi berfformio cyfres o ymarferion set jazz: 

    Cam 1 : Cyflwyniad wedi’i hunan-recordio

    1. Gan sefyll ar y smotyn, gwnewch 4 cic jazz i’r ffrynt a 4 cic jazz i’r ochr ar y ddwy goes. 

    2. Pirwét sengl yn gyfochrog i’r dde ac i’r chwith.

    3. Gyda choesau wedi’u troi allan – 8 naid yn gyntaf ac 8 naid yn ail. 

    4. Gyda choesau cyfochrog – 8 naid mewn paralel yn gyntaf ac 8 naid mewn paralel yn ail. 

    5. Dawnsdrefn jazz byr, dim mwy na 2 funud.  Os ydych eisoes wedi recordio neu ffilmio dawnsdrefn, sicrhewch ei fod yn glir pwy ydych chi os yw’n ddawnsdrefn grŵp

    6. Yn olaf, dawnsdrefn Fasnachol (dull o’ch dewis) dim mwy na 2 funud.  Os ydych eisoes wedi recordio neu ffilmio dawnsdrefn, sicrhewch ei fod yn glir pwy ydych chi os yw’n ddawnsdrefn grŵp.

    Sicrhewch eich bod yn nodi’r wybodaeth ganlynol ar ddechrau’r tapiau:

    • Enw llawn
    • Enw’r radd rydych chi’n gwneud cais amdani

    Cam 2: Cyfweliad

    Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad byr ar-lein gyda thîm y rhaglen, a fydd yn yr un fformat a nodwyd uchod. 

    Yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, bydd lle yn cael ei gynnig i ymgeiswyr.  Mae llefydd cyfyngedig ar gael bob blwyddyn. 

  • Asesir y rhaglen hon drwy ystod o ddulliau sy’n cynnig cyfleoedd i gyflwyno dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol drwy gydol y cwrs. Mae nifer o’r dulliau yn cynnwys perfformiadau, portffolios, ffug glyweliadau, asesiadau dosbarth, podlediadau, ysgrifennu traethodau a chyflwyniadau.

  • Byddai costau ychwanegol yn cynnwys prynu’r canlynol:

    • esgidiau bale
    • esgidiau jazz
    • sgidiau tap
    • leotardau
    • teits bale merched
    • legins du neillryw
    • top dawns dynion
    • esgidiau cymeriad merched
  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i roi i chi’r sgiliau angenrheidiol i fod yn artist dawns llwyddiannus. Drwy raddio’ o’r BA Dawns Fasnachol, byddwch wedi eich paratoi i ymgymryd â rolau fel:

    • Perfformiwr
    • Coreograffydd
    • Teithio
    • Dawns Ddigidol

    Mae’r radd hon hefyd yn agor y drws i amrywiaeth o gyfleoedd eraill mewn meysydd eraill drwy ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol trwy gydol y dair blynedd.