ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (Rhan amser) (MA)

Abertawe
3 Blynedd Rhan amser (yn cynnwys 2 flynedd a addysgir a 12 mis o ymchwil)

Wedi’i lleoli ar ein campws yn Abertawe, mae’r rhaglen MA Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymunedauyn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn y gweithlu plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n ceisio cychwyn neu ddatblygu gyrfa yn y maes boddhaus hwn. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ymarferol lefel uchel trwy astudiaeth drylwyr o ddatblygiad plant, gwaith ieuenctid a chymunedol, a dulliau effeithiol o hyrwyddo newid cymdeithasol cadarnhaol. Gan gyfuno theori ac ymchwil ymarferol, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau hanfodol sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’w rolau presennol neu rolau yn y dyfodol ym maes gwasanaeth cymunedol.

Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro i ddiwallu anghenion ymarferwyr proffesiynol wrth eu gwaith, gan ddarparu fformat astudio hyblyg sy’n cyfuno dysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. P’un a ydych chi’n fyfyriwr llawn amser neu’n cydbwyso astudio â gyrfa, mae’r dull hwn yn ei gwneud yn bosibl ennill cymhwyster proffesiynol wrth ddatblygu sgiliau y gellir eu cymhwyso ar unwaith yn y maes. Gall myfyrwyr ddewis astudio naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, gan hyrwyddo arfer cynhwysol o fewn y rhaglen.

Drwy gydol y radd hon, bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i archwilio a gwerthuso ymchwil mewn datblygiad plant a gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae hyn yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddofn o’r materion sy’n siapio bywydau pobl ifanc ac yn galluogi myfyrwyr i feirniadu ymchwil a damcaniaethau presennol yn effeithiol. Mae’r rhaglen yn pwysleisio gwybodaeth gymhwysol a’i nod yw cefnogi myfyrwyr wrth gynhyrchu eu hymchwileu hunain  sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwasanaeth cymunedol ac â’r newid cymdeithasol cadarnhaol y maent am ei annog o fewn y sector.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Rhan amser (yn cynnwys 2 flynedd a addysgir a 12 mis o ymchwil)

Pam dewis y cwrs hwn

01
Hyblygrwydd: gall y cwrs hwn addasu i gyd-fynd â’ch amserlen.
02
Cydweithio: mae’n creu cyfleoedd i chi ymgysylltu â’ch cyfoedion ym mhob modwl.
03
Ffocws: os ydych chi’n weithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â’r gweithlu plant a phobl ifanc, mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i’ch cefnogi a’ch herio.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen MA Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymunedol yn canolbwyntio ar arfer adfyfyriol, dadansoddi beirniadol a chymhwyso ymarferol. Mae’r rhaglen hon yn eich grymuso i ymgysylltu’n ystyriol ag ymchwil ac arfer proffesiynol, gan feithrin yr arbenigedd a’r hyder sydd eu hangen i greu newid cadarnhaol a pharhaol yn eich gwaith gyda phlant, pobl ifanc a chymunedau.

Mae’r rhaglen yn cynnwys modylau fel Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Gymdeithasol ac Adfyfyrdodau Beirniadol ar Arfer Academaidd a Phroffesiynol, gan sefydlu sylfaen mewn egwyddorion ymchwil, ystyriaethau moesegol, ac ymgysylltu beirniadol â materion yng ngwasanaethau plant a phobl ifanc. Mae’r modylau hyn yn darparu sgiliau hanfodol wrth werthuso ymchwil a pholisi, gan feithrin sail gref ar gyfer dysgu adfyfyriol ac ymarferol.

Mae modylau dewisol yn eich galluogi i deilwra eich profiad dysgu. Mae dewisiadau fel Cymunedau Cynaliadwy, Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Ymarferwyr Proffesiynol, a Safbwyntiau Beirniadol mewn Polisi, Cynllunio a Darparu yn eich galluogi i ddyfnhau eich dealltwriaeth o feysydd penodol o fewn gwasanaethau ieuenctid a chymunedol. Ymhlith yr opsiynau eraill mae Dylunio a Rheoli Ymchwil ar gyfer Arfer Proffesiynol, Llesiant a Pherthyn yn y Blynyddoedd Cynnar, Datblygu Chwilfrydedd Proffesiynol: Adolygiad Beirniadol o Lenyddiaeth, a Dysgu Plant Ifanc, sy’n cynnig yr hyblygrwydd i ddatblygu arbenigedd mewn meysydd sy’n cyd-fynd â’ch nodau proffesiynol.

Gorfodol

Athroniaeth ac Arfer Ymchwil Cymdeithasol

(30 credydau)

Traethawd Hir: Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg

(60 credydau)

Adfyfyrio’n Feirniadol ar Arfer Academaidd a Phroffesiynol

(30 credyd)

Dewisol

Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol

(30 credydau)

Asesu a Chydnabod Dysgu Blaenorol

(60 credydau)

Cymunedau Cynaliadwy

(30 credydau)

Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

(30 credydau)

Safbwyntiau beirniadol mewn polisi, cynllunio a chyflawni

(30 credyd)

Dylunio a Rheoli Ymchwil ar gyfer Arfer Proffesiynol

(30 credyd)

Llesiant a pherthyn yn y blynyddoedd cynnar

(30 credyd)

Datblygu Chwilfrydedd Proffesiynol: Adolygiad Beirniadol o Lenyddieth

(30 credyd)

Dysgu plant ifanc

(30 credyd)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gallwch gychwyn y cwrs hwn ar ôl cwblhau gradd israddedig mewn pwnc cysylltiedig, neu ar ôl treulio cyfnod byr neu hir allan o addysg. Bydd gan sawl myfyriwr ar yr MA hwn swyddi rhan-amser neu lawn amser ym maes gwasanaethau plant, ieuenctid neu gymunedol, a bydd sawl un yn eu cadw wrth astudio’n hyblyg o gwmpas eu hymrwymiadau proffesiynol.

    Fel darpar fyfyriwr, efallai bod gennych gefndir yn un neu fwy o’r meysydd canlynol, neu efallai eich bod yn bwriadu datblygu eich gyrfa ynddynt:

    • Gwasanaethau Ieuenctid
    • Gwasanaethau Teuluoedd
    • Gofal Plant
    • Addysg Blynyddoedd Cynnar
    • Gofal Cymdeithasol
    • Datblygiad Cymunedol
    • Gwaith Chwarae
    • Gweision Sifil
    • Sefydliadau’r Trydydd Sector
    • Gwasanaethau Golau Glas (yr heddlu’n arbennig)
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Gwasanaethau Iechyd

    Os oes gennych o leiaf dwy flynedd o brofiad mewn galwedigaeth berthnasol yn barod, efallai yr hoffech edrych ar y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned.

    Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Llwybrau mynediad amgen  

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Mae’r rhaglen yn defnyddio amrywiaeth o fathau o asesiadau. Mewn rhai modylau, cewch eich asesu trwy bortffolios, cyflwyniadau blog, a chyflwyniad tebyg i gynhadledd. Mewn eraill, mae’r asesu’n cynnwys cynnig ymchwil, ffurflen foeseg wedi’i chwblhau ac adroddiad ymchwil.

    Ar gyfer pob math o asesiad, bydd staff yn rhoi adborth i’ch caniatáu i ddatblygu eich syniadau ac ymateb i gyngor adeiladol cyn y cyflwyniad terfynol.

    Bydd y casgliad o fathau o asesiadau’n datblygu eich sgiliau mewn ysgrifennu academaidd, cyflwyno o flaen cynulleidfa, arfer adfyfyriol, meddwl yn feirniadol a dylunio ymchwil.

  • Gall myfyrwyr ddewis prynu gwerslyfrau i gefnogi eu hastudiaethau. Nid yw hyn yn ofynnol oherwydd mae’r testunau ar gael yn gyffredinol yn y llyfrgell neu ar-lein. Mae costau’r gwerslyfrau’n amrywio o £20 i Â£100.

    Gall fod cyfleoedd i fynychu cynhadledd(au) ymchwil, lle gallai hyn fod yn briodol i’r myfyriwr ac yn gysylltiedig â’i ddiddordeb ymchwil. Mae’r costau’n amrywio o £50–£500 yn dibynnu ar y lleoliad a’r hyd mynychu.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Defnyddiwyd trafodaethau ac adborth gan sefydliadau sy’n weithgar ym maes gwasanaethau plant a phobl ifanc i gynllunio’r cwrs, a byddant yn parhau i lywio datblygiadau i’r dyfodol yn amcanion a chynnwys y rhaglen. Mae hyn yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn ennill sgiliau sy’n berthnasol yn broffesiynol a gwybodaeth o werth amlwg i gyflogwyr presennol ac yn y dyfodol.

    Mae’r Radd Meistr hon yn llenwi bwlch yn narpariaeth llwybrau MA â ffocws ym maes y Blynyddoedd Cynnar. Fel person graddedig o’r rhaglen, byddai gennych set arbennig a soffistigedig o sgiliau a fyddai’n eich gwahaniaethu wrth eich cyfoedion. Byddai’r galluoedd ac arbenigedd beirniadol datblygedig a enillwyd o’ch astudiaethau’n gwella eich cyfleoedd dilyniant gyrfa a chyflogadwyedd ar draws meini prawf amrywiol.

    O dan y Fframwaith Cymhwysedd Entrepreneuraidd, byddech yn cyflawni’r amcanion dysgu canlynol:

    • Nodi cyfleoedd
    • Creadigrwydd
    • Meddwl yn foesegol a chynaliadwy
    • Cymhelliant a dycnwch
    • Mentro
    • Cynllunio a rheoli
    • Ymdopi ag ansicrwydd, amwysedd a risg
    • Dysgu trwy brofiad.

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau