Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) (Llawn amser) (ProfCE)
Mae’r Dystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProfCE) ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCET) yn rhaglen uchel ei pharch sydd wedi’i chynllunio i baratoi unigolion ar gyfer gyrfaoedd addysgu effeithiol yn y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar, gweithwyr proffesiynol, neu’r rhai sy’n dychwelyd i addysg ar ôl toriad, gan gynnig llwybrau dysgu wedi’u teilwra i weddu i anghenion amrywiol.
Mae’r rhaglen hon yn eich grymuso i addysgu ar draws ystod eang o leoliadau, gan gynnwys Addysg Bellach ac Uwch, addysg oedolion, addysg gymunedol, ac addysg athrawon galwedigaethol. Drwy gyfuno fframweithiau damcaniaethol blaengar â phrofiad addysgu ymarferol, mae’r cwrs yn sicrhau y gallwch gymhwyso addysgeg ac arferion gorau yn hyderus mewn amgylcheddau dysgu byd go iawn.
Yn greiddiol i’r cwrs mae modylau sy’n archwilio safonau addysgu, strategaethau dysgu arloesol, ac ymagweddau at addysgu cynhwysol. Mae’r elfennau hyn yn darparu sylfaen gadarn i gefnogi datblygiad dysgwyr wrth hogi eich gallu i gyflwyno gwersi diddorol ac effeithiol.
Mae lleoliadau addysgu ymarferol yn rhan annatod o’r rhaglen, gan eich galluogi i bontio’r bwlch rhwng theori ac arfer. Dan arweiniad mentoriaid arbenigol, byddwch yn mireinio’ch sgiliau, yn datblygu portffolio addysgu proffesiynol, ac yn ennill profiad amhrisiadwy mewn cyd-destunau addysgol amrywiol.
Mae graddedigion y ProfCE PCET mewn sefyllfa dda ar gyfer ystod o rolau, o addysgu mewn Addysg Bellach ac Uwch i ddarparu rhaglenni addysg oedolion ac addysg alwedigaethol. Mae’r cwrs hwn yn eich galluogi i fodloni gofynion proffesiwn addysgu deinamig a boddhaus, gan eich grymuso i ysbrydoli dysgwyr a chyfrannu’n ystyrlon at eu twf personol a phroffesiynol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar gyfuno addysgeg, profiad addysgu ymarferol, a dysgu adfyfyriol i ddatblygu addysgwyr hyderus, medrus. Mae’r cwrs yn cyfuno fframweithiau damcaniaethol â defnydd yn y byd go iawn, gan roi’r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr i fodloni safonau addysgu ac ysbrydoli dysgwyr mewn lleoliadau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Yn achos Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (PCET) bydd angen cymhwyster lefel tri perthnasol ynghyd ag addysgu a/neu brofiad hyfforddi.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais
-
Mae asesiad y rhaglen wedi’i adeiladu ar egwyddorion ymarfer adfyfyriol ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau megis portffolios, adfyfyrdodau ysgrifenedig, adroddiadau, blogiau, arsylwadau ffurfiol ymarfer proffesiynol a phosteri.
-
Mae gwiriadau manwl DBS yn orfodol yn rhan o ofynion mynediad y rhaglenni, a’r ymgeiswyr sy’n gyfrifol am gostau ychwanegol hyn.
Gall teithio i’r lleoliad profiad addysgu proffesiynol greu costau i’r myfyriwr a gallant amrywio yn dibynnu ar ble mae’r lleoliad. Pan drefnir lleoliadau ar ran y myfyriwr, gwneir pob ymdrech i fodloni gofynion unigol (gan gynnwys dewisiadau lleoliad) ond ni ellir gwarantu hyn.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddedigion o’r rhaglen yn gyflogadwy dros ben mewn amrywiaeth o sectorau addysgu a hyfforddi ar draws amrywiaeth fawr o broffesiynau.