ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Arfer Proffesiynol (CertHE)

Dysgu o Bell
3 blynedd rhan amser
O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol.

Mae’r cwrs TystAU mewn Arfer Proffesiynol yn gwrs dysgu o bell rhan-amser, hyblyg, wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd am ddatblygu eu sgiliau tra byddant yn parhau i weithio.

Mae’r rhaglen ar-lein hon yn eich galluogi i astudio o unrhyw le tra’n cymhwyso’ch dysgu’n uniongyrchol i’ch swydd. P’un a ydych yn gweithio ym maes arweinyddiaeth, marchnata digidol, tai cymdeithasol, rheoli prosiectau, neu fentora, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r offer i chi symud ymlaen yn eich gyrfa.

Nodwedd allweddol o’r rhaglen hon yw ei bod yn cydnabod eich sgiliau a’ch profiad presennol. Drwy’r broses Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL), gallwch ennill credyd am yr hyn rydych chi’n ei wybod yn barod, sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi ailadrodd yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu eisoes. Mae hyn yn gwneud eich astudiaeth yn fwy perthnasol, effeithlon o ran amser ac wedi’i phersonoli.

Fel dysgwr o bell, mae gennych yr hyblygrwydd i astudio ar eich cyflymder eich hun, gan gydbwyso gwaith ac ymrwymiadau personol. Gyda thri dyddiad cychwyn y flwyddyn—Hydref, Ionawr, ac Ebrill— gallwch ddechrau pan fydd yn gyfleus i chi. Nid oes amserau darlithoedd penodol, felly gallwch drefnu eich astudiaethau o gwmpas eich amserlen.

Gall myfyrwyr ddewis o blith ystod eang o fodylau sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, gan gynnwys arweinyddiaeth, marchnata digidol, AD i rai nad ydynt yn weithwyr AD Proffesiynol, a phortffolios seiliedig ar gymwyseddau. Mae hyn yn eich galluogi i deilwra eich dysgu i’ch nodau gyrfa a chymhwyso’r hyn rydych chi’n ei ddysgu mewn amser real.

Mae’r cwrs yn ymarferol ac yn canolbwyntio ar yrfa, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi. Byddwch yn meithrin hyder, sgiliau datrys problemau a galluoedd arwain, a gall pob un ohonynt eich helpu i symud i rôl reoli neu ennill arbenigedd yn eich maes. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis llwybr arbenigol, megis Arfer Proffesiynol mewn Arweinyddiaeth, Tai Cymdeithasol, neu Letygarwch, gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar ddiwydiant penodol.

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu ar-lein o ansawdd uchel. Bydd gennych fynediad at diwtoriaid arbenigol, deunyddiau dysgu rhyngweithiol, a chymuned ar-lein gefnogol, gan sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad ac yn parhau i ymgysylltu drwy gydol eich astudiaethau.

Os ydych chi eisiau cymhwyster cydnabyddedig sy’n eich galluogi i ennill sgiliau newydd, symud ymlaen yn eich gyrfa, ac astudio o unrhyw le yn y byd, y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Arfer Proffesiynol (Dysgu o Bell) yw’r dewis delfrydol.

Mae’r cymhwyster ymarferol hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, perfformiad yn y gweithle a galluoedd arwain. P’un a ydych yn anelu at gamu i rôl reoli, ennill arbenigedd penodol i’r sector, neu wella cyflogadwyedd, mae’r cwrs hyblyg hwn yn darparu’r offer i chi symud ymlaen yn eich gyrfa.

Mae’r rhaglen wedi’i halinio gyda chyflogwyr, gan sicrhau bod dysgu’n uniongyrchol berthnasol i anghenion y diwydiant. Mae llawer o fyfyrwyr yn dilyn llwybr arbenigol, megis Arfer Proffesiynol mewn Arweinyddiaeth, Tai Cymdeithasol, neu Letygarwch, gan ganiatáu iddynt ennill arbenigedd penodol i’r sector tra’n ennill cymhwyster.

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu o ansawdd uchel, sy’n gwella gyrfa. Gyda thiwtoriaid arbenigol, cymuned ddysgu gefnogol, a mynediad at adnoddau gwerthfawr, byddwch wedi eich paratoi’n dda ar gyfer dilyniant gyrfa a chyfleoedd gwaith.

Os ydych yn chwilio am gymhwyster hyblyg, achrededig sy’n cydnabod eich profiad, yn gwella eich cyflogadwyedd, ac yn eich paratoi ar gyfer datblygiad gyrfa, y Dystysgrif Addysg Uwch mewn Arfer Proffesiynol yw’r dewis delfrydol. Gwnewch gais heddiw i gymryd y cam nesaf yn eich taith broffesiynol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
3 blynedd rhan amser
Gofynion mynediad:
O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol.

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Hyblyg Iawn: Astudiwch ar eich cyflymder eich hun gyda dyddiadau cychwyn lluosog (Hydref, Ionawr, Ebrill).
02
Canolbwyntio ar Yrfa: Dysgwch sgiliau sy'n uniongyrchol berthnasol i'ch swydd bresennol a'ch gyrfa yn y dyfodol.
03
Profiad Proffesiynol Cydnabyddedig: Enillwch gredydau am brofiad gwaith blaenorol drwy'r broses RAL.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Sut i gymhwyso gwybodaeth i leoliadau proffesiynol y byd go iawn. 

Sgiliau mewn arweinyddiaeth, mentora, marchnata digidol, a rheoli prosiectau. 

Arfer adfyfyriol a hunanddatblygiad ar gyfer dilyniant gyrfa.

Gorfodol

Paratoi ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith (Mân)

(20 credyd)

Dewisol

Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL)

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith (Mân)

(20 credyd)

Cymhwyso Rhif yn y Gweithle

(10 credyd)

Portffolio Sgiliau Hanfodol: Cyfathrebu

(10 credyd)

Cyflwyniad i Fentora yn y Gweithle

(20 credyd)

Dewisol

Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith (Mân)

(20 credyd)

AD i rai nad ydynt yn weithwyr AD Proffesiynol

(20 credyd)

Portffolio seiliedig ar Gymwyseddau (Bach)

(20 credyd)

Cyflwyniad i’r Rôl o Arwain

(30 credyd)

Dewisol

Prosiect Dysgu Seiliedig ar Waith (Canolradd)

(30 credydau)

Modiwl Astudio Annibynnol (Mân)

(10 credyd)

Cyflwyniad i Farchnata Digidol

(20 credyd)

Portffolio seiliedig ar Gymwyseddau (Safonol)

(40 credyd)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol. 

    Llwybrau mynediad amgen 

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.   

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. â¶Ä¯ 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    I gael cyngor a chefnogaeth benodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Fel darpar fyfyriwr bydd y Tîm Derbyn yn trefnu cyfarfod i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar-lein ar amser sy’n gyfleus i chi.  

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • 100% Gwaith cwrs (dim arholiadau). Aseiniadau ysgrifenedig, portffolios, adroddiadau adfyfyriol, a phrosiectau seiliedig ar waith.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. â¶Ä¯ 

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.  

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. â¶Ä¯

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol  

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. â¶Ä¯

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg  

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

  • Dim costau ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Dilyniant gyrfa mewn busnes, arweinyddiaeth, tai cymdeithasol, a lletygarwch. · Cyfleoedd am ddyrchafiad neu wella rôl. · Llwybr at FdA Arfer Proffesiynol neu gymwysterau addysg uwch eraill.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau