ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) (ProfGCE)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn Amser
Gradd anrhydedd 2:2

Mae’r rhaglen TAR PCET wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno dilyn gyrfa ym maes addysgu yn y sector Addysg a Hyfforddiant Ã”l-orfodol. 

Mae’n gymhwyster uchel ei barch sy’n rhoi i raddedigion y sgiliau sydd eu hangen i addysgu mewn amgylcheddau addysgol amrywiol, gan gynnwys colegau, sefydliadau hyfforddi, a chanolfannau dysgu oedolion.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig hyblygrwydd, gydag opsiynau llawn amser a rhan-amser, sy’n darparu ar gyfer rhai a raddiodd yn ddiweddar, gweithwyr proffesiynol sy’n ceisio datblygu eu gyrfaoedd, a’r rhai sy’n dychwelyd i astudio ar ôl toriad. Mae wedi’i deilwra i fodloni anghenion unigol wrth gynnal safonau academaidd a phroffesiynol uchel.

Mae’r rhaglen yn cyfuno dysgu yn y brifysgol â phrofiad addysgu ymarferol, gan ddarparu sylfaen gref mewn addysg athrawon. Byddwch yn archwilio arferion gorau o ran cefnogi a datblygu dysgu wrth ennill profiad ymarferol mewn amgylcheddau addysgu byd go iawn. Mae’r cyfuniad hwn yn sicrhau y gallwch gymhwyso theori i arfer yn effeithiol, gan fagu eich hyder fel gweithiwr addysgu proffesiynol.

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu galwedigaethol, cyfrannu at y sector dysgu gydol oes, neu arbenigo mewn maes pwnc penodol, bydd y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa foddhaus ym maes addysg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser
Gofynion mynediad:
Gradd anrhydedd 2:2

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r cymhwyster hwn yn eich galluogi i addysgu o fewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch.
02
Cymhwyster hyblyg a throsglwyddadwy, cydnabyddir y dyfarniad hwn ar draws y sector ôl-orfodol.
03
Cynigiwn feintiau dosbarth bach i helpu i hwyluso trafodaeth mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol lle mae dod i’ch adnabod yn fyfyriwr yn ganolog i bopeth a wnawn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn y Drindod Dewi Sant, rydym yn credu mewn dull addysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyriwr, gan gyfuno theori â phrofiad ymarferol i sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn addysgu. Mae’r rhaglen PCET TAR yn meithrin meddwl beirniadol, ymarfer myfyriol, a datblygu strategaethau addysgu effeithiol ar gyfer y sector Addysg a Hyfforddiant Ã”l-orfodol.

Byddwch yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen mewn strategaethau addysgu, dysgu ac asesu. Byddwch yn archwilio damcaniaethau ac egwyddorion allweddol sy’n sail i addysg effeithiol, wrth ddatblygu eich gallu i gynllunio, cyflwyno ac asesu gwersi mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol.

Byddwch yn ehangu eich gwybodaeth trwy ddull mwy beirniadol a myfyriol. Byddwch yn cymryd rhan mewn ymchwil, gan ganolbwyntio ar feysydd fel addysg gynhwysol a datblygiad proffesiynol. Byddwch yn cael eich annog i fireinio eich ymarfer addysgu, gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i wella dysgu a datblygiad myfyrwyr.

Pecyn Cymorth Addysgu 1

(20 credydau)

Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arfer Cynhwysol

(10 credydau)

Rheoli Ymddygiad a Chefnogi Ymgysylltiad Dysgwyr

(10 credydau)

Arloesi Digidol ac Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Pecyn Cymorth Addysgu 2

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol a'r Ymarferydd Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol

(20 credydau)

Prosiect Ymchwil Gweithredu

(20 credydau)

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

    • Yn achos y Dystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen bod ymgeiswyr radd israddedig ar radd 2.2 neu uwch.
    • Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
    • Nid yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PCET) yn ddyfarniad y dylid cofrestru arno a gall myfyrwyr drosglwyddo i hyn o’r Dystysgrif Raddedig Broffesiynol (PCET) mewn rhan dau os byddant yn bodloni’r meini prawf.

    Gradd anrhydedd 2:2   

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. &²Ô²ú²õ±è;

    ³¢±ô·É²â²ú°ù²¹³Ü&²Ô²ú²õ±è;³¾²â²Ô±ð»å¾±²¹»å&²Ô²ú²õ±è;²¹³¾²µ±ð²Ô â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn. &²Ô²ú²õ±è;

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr.  &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon.  &²Ô²ú²õ±è;

     Cyngor a Chymorth Derbyn   
     
    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;

    Gofynion Iaith Saesneg   

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;
     
    Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.

  • Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.

    Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.

Mwy o gyrsiau Addysgu, Addysg a TAR

Chwiliwch am gyrsiau