
Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant (Llawn amser) (MA)
Cwrs ôl-raddedig yw’r MA Theatr Gymhwysol: Cymuned, Addysg, Llesiant sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n angerddol am ddefnyddio theatr a drama i wneud gwahaniaeth mewn cymdeithas. Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio arfer cyfranogol mewn lleoliadau cymunedol, addysg a llesiant i greu newid cadarnhaol. Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio sut y gall theatr fod yn offeryn ar gyfer gwella bywydau unigolion a chymunedau, gallai’r cwrs hwn fod o ddiddordeb i chi.
Mae theatr gymhwysol yn gysyniad modern yn hanes theatr, ac mae’n cyfeirio at brosesau theatr a dramasy’n gyfranogol ac yn bwrpasol. Yn wahanol i theatr draddodiadol, lle mae’r gynulleidfa’n sylwedydd goddefol, mae theatr gymhwysol yn cynnwys cyfranogiad gweithredol, gyda’r nod o ysgogi trawsnewidiad cymdeithasol, addysgol a phersonol. Gellir defnyddio’r math hwn o theatr mewn cyd-destunau amrywiol, o ysgolion i ganolfannau cymunedol, ysbytai i garchardai, a theatrau i gartrefi.
Mae theatr ar gyfer newid cymdeithasol yn ffocws allweddol sy’n defnyddio dulliau theatr i archwilio materion pwysig megis anghydraddoldeb, iechyd ac addysg. O fewn hyn, rydym yn mynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol, cynwysoldeb a chydraddoldeb mewn gofodau theatr gymhwysol a’r tu hwnt gan archwilio dulliau hwyluso beirniadol, ymchwiliadau moesegol a dynameg pŵer mewn gofodau creadigol. Mae hyn yn arwain at waith sydd â’r potensial i effeithio ar fywydau unigol, cymunedau ac i ddylanwadu ar normau cymdeithasol a gwerthoedd diwylliannol ehangach.
Mae’r cwrs yn berffaith ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr. Bydd y cwrs hwn yn arbennig o berthnasol i chi os ydych wedi graddio yn y celfyddydau perfformio, addysg neu waith ieuenctid ac mae gennych angerdd dros newid cymdeithasol. Mae hefyd yn ddelfrydol os ydych yn ymarferydd newydd neu brofiadol sydd am ehangu eich sgiliau a’ch hyder mewn lleoliadau cyfranogol ac atgyfnerthu’ch gwaith gydag arfer myfyriol dwfn neu os ydych yn addysgwr creadigol sydd am ymgorffori dulliau theatr gymhwysol yn eich addysgu.
Byddwch yn ymgysylltu â theori ac arfer trwy gydol y cwrs, gyda chyfleoedd i archwilio arferion theatr fyd-eang a theatr gynhwysol. Fe gewch y wybodaeth a’r sgiliau i allu defnyddio theatr mewn ffyrdd sy’n ymwybodol yn gymdeithasol ac wedi’u hanelu at gael effaith gadarnhaol ar gymunedau.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu yn annog ymreolaeth ac annibyniaeth, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar eich arbenigeddau unigol ac archwilio meysydd newydd ar yr un pryd. Gyda chysylltiadau cryf â sefydliadau lleol a chenedlaethol, mae’r cwrs yn gorffen gyda’r Prosiect Theatr Gymhwysol Mawr, lle byddwch yn datblygu prosiect sylweddol yn eich maes diddordeb.
Byddwch yn defnyddio theori ac arfer mewn theatr gymhwysol drwy gydol y cwrs, gan ganolbwyntio ar sut y gall arfer theatr gymhwysol ac arfer sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol greu newid mewn lleoliadau cymunedol, addysg a llesiant. Byddwch yn cael profiad o ddosbarthiadau meistr sy’n eich cyflwyno i amrywiaeth o arferion theatr gymhwysol. Byddwch yn twrio’n fanwl i rôl ac arfer ymarferydd theatr gymhwysol ac yn cael y cyfle i weithio gyda sefydliadau lleol megis Hinjinx Theatre, People Speak Up a Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru. Mae’r flwyddyn yn dod i ben gyda’ch Prosiect Theatr Gymhwysol Mawr, lle byddwch yn datblygu prosiect yn annibynnol sy’n adlewyrchu eich arbenigedd a’ch diddordebau proffesiynol.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 Credydau)
(30 Credydau)
(30 Credydau)
(60 Credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd gan fyfyrwyr brofiad o’r celfyddydau perfformio a/neu o arfer celfyddydau cyfranogol yn ogystal â gradd 2:2 neu uwch mewn pwnc perthnasol, neu bydd ganddynt brofiad proffesiynol helaeth mewn maes perthnasol. Hefyd, byddwn yn gwahodd pob ymgeisydd i gael cyfweliad anffurfiol a/neu i weithdy lle mae disgwyl iddynt arddangos ymrwymiad priodol mewn gweithdy ymarferol.
Gradd anrhydedd 2:2 
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen 
-
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
-
Nod yr asesiadau yw creu cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu trwy greu cyd-destunau theatr gymhwysol gwirioneddol a rhai efelychiadol. Mae asesu wedi’i gydbwyso’n ofalus ar draws y rhaglen er mwyn sicrhau bod amrywiaeth o wahanol ffyrdd i fyfyrwyr arddangos yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu ar draws y gyfres fodiwlau. Mae’r asesiadau’n seiliedig ar bortffolio a gallant gynnwys: cyflwyniadau, hwyluso prosiectau, hwyluso gweithdai, dogfennau ysgrifenedig, traethodau gweledol, perfformiadau byw a dyddiaduron myfyriol.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Costau teithio ar gyfer brosiectau a lleoliadau: Hyd at £300, gorfodol
Gliniadur/offer cyfrifiadurol personol ar gyfer aseiniadau: Hyd at £500, i’w ysgwyddo o reidrwydd
Offer ar gyfer arwain gweithdai: Hyd at £200, dewisol
Mae’r holl gostau ychwanegol a nodir yn yr adran hon yn ddangosol. Er enghraifft, gallai’r union gostau sy’n gysylltiedig â theithiau amrywio o flwyddyn i flwyddyn.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.