ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Astudiaethau Addysg (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 blynedd Llawn amser a Rhan amser ar gael
88 o Bwyntiau UCAS

Dyluniwyd y BA (Anrh) Astudiaethau Addysg i roi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth i weithio gyda dysgwyr o bob oed ac mewn lleoliadau amrywiol. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysg blynyddoedd cynnar, datblygiad plentyndod, neu gefnogi oedolion mewn addysg, mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gynhwysfawr ar gyfer gyrfa ystyrlon yn y maes.

Mae’r rhaglen hon yn eich annog i archwilio rôl addysg wrth greu newid cadarnhaol. Gyda ffocws ar gyfiawnder cymdeithasol mewn addysg ac amrywiaeth a chynhwysiant, byddwch yn archwilio sut y gall addysg fynd i’r afael â heriau cymdeithasol allweddol, yn y DU ac yn fyd-eang. Byddwch hefyd yn astudio polisi addysg, gan edrych ar sut mae penderfyniadau’n siapio profiadau dysgwyr ac addysgwyr.

Wrth wraidd y cwrs mae datblygu sgiliau trosglwyddadwy, sy’n eich galluogi i ffynnu mewn gwahanol leoliadau proffesiynol. Byddwch yn archwilio dulliau addysgu a dysgu, yn deall pwysigrwydd Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ac yn ymgysylltu â themâu fel dysgu gydol oes a globaleiddio ym myd addysg. Nod y rhaglen yw eich gwneud yn feddyliwr beirniadol, yn barod i weithredu fel asiant newid mewn proffesiynau sy’n canolbwyntio ar gymdeithas. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu, datblygu polisi, gwaith ieuenctid, neu rolau mewn elusennau a sefydliadau cymunedol, mae’r cwrs yn cefnogi eich datblygiad gyrfa mewn addysg.

Mae’r radd hon yn croesawu hyblygrwydd, gan eich helpu i lunio eich dyfodol yn unol â’ch diddordebau. Gyda modylau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, megis addysg gynhwysol ac effaith technoleg ar ddysgu, fe gewch safbwynt eang ar yr hyn y mae’n ei olygu i addysgu yn y byd sydd ohoni.

Mae’r rhaglen BA (Anrh) Astudiaethau Addysg yn gyfle i ddeall grym trawsnewidiol addysg. Byddwch yn graddio yn barod i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
Eng: DUS1 / DUS1D Cym: ADD1
Hyd y cwrs:
3 blynedd Llawn amser a Rhan amser ar gael
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r cyfle i astudio ystod o bynciau sy'n gysylltiedig ag addysg sy'n berthnasol i ystod eang o yrfaoedd gydag opsiynau llwybr unigryw yn caniatáu ichi arbenigo'ch astudiaethau mewn maes sy'n addas i chi.
02
Meintiau dosbarthiadau llai gyda darlithwyr cefnogol a phrofiadol sy'n rhoi'r dysgwr wrth galon y rhaglen.
03
Mae sesiynau wedi'u hamserlennu mewn ffordd sy'n addas i deuluoedd sy'n eich galluogi i astudio mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon wedi’i seilio ar archwilio addysg drwy lensys hanesyddol, athronyddol, seicolegol a chymdeithasol. Drwy archwilio materion allweddol fel cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant ac ymagweddau creadigol at ddysgu, rydym yn annog myfyrwyr i adfyfyrio’n feirniadol ar rôl addysg wrth siapio unigolion a chymunedau. Mae ein ffocws ar ddysgu amgen, ymgysylltu â’r gymuned a safbwyntiau byd-eang yn sicrhau profiad dysgu cyflawn a thrawsnewidiol.

Byddwch yn archwilio gwreiddiau hanesyddol a chyfoes addysg ac yn archwilio sut mae pobl yn dysgu ar wahanol gyfnodau mewn bywyd. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau craidd ar gyfer llwyddiant academaidd ac yn archwilio materion hanfodol yn ymwneud â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn addysg.

Addysg: ddoe, heddiw, yfory

(20 credydau)

Damcaniaeth ac Arfer Dysgu

(20 credydau)

Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru

(20 credydau)

Datblygiad ar draws y rhychwant oes

(20 credydau)

Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus

(20 credydau)

A phopeth yn gyfartal?

(20 credyd)

Mae’r flwyddyn hon yn dyfnhau eich dealltwriaeth o arferion addysgu, drwy ystod eang o fodylau. Byddwch hefyd yn mireinio eich sgiliau ymchwil drwy Ymchwil Addysgol. 

Mae Pawb yn Golygu Pawb

(20 credydau)

Amgylcheddau dysgu amgen

(20 credydau)

Dysgu Ymgysylltiedig â'r Gymuned

(20 credydau)

Y 3 R

(20 credydau)

Dod yn Addysgwr Cynradd

(20 credydau)

Y Meddwl Ymchwilgar: Dulliau Creadigol o Ddysgu ac Addysgu

(20 credyd)

Ymchwil Addysgol

(20 credyd)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau uwch fel Oedolion sy’n Dysgu ac Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu. Byddwch hefyd yn ymgymryd â Phrosiect Annibynnol, lle gallwch ymchwilio’n ddwfn i bwnc o’ch dewis, gan arddangos eich arbenigedd a’ch parodrwydd ar gyfer arfer proffesiynol.

Dysgwyr sy'n oedolion a dysgu

(20 credydau)

Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu

(20 credydau)

Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd

(20 credydau)

Llesiant mewn Addysg

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: B/A, BTEC: DMM, IB: 29 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn ‘Derbyniadau Cyd-destunol’.

    Os nad oes gan eich cymhwyster gywerthedd tariff UCAS, nid oes gennych gymwysterau mynediad traddodiadol neu mae gennych ddysgu blaenorol achrededig, cysylltwch Ã¢â€™n tîm ymholiadau gan ein bod yn seilio ein penderfyniadau ar ein hasesiad ein hunain o gymwysterau, gwybodaeth a phrofiad gwaith blaenorol.

    Llwybrau mynediad amgen 

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 

    •  â€˜gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi. 

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. 

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd faglor tair blynedd, llawn amser. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o radd faglor. 

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd arnoch eu hangen i gael lle ar y radd hon. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

    Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Asesir myfyrwyr mewn amryw o ffyrdd i helpu i ddatblygu sgiliau astudio annibynnol yn ogystal â gweithio mewn tîm. Nid ydym yn asesu yn defnyddio arholiadau ond yn hytrach yn defnyddio ystod amrywiol o ddulliau megis portffolios, cyflwyniadau, posteri academaidd yn ogystal ag ystod o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar ymchwil.

  • Cwrs Cyfrwng Cymraeg yw hwn. &²Ô²ú²õ±è;

    Golyga hyn bod y cwrs hwn ar gael yn llawn yn Gymraeg (360 Credyd/100%).   

    Os byddwch yn dewis astudio eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich astudiaethau. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

     Yn ogystal, mae llawer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu unrhyw draethodau, aseiniadau a thraethodau hir sy’n ofynnol i gyflawni’r gofynion academaidd ar gyfer pob rhaglen astudio.

    Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:

    • Deunydd ysgrifennu
    • Llyfrau
    • Gwaith maes
    • Dillad
    • Argraffu a chopïo
    • Gwiriad DBS

    *Dim ond ar Lefel 6 y mae angen DBS os yw myfyrwyr yn dewis cynnal eu hymchwil prosiect annibynnol gyda phlant a phobl ifanc.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio addysg. Mae gennym boblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, ac mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin, yr awydd i ddeall a gweithio ym myd addysg. Os ydych chi’n ansicr ynghylch yr union yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi, yna gallai’r hyblygrwydd a gynigir gan y cwrs hwn i archwilio ac ystyried ystod o gyfleoedd ei gwneud yr un iawn i chi.

Mwy o gyrsiau Addysgu, Addysg a TAR

Chwiliwch am gyrsiau