Ҵý

Skip page header and navigation

Pobl Ifanc, Cymunedau a Gwaith Ieuenctid (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS / 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol

Mae’r radd hon yn cynnig llwybr cyffrous i’r rhai sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc. Mae’r radd hon mewn gwaith ieuenctid yn rhoi cymhwyster proffesiynol mewn gwaith ieuenctid i fyfyrwyr. Mae’n gymhwyster sy’n cael ei gymeradwyo a’i ddylunio i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf dybryd sy’n wynebu pobl ifanc heddiw. O drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod i gamddefnyddio sylweddau a  materion Llinellau Sirol, mae’r rhaglen yn archwilio’r pynciau cymhleth hyn trwy lens gwyddorau cymdeithasol, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau i fynd i’r afael â’r pryderon hyn yn uniongyrchol ac yn gadarnhaol.

Yn aml, gelwir gwaith ieuenctid yn y ” gyfrinach orau” oherwydd ei effaith bwerus. Yn wahanol i lawer o broffesiynau eraill, mae gwaith ieuenctid yn canolbwyntio ar feithrin perthnasoedd cryf, cadarnhaol, gyda’r nod o rymuso pobl ifanc i ddatblygu gwytnwch a dyfeisgarwch. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin perthynas fel ffordd o greu newid parhaol, ac yn dysgu myfyrwyr sut i gefnogi ieuenctid drwy ystod o faterion. Gyda chyfuniad o theori, polisi ac ymarfer, mae myfyrwyr yn dysgu sut mae’r sylfeini hyn yn croestorri yn y byd go iawn, gan sicrhau eu bod nid yn unig yn academyddion gwybodus ond hefyd yn ymarferwyr medrus sy’n gallu gweithio’n effeithiol gyda phobl ifanc.

Bydd myfyrwyr yn cael eu trochi mewn mentora ac eiriolaeth ieuenctid, gan ddysgu sut i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial wrth fynd i’r afael â materion hanfodol fel iechyd a lles a hawliau plant. Trwy leoliadau strwythuredig a gwaith maes, maent yn ennill profiad ymarferol sy’n amhrisiadwy yn y gweithle, gan wella eu dealltwriaeth o waith ieuenctid a’u cyflogadwyedd mewn rolau ieuenctid a chymunedol. Mae’r profiad ymarferol hwn yn baratoad hanfodol ar gyfer gwaith cymunedol yn y dyfodol, lle bydd graddedigion yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol at gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol mewn amrywiaeth o amgylcheddau, o ysgolion a chanolfannau ieuenctid i wasanaethau cymdeithasol.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr i weithwyr ieuenctid a chymunedol, sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa sy’n cefnogi plant, pobl ifanc yn eu harddegau a’u cymunedau. Gyda’i phwyslais mawr ar addysg a chynhwysiant cymdeithasol, mae’r rhaglen yn sicrhau bod myfyrwyr yn graddio gyda dealltwriaeth gytbwys o anghenion pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol. Maent yn gadael yn barod ar gyfer gyrfaoedd ystyrlon, p’un ai mewn rolau cymorth ieuenctid uniongyrchol neu mewn swyddi ehangach sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Mae llawer o broffesiynau yn ystyried y radd gwaith ieuenctid fel cymhwyster dymunol iawn oherwydd yr arbenigedd y mae’n ei rhoi a’i ffocws unigryw ar yr heriau sy’n wynebu ieuenctid heddiw.

Mae graddedigion yn barod i weithio mewn rolau deinamig sy’n mynnu empathi, gwytnwch, ac ymrwymiad i newid cadarnhaol. I unrhyw un sydd am greu effaith, mae’r radd hon yn cynnig y sgiliau i ddod yn weithiwr ieuenctid dylanwadol a thosturiol, sy’n gallu arwain ym maes gwaith ieuenctid ac addysg gymdeithasol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
YCY1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS / 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cael cymhwyster â chymeradwyaeth broffesiynol a gradd academaidd.
02
Archwilio arfer gyda phobl ifanc a’u cymunedau drwy ymgymryd â chyfleoedd am leoliadau gwaith ieuenctid bob blwyddyn mewn dewis eang o sefydliadau cymunedol ac i bobl ifanc.
03
Paratoi am gyfleodd gwaith megis cyfiawnder ieuenctid, iechyd a llesiant, datblygu cymunedol, menter gymdeithasol a’r heddlu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein dull o addysgu a dysgu yn canolbwyntio ar ddysgu gweithredol a chymhwysol. Mae myfyrwyr yn ymgysylltu â damcaniaeth, polisi ac ymarfer ymarferol, gan feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu fel gweithwyr proffesiynol addasadwy a myfyriol sy’n barod i weithio gyda phobl ifanc ac eiriol drostynt mewn amrywiaeth o leoliadau.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol o waith ieuenctid ac addysg gymdeithasol, gan ganolbwyntio ar egwyddorion a chyd-destun gweithio gyda phobl ifanc. Byddwch yn archwilio y glasoed, dylanwadau cymdeithasol ar bobl ifanc, a sgiliau hanfodol fel eiriolaeth ac ymarfer therapiwtig. Mae’r flwyddyn hon yn adeiladu sylfaen gref mewn sgiliau academaidd ac ymarferol i baratoi ar gyfer gwaith yn y maes.

Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus

(20 credydau)

Creating Inclusive Environments

(20 Credits)

Archwilio Profiad y Glasoed

(20 credyd)

Sylfeini Ymarfer Gwaith Ieuenctid

(20 Credyd)

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth gyda  dulliau ymchwil cymdeithasol ac yn dechrau archwilio arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn gwaith ieuenctid. Byddwch yn edrych ar faterion cymhleth fel iechyd meddwl, lles a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a byddwch hefyd yn ymgymryd â rolau mwy gweithredol wrth greu newid trwy fodylau sy’n canolbwyntio ar ymarfer sy’n pwysleisio  gwytnwch hinsoddol a chymunedol.

Ymchwil Cymdeithasol ar gyfer Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Goruchwyliaeth, Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol

(20 credydau)

Does neb yn rhy fach i wneud gwahaniaeth: Gweithio gyda phobl ifanc i greu hinsawdd o newid

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 2: Iechyd Meddwl, Lles a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

(20 credydau)

Ymarfer Gwaith Ieuenctid 2: Datblygu Arfer

(40 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau datblygedig fel trawma, cam-fanteisio, a’r syniad o “blentyndod gwenwynig,” gan archwilio sut mae’r ffactorau hyn yn effeithio ar bobl ifanc. Ochr yn ochr â’ch traethawd hir, byddwch yn datblygu arbenigedd mewn hyrwyddo lles a gwydnwch, gan arwain at ddealltwriaeth drylwyr o sut i arwain mewn lleoliadau gwaith ieuenctid a chael effaith barhaol ar fywydau pobl ifanc.

Arfer Gwaith Ieuenctid 3: Arwain a Rheoli

(20 credydau)

Pobl Ifanc mewn Ffocws

(20 credydau)

Pobl Ifanc a Chymdeithas 3: Trawma, Camfanteisio a Phlentyndod Gwenwynig

(20 credydau)

Lles a Gwydnwch Pobl Ifanc

(20 credydau)

Traethawd Hir

(40 Credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 80 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch BB, BTEC: DMM, IB: 26

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &Բ;

    Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu dogfen datgeliad manylach foddhaol ar gyfer y Gweithlu Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

    O ganlyniad i gymeradwyaeth broffesiynol y rhaglen radd, rhaid i ymgeiswyr feddu ar o leiaf 100 awr o brofiad o Waith Ieuenctid diweddar a pherthnasol.

    ճҴ  

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &Բ;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &Բ;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &Բ;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &Բ;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &Բ;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg . &Բ;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &Բ;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &Բ;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. įį&Բ;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &Բ;

  • Lluniwyd asesiadau i adlewyrchu gofynion y maes, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd eang yn y myfyrwyr. Nid oes unrhyw arholiadau.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &Բ;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &Բ;

  • Gorfodol: 
    Costau DBS.

    Costau Angenrheidiol:
    Costau teithio i ac o leoliadau (un lleoliad ar bob lefel astudio).

    Dewisol:
    Bydd myfyrwyr sy’n penderfynu manteisio ar y cyfle i astudio dramor am un semester ar Lefel 5 yn gorfod talu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â hyn.  Gall gweithgarwch preswyl posibl ar Lefel 6 gynnwys costau ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr astudio dramor yn rhan o’u hastudiaethau yn yr ail flwyddyn, yn y Ffindir neu Columbia Brydeinig.

  • O ganlyniad i’w huchelgeisiau wrth wneud cais am le ar y rhaglen radd, mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i waith yn uniongyrchol ym maes gwaith ieuenctid, yn y sector gwirfoddol a’r sector a gynhelir.  Fodd bynnag, mae’r cymhwyster gwaith ieuenctid yn adnabyddus am ei allu i drosglwyddo i feysydd cysylltiedig ehangach, sy’n dangos sut y gellir trosglwyddo’r sgiliau y mae’r graddedigion wedi’u datblygu wrth astudio ar y rhaglen radd i lawer o leoliadau eraill, a’u bod yn sgiliau a groesawir o fewn timau aml-ddisgyblaethol.

    Dyma nifer o enghreifftiau penodol o gyrchfannau graddedigion:

    • Gwaith ieuenctid wyneb yn wyneb mewn ystod o gyd-destunau gan gynnwys mewn ysgolion, timoedd rhianta corfforaethol, gwaith ôl-16, prosiectau digartrefedd i bobl ifanc gan Awdurdodau Lleol
    • Swyddog Lles Addysg
    • Gweithio gyda sefydliadau gan ganolbwyntio ar faterion yn cynnwys  camddefnyddio sylweddau, prosiectau sy’n cefnogi pobl ifanc ddigartref ac eraill sy’n canolbwyntio ar fabwysiadu, pobl ifanc sy’n derbyn gofal, ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr
    • Addysg gymunedol
    • Cyfiawnder Ieuenctid
    • Bwrdd Iechyd Lleol
    • Llywydd Undeb y Myfyrwyr
    • Hyfforddwr ac Arweinydd Grŵp PGL Activities
    • Mentor Cymheiriaid Pobl Ifanc i elusen iechyd meddwl genedlaethol
    • Gweithiwr Iechyd Emosiynol i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Gweithiwr Cymorth CAMHS
    • Cymorth i Deuluoedd ar gyfer pobl ifanc ag anableddau
    • Gweithiwr Ieuenctid ôl-16 i Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Gweithiwr Ieuenctid gyda’r Tîm Rhianta Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Cydlynydd Uned gyda Thîm Gofal Plant mewn Awdurdod Lleol
    • Rheolwr Corfforaethol mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol
    • Uwch Swyddogion Ieuenctid mewn Gwasanaeth Ieuenctid Awdurdod Lleol

    Mae llawer o raddedigion yn penderfynu ymgymryd ag astudio pellach.  Mae rhaglenni MA graddedigion diweddar yn cynnwys:

    • Plant a Phobl Ifanc: Iechyd a Llesiant (MA), PCYDDS
    • Plant a Phobl Ifanc: Hawliau Plant (MA), PCYDDS
    • Cam-drin Menywod a Phlant (MA), Prifysgol Fetropolitan Llundain
    • Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol (MA), Prifysgol Abertawe
    • Menter Gymdeithasol (MSc), Prifysgol Stirling 

Mwy o gyrsiau Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar

Chwiliwch am gyrsiau