ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) (CertHE)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Llawn Amser
32 o Bwyntiau UCAS

Yn y byd sydd ohoni, mae busnesau gwledig yn wynebu’r her o dyfu’n gyfrifol. Mae’r rhaglen DystAU Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n barod i gael effaith gadarnhaol ar economïau gwledig a chyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae’r cwrs hwn yn eich annog i feddwl yn arloesol am adeiladu busnes cynaliadwy sydd o fudd i bobl a’r amgylchedd, gan eich paratoi i wneud gwir wahaniaeth mewn cymunedau lleol.

Mae’r rhaglen yn pwysleisio datblygu cynaliadwy ac arferion busnes moesegol, gan roi i chi’r sgiliau i fynd i’r afael â materion sy’n benodol i leoliadau busnes gwledig. Byddwch yn astudio meysydd fel strategaeth fusnes a rheolaeth ariannol, gan ennill dealltwriaeth o sut y gall dulliau cynaliadwy ysgogi elw wrth hyrwyddo llwyddiant hirdymor. Byddwch hefyd yn archwilio datblygiad cymunedol a menter gymdeithasol, gan ddarganfod sut y gall busnesau gwledig dyfu mewn ffyrdd sy’n cefnogi cymdeithas a’r amgylchedd naturiol.

Mae’r cwrs yn defnyddio dull dysgu ymarferol seiliedig ar broblemau. Trwy sesiynau grŵp bach, byddwch yn gweithio gyda chyfoedion i fynd i’r afael â heriau busnes byd go iawn, yn mireinio eich sgiliau cydweithredu a datblygu arbenigedd mewn ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y profiadau hyn yn eich paratoi i greu datrysiadau sy’n cael effaith ystyrlon, barhaol ar gymunedau.

Drwy gydol y rhaglen, cewch eich annog i herio arferion busnes confensiynol, gan chwilio am ymagweddau sy’n blaenoriaethu effaith amgylcheddol a llesiant cymunedol. Byddwch hefyd yn meithrin ymdeimlad o ddinasyddiaeth fyd-eang, gan gydnabod sut y gall menter wledig gysylltu â nodau cynaliadwyedd byd-eang ehangach.

P’un ai lansio busnes newydd, gwella un presennol, neu ailfeddwl arferion busnes traddodiadol yw eich nod, mae’r rhaglen hon yn eich helpu i adeiladu model busnes cynaliadwy sy’n adlewyrchu gwerthoedd gwledig yr oes sydd ohoni. Yn fyfyriwr graddedig, byddwch wedi cael eich paratoi’n dda ar gyfer ymuno â’r gweithlu gyda safbwynt blaengar, yn barod i gyfrannu at yr economi wledig mewn ffyrdd sy’n arloesol, yn gymdeithasol gyfrifol ac yn ecogyfeillgar.

Ymunwch â chymuned sy’n rhannu eich ymrwymiad i arloesi ac effaith a helpwch i siapio dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer menter wledig gyda’r rhaglen Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) TystAU.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Llawn amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn Amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cwricwlwm Arloesol: Canolbwyntiwch ar ddatblygu cynaliadwy ac arferion busnes moesegol.
02
Dysgu Ymarferol: Cymerwch ran mewn dysgu seiliedig ar broblemau gyda heriau busnes byd go iawn.
03
Effaith Gymunedol: Dysgwch sut i ysgogi newid cadarnhaol mewn cymunedau gwledig.
04
Safbwynt Byd-eang: Datblygwch ymdeimlad o ddinasyddiaeth fyd-eang a chysylltu â nodau byd-eang ehangach.
05
Bod yn barod am yrfa: Dysgwch y sgiliau sydd arnoch eu hangen i ymuno â'r gweithlu gyda meddylfryd sy'n edrych tua’r dyfodol.
06
Amgylchedd Cefnogol: Ymunwch â chymuned sy'n angerddol am arloesi a chynaliadwyedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen TystAU Datblygu Mentrau Cynaliadwy (Gwledig) yn cwmpasu pynciau hanfodol fel strategaeth fusnes, rheolaeth ariannol, datblygu cymunedol, a menter gymdeithasol. Byddwch yn dysgu sut i greu modelau busnes cynaliadwy sydd o fudd i bobl a’r blaned.

Pynciau Modylau: 

Mae ein rhaglen yn pwysleisio dysgu gweithredol ac ymagweddau cydweithredol sy’n meithrin meddwl beirniadol, adfyfyrio moesegol, a defnyddiau byd go iawn. Gyda chyfuniad o theori ac arfer ymarferol, mae myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau i ddylanwadu ar arferion cynaliadwy a dod yn asiantau rhagweithiol dros newid. Trwy fodylau diddorol, ein nod yw creu arweinwyr ag ymwybyddiaeth fyd-eang, sy’n gymdeithasol gyfrifol a fydd yn siapio dyfodol cynaliadwy ar draws cyd-destunau cymunedol a menter amrywiol.
 

Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes

(20 credydau)

Arbenigrwydd ac Adfywio

(20 credydau)

Marchnata Digidol

(20 credydau)

Dysgu a Chydweithio ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang

(20 credydau)

Menter Gynaliadwy

(20 credydau)

Datblygiad Cymunedol

(20 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o Bwyntiau Tariff UCAS     

    • e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth Ã¢ thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu  er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. 

    TGAU 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. 

    Llwybrau mynediad amgen 

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno Ã¢â€™n gradd baglor, gallech ystyried: 

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. 

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth Ã¢ blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. 

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar Ã´l seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth Ã¢ sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill. 

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr. 

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.   

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Caiff y rhaglen ei hasesu drwy gyfuniad o ddulliau arloesol a mwy traddodiadol sydd wedi’u cynllunio i ddatblygu dealltwriaeth, datrys problemau a meddwl creadigol myfyrwyr yn ystod y rhaglen. 

    Mae asesiadau wedi’u cysylltu’n agos â gweithgareddau dysgu, lle mae myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth a sgiliau mewn sesiynau wythnosol ac yn gallu dysgu o asesiadau ffurfiannol drwy gydol y rhaglen.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. 

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, ond nid yw hwn yn ofynnol ac ni chaiff unrhyw effaith ar y radd derfynol.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Ewch i dudalen Teithio’r Byd gyda’r Drindod Dewi Sant i ddysgu rhagor am gyfleoedd i astudio dramor.

  • Caiff graddedigion eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd datblygu busnes cynaliadwy, rheolaeth gymunedol, ac arweinyddiaeth menter gymdeithasol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau