ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Pobl Ifanc, Cymunedau a Gwaith Ieuenctid: Llwybr Ôl-Gymhwyso (PGDip)

Caerfyrddin
1 Flwyddyn Llawn amser
Gradd anrhydedd (o leiaf 2:2)

Mae’r rhaglen Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol (PGDip) wedi’i chynllunio i gefnogi myfyrwyr i ddod yn weithwyr ieuenctid medrus a chymwys gyda chymhwyster proffesiynol cydnabyddedig sydd wedi’i gymeradwyo gan Safonau Hyfforddiant Addysg Cymru (ETS). Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am wneud gwahaniaeth drwy weithio’n agos gyda phobl ifanc a chefnogi eu datblygiad. Mae’r PGDip yn darparu sylfaen drylwyr mewn gwaith ieuenctid, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa ystyrlon mewn lleoliadau cymunedol ac ieuenctid.

Mae’r rhaglen hon yn annog myfyrwyr i dyfu’n weithwyr proffesiynol meddylgar ac effeithiol, gan adeiladu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hyder mewn gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae’n canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth mewn gwaith ieuenctid, gan arwain myfyrwyr i gydbwyso sgiliau ymarferol â meddwl yn feirniadol. Caiff myfyrwyr eu hannog i fyfyrio ar eu nodau dysgu a chymryd rhan weithredol yn eu datblygiad, gan feithrin annibyniaeth ac ymdeimlad o bwrpas yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae’r cwrs yn cymryd ymagwedd gwyddorau cymdeithasol, gan archwilio heriau allweddol y mae pobl ifanc yn eu hwynebu heddiw. Mae’r rhain yn cynnwys materion fel trawma, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, camddefnyddio sylweddau, ac effaith gweithgareddau Llinellau Sirol. Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu meysydd pwysig fel hawliau plant, iechyd a lles, ac effeithiau perthnasoedd ar fywydau ifanc. Drwy ddeall y materion cymhleth hyn, bydd myfyrwyr yn dod yn gymwys i fynd i’r afael â nhw mewn ffyrdd ymarferol ac ystyrlon, sydd wedi’u hymrwymo i werthoedd diogelu a moeseg.

Rhan hanfodol o’r rhaglen yw’r lleoliad gwaith ieuenctid, lle gall myfyrwyr gymhwyso’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu mewn lleoliadau yn y byd go iawn. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig profiad ymarferol, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael dealltwriaeth ymarferol o wasanaethau ieuenctid, rheoli prosiectau, ac ysgrifennu ceisiadau. Mae’r profiad hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu’r sgiliau i gynllunio, trefnu ac arwain yn effeithiol mewn amgylcheddau gwaith ieuenctid. Mae lleoliadau hefyd yn helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau ymchwil cryf, dealltwriaeth o bolisi mewn ymarfer, ac ymdeimlad o empathi sy’n hanfodol ar gyfer cefnogi pobl ifanc.

Wedi’i chynnig fel rhaglen astudio amser llawn, mae’r PGDip Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol yn hyrwyddo cydweithredu a phroffesiynoldeb. Mae graddedigion yn barod iawn i ymgymryd â rolau ieuenctid a chymunedol sy’n cael effaith gadarnhaol. Gyda sylfeini cryf o ran arweinyddiaeth, diogelu a moeseg, mae’r rhaglen yn berffaith i’r rhai sydd wedi ymrwymo i gefnogi a dyrchafu pobl ifanc trwy eu gwaith mewn gwasanaethau cymunedol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser
Gofynion mynediad:
Gradd anrhydedd (o leiaf 2:2)

Pam dewis y cwrs hwn

01
Ennill cymhwyster sy'n cael ei gymeradwyo'n broffesiynol a chymhwyster ôl-raddedig academaidd.
02
Archwilio ymarfer gyda phobl ifanc a'u cymunedau trwy gymryd rhan mewn cyfleoedd lleoliadau gwaith ieuenctid ymhlith ystod eang o bobl ifanc a lleoliadau cymunedol..
03
Y Drindod Dewi Sant yw’r unig le y gallwch astudio’r radd hon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein dull gweithredu yn pwysleisio dysgu myfyriol, ymarferol i baratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith ieuenctid go iawn ac addysg gymdeithasol. Trwy gydbwyso theori â chymhwyso ymarferol, ein nod yw datblygu gweithwyr proffesiynol medrus a hyblyg sy’n gallu arwain yn hyderus a chael effaith gadarnhaol mewn lleoliadau ieuenctid a chymunedol.

Ym Mlwyddyn 1, mae myfyrwyr yn archwilio sylfeini gwaith ieuenctid drwy fodylau craidd ar theori, polisi ac ymarfer. Maent yn archwilio materion sy’n ymwneud ag ieuenctid, dulliau ymchwil gymdeithasol, ac yn datblygu dealltwriaeth o rôl pobl ifanc mewn cymdeithas. Mae modylau dewisol yn eu galluogi i ddyfnhau gwybodaeth mewn meysydd fel arweinyddiaeth, hawliau plant, cymunedau cynaliadwy, a defnyddio theatr mewn gwaith ieuenctid.

Gorfodol

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol 1: Theori, Polisi ac Arfer Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol 2: Pobl Ifanc a Chymdeithas mewn Ffocws

(30 credydau)

Dewisol

Cymunedau Cynaliadwy

(30 credydau)

Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

(30 credydau)

Cymhwyso Dulliau Theatr mewn Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol

(30 credyd)

Arwain mewn Hawliau Plant: Datblygu Ymarfer Proffesiynol

(30 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Fodd bynnag, bydd ymgeiswyr sydd â chymhwyster a phrofiad galwedigaethol hefyd yn cael eu hystyried. 

    Mae’r Llwybr Ôl-gymhwyso yn darparu ar gyfer ymarferwyr sydd eisoes â chymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid. Mae’r llwybr datblygedig hwn wedi’i deilwra ar gyfer gweithwyr proffesiynol profiadol sy’n ceisio dyfnhau eu dealltwriaeth a’u harbenigedd mewn Gwaith Ieuenctid ar lefel Ôl-raddedig, gan gynnig cyfleoedd astudio mwy arbenigol a manwl.

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

  • Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr.    Nid oes unrhyw arholiadau.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Gorfodol: 
    Costau DBS.

    Costau Angenrheidiol:
    Costau teithio yn ôl ac ymlaen i leoliadau (mae dau leoliad).

    Optional:
    Dim

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Caiff graddedigion MA a  PgDip Gwaith Ieuenctid ac  Addysg Gymdeithasol (Ardystiad ETS) gymhwyster cydnabyddedig mewn gwaith ieuenctid. Gellir ystyried y cymhwyster proffesiynol hwn yn basbort i ymarfer, oherwydd bod y cymhwyster yn cael ei gydnabod ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac mewn llawer o wledydd ar draws y byd.

    Mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir, gan weithio wyneb yn wyneb â phobl ifanc neu’n gweithio ar lefelau rheoli.  Fodd bynnag, mae’r cymhwyster gwaith ieuenctid yn adnabyddus am ei allu i drosglwyddo i feysydd cysylltiedig ehangach, sy’n dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i lawer o leoliadau eraill, a’u bod yn sgiliau a groesawir o fewn timau aml-ddisgyblaethol.

    Dyma nifer o enghreifftiau penodol o gyrchfannau graddedigion:

    • Gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn ystod o gyd-destunau
    • Addysg gymunedol
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Timau o Amgylch y Teulu
    • Rheolwr Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Uwch Swyddogion Ieuenctid mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Local Government Officer
    • Prif Swyddog Ieuenctid
    • Darlithwyr mewn Addysg Uwch
    • Darlithwyr mewn Addysg Bellach

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau