ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (Llawn amser) (BA Anrh)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
88 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen BA (Anrh) mewn Astudiaethau Addysg gyda ffocws ar Anghenion Dysgu Ychwanegol ac ymarfer cynhwysol yn archwilio pynciau allweddol sy’n bwysig i unrhyw un sydd am wneud gwahaniaeth ym myd addysg.

Byddwch yn dysgu am y gwahanol fathau o anghenion a allai fod gan fyfyrwyr a sut i’w cefnogi’n effeithiol. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i chi o sut i greu amgylcheddau dysgu lle gall pawb ffynnu.

Rydym yn credu mewn dysgu trwy wneud. Byddwch yn cael cyfle i weithio mewn lleoliadau addysgol go iawn, gan eich helpu i ddod yn weithiwr proffesiynol myfyriol. Byddwch yn gweld yn uniongyrchol sut mae’r damcaniaethau rydych chi’n eu dysgu yn y dosbarth yn cael eu rhoi ar waith mewn bywyd go iawn. Mae’r profiad hwn yn amhrisiadwy iar gyfer eich gyrfa mewn addysg yn y dyfodol.

Mae ein rhaglen yn cynnwys ystod eang o bynciau i roi persbectif eang i chi ar addysg. Byddwch yn astudio polisi cymdeithasol er mwyn deall sut mae penderfyniadau’r llywodraeth yn effeithio ar addysg. Bydd astudio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn eich helpu i ddysgu am yr heriau a wynebir gan bobl ag anableddau a sut i’w cefnogi. Byddwch hefyd yn ymchwilio i ddatblygiad plant er mwyn deall sut mae plant yn tyfu a dysgu ar gyfnodau gwahanol eu bywydau.

Mae ffocws arbennig y cwrs ar ymarfer cynhwysol. Byddwch yn dysgu sut i sicrhau bod pob myfyriwr, waeth beth fo’i gefndir neu allu, yn cael cyfle i lwyddo. Mae hwn yn sgìl hanfodol i unrhyw un sydd am weithio ym myd addysg heddiw.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gennych y wybodaeth a’r sgiliau i ddilyn gyrfaoedd amrywiol ym myd addysg. P’un ai eich bod am fod yn athro, gweithio mewn polisi addysgol, neu gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, bydd y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa werth chweil. Byddwch yn gadael y cwrs fel ymarferydd myfyriol cyflawn, yn barod i gael effaith gadarnhaol ar y system addysg.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Cyfunol (ar y campws)
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
Eng: X364 Cym: X362
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r cyfle i astudio ystod o bynciau sy'n gysylltiedig ag addysg sy'n berthnasol i ystod eang o yrfaoedd gydag opsiynau llwybr unigryw yn caniatáu ichi arbenigo'ch astudiaethau mewn maes sy'n addas i chi.
02
Meintiau dosbarthiadau llai gyda darlithwyr cefnogol a phrofiadol sy'n rhoi'r dysgwr wrth galon y rhaglen.
03
Mae sesiynau wedi'u hamserlennu mewn ffordd sy'n addas i deuluoedd sy'n eich galluogi i astudio mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y cwrs hwn yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o astudiaethau addysg gan ganolbwyntio’n benodol ar anghenion dysgu ychwanegol ac ymarfer cynhwysol. Ein nod yw cyfuno theori â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn dod yn weithiwr proffesiynol  gwybodus a myfyriol sy’n barod ar gyfer gyrfa gwerth chweil mewn addysg, gan gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol i alluogi a hwyluso eu datblygiad addysgol.

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i sylfeini astudiaethau addysg, gan ganolbwyntio ar ddatblygiad plant ac anghenion addysgol ychwanegol. Byddwch hefyd yn archwilio polisi cymdeithasol a’i effaith ar addysg, gan osod y sylfaen ar gyfer eich dealltwriaeth o sut mae systemau addysg yn gweithredu.

Addysg: ddoe, heddiw, yfory

(20 credydau)

Damcaniaeth ac Arfer Dysgu

(20 credydau)

Parchu Hawliau Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru

(20 credydau)

Datblygiad ar draws y rhychwant oes

(20 credydau)

Datblygu Sgiliau Academaidd Llwyddiannus

(20 credydau)

A phopeth yn gyfartal?

(20 credyd)

Mae’r ail flwyddyn yn ymchwilio’n ddyfnach i amgylcheddau dysgu amgen a’r gwahanol ddulliau o ymarfer cynhwysol. Byddwch yn ymgymryd ag ymchwil i ennill gwybodaeth ddamcaniaethol a dechrau datblygu eich sgiliau fel addysgwr yn yr oes fodern. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio rhoi theori ar waith mewn lleoliadau addysgol y byd go iawn.

Mae Pawb yn Golygu Pawb

(20 credydau)

Amgylcheddau dysgu amgen

(20 credydau)

Y 3 R

(20 credydau)

Ymddygiad a dysgu: Dulliau o reoli ystafell ddosbarth

(20 credydau)

Y Meddwl Ymchwilgar: Dulliau Creadigol o Ddysgu ac Addysgu

(20 credyd)

Ymchwil Addysgol

(20 credyd)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich dealltwriaeth feirniadol o ddamcaniaethau ac arferion addysgol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cwricwlwm. Byddwch yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth mewn addysg a deall pwysigrwydd llesiant, gan eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd amrywiol mewn addysg. Mae eleni hefyd yn cynnwys prosiect annibynnol i arddangos eich dysgu cynhwysfawr. 

Gwneud Gwahaniaeth Gyda'n Gilydd

(20 credydau)

Llesiant mewn Addysg

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Astudiaethau Cwricwlwm ac Asesu

(20 credydau)

Gwaith Therapiwtig gydag Unigolion

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: B/A, BTEC: DMM, IB: 29 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS. Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn ‘Derbyniadau Cyd-destunol’.

    Os nad oes gan eich cymhwyster gywerthedd tariff UCAS, nid oes gennych gymwysterau mynediad traddodiadol neu mae gennych ddysgu blaenorol achrededig, cysylltwch Ã¢â€™n tîm ymholiadau gan ein bod yn seilio ein penderfyniadau ar ein hasesiad ein hunain o gymwysterau, gwybodaeth a phrofiad gwaith blaenorol.

    Llwybrau mynediad amgen 

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 

    •  â€˜gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi. 

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. 

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd faglor tair blynedd, llawn amser. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o radd faglor. 

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd arnoch eu hangen i gael lle ar y radd hon. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

    Bydd rhaid i bob ymgeisydd ddarparu dogfen datgeliad manylach boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

  • Asesir myfyrwyr mewn amryw o ffyrdd i helpu i ddatblygu sgiliau astudio annibynnol yn ogystal â gweithio mewn tîm. Nid ydym yn asesu yn defnyddio arholiadau ond yn hytrach yn defnyddio ystod amrywiol o ddulliau megis portffolios, cyflwyniadau, posteri academaidd yn ogystal ag ystod o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n seiliedig ar ymchwil.

  • Cwrs Cyfrwng Cymraeg yw hwn. &²Ô²ú²õ±è;

    Golyga hyn bod y cwrs hwn ar gael yn llawn yn Gymraeg (360 Credyd/100%).   

    Os byddwch yn dewis astudio eich cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi eich astudiaethau.

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

     Yn ogystal, mae llawer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu cost gwerslyfrau hanfodol, ac am gynhyrchu unrhyw draethodau, aseiniadau a thraethodau hir sy’n ofynnol i gyflawni’r gofynion academaidd ar gyfer pob rhaglen astudio.

    Bydd costau pellach hefyd ar gyfer y canlynol, na ellir eu prynu gan y Brifysgol:

    • Deunydd ysgrifennu
    • Llyfrau
    • Gwaith maes
    • Dillad
    • Argraffu a chopïo
    • Gwiriad DBS

    *Dim ond ar Lefel 6 y mae angen DBS os yw myfyrwyr yn dewis cynnal eu hymchwil prosiect annibynnol gyda phlant a phobl ifanc.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio addysg. Mae gennym boblogaeth eang ac amrywiol o fyfyrwyr, ac mae gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin, yr awydd i ddeall a gweithio ym myd addysg. Os ydych chi’n ansicr ynghylch yr union yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi, yna gallai’r hyblygrwydd a gynigir gan y cwrs hwn i archwilio ac ystyried ystod o gyfleoedd ei gwneud yr un iawn i chi.

Mwy o gyrsiau Addysgu, Addysg a TAR

Chwiliwch am gyrsiau