Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle - Darpariaeth ar Benwythnosau (Llawn amser) (BA Anrh)
Mae’r radd Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y Gweithle (BA Anrh) wedi’i chynllunio i’ch helpu i dyfu’n arweinydd effeithiol. Os ydych wedi cwblhau’r cwrs Sgiliau ar gyfer y Gweithle (TystAU), y rhaglen hon yw’r cam nesaf delfrydol, gan roi i chi’r sgiliau arwain a rheoli sydd eu hangen i ragori yn y byd cyflym sydd ohoni.
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno theori rheoli â phrofiad yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu sut mae busnesau a sefydliadau’n gweithio ac yna’n cymhwyso’r wybodaeth hon yn uniongyrchol i’ch profiad eich hun o’r gweithle. Cyflwynir y cwrs drwy ddull dysgu hyblyg, sy’n golygu y gall ffitio o amgylch eich bywyd, gan ei wneud yn haws i chi gydbwyso eich astudiaethau ag ymrwymiadau eraill. P’un a ydych yn dymuno gwella eich arferion arwain neu gael dealltwriaeth newydd o’r theori rheoli sydd y tu ôl i dimau effeithiol, mae’r rhaglen hon yn cynnig ystod o sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn archwilio pynciau fel rheoli pobl, cynllunio prosiectau, a sut i wneud penderfyniadau busnes pwysig. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arwain timau, trin newid, a datblygu perthnasoedd cryf gyda rhanddeiliaid. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau arwain a rheoli allweddol a fydd yn eich helpu i sefyll allan yn y gweithle. Bydd eich dysgu wedi’i seilio ar sefyllfaoedd yn y byd go iawn, sy’n golygu y byddwch chi’n barod i gymhwyso’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu cyn gynted ag y byddwch chi’n graddio.
Mae’r dull dysgu hyblyg hefyd yn golygu bod y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn gwahanol leoliadau, gan roi cyfle i chi astudio mewn ffordd sy’n gweddu orau i chi. Dim ond i fyfyrwyr Cartref mae’r cwrs hwn ar gael.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch wedi datblygu set gref o sgiliau rheoli trosglwyddadwy y gellir eu cymhwyso ar draws amrywiol ddiwydiannau. Nid dim ond gradd yw’r BA mewn Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth, ond hefyd, mae’n borth i ddilyniant gyrfa, gan gynnig cyfleoedd i symud ymlaen mewn rolau rheoli a thu hwnt.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wrth wraidd y rhaglen Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y Gweithle mae ymrwymiad i ddysgu trwy gymhwysiad ymarferol. Credwn mewn cyfuno theori reoli â phrofiad yn y byd go iawn, gan roi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau mewn lleoliadau gwaith ar unwaith. Mae ein dulliau addysgu yn canolbwyntio ar amgylcheddau dysgu rhyngweithiol, hyblyg a chefnogol a gynlluniwyd i’ch helpu i lwyddo.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn sgiliau allweddol fel cyfathrebu effeithiol, sgiliau digidol, a datrys problemau. Mae’r modylau’n cynnwys Sgiliau Academaidd, Gweithio mewn Tîm a Chyfathrebu yn Effeithiol, a Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau, gan roi i chi’r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn academaidd ac yn y gweithle. Byddwch hefyd yn archwilio menter ac entrepreneuriaeth i ddatblygu dulliau meddwl creadigol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso cysyniadau arweinyddiaeth yn fanylach. Byddwch yn dysgu am ymgysylltu â rhanddeiliaid, rheoli tîm a rheoli prosiectau, gan ennill dealltwriaeth ddyfnach o sut i arwain a rheoli o fewn cyd-destun sefydliadol. Bydd modylau fel Datblygu Sgiliau Deallusrwydd Emosiynol a Diwylliant Sefydliadol yn eich helpu i ymdrin â chymhlethdodau arweinyddiaeth a deinameg yn y gweithle.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn archwilio pynciau uwch fel rheolaeth strategol, arloesi ac arwain newid. Mae’r modylau hyn yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn ac i feddwl yn strategol fel arweinydd. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect annibynnol, sy’n eich galluogi i gymhwyso popeth rydych wedi’i ddysgu i bwnc neu her o’ch dewis, gan hoelio eich sgiliau arweinyddiaeth yn ymarferol.
(40 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae’r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr Cartref.
Cyflawni TystAU Sgiliau ar gyfer y Gweithle (120 credyd) yn llwyddiannus.°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. 
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. 
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. 
 Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. 
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. 
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
-
Mae asesiadau’n amrywio ar draws modylau drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau o adroddiadau maes a labordy i gyflwyniadau, traethodau ac arholiadau i roi’r cyfle i chi wneud yn dda a dangos eich gwybodaeth ddatblygol.
Rydym yn ymfalchïo mewn rhoi adborth ardderchog ar bob cam o’r cwrs i’ch helpu i wneud cynnydd.
Rydym yn defnyddio adborth i ddatblygu eich gwybodaeth am y cwrs ac, yn bwysig, eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ehangach wrth ysgrifennu adroddiadau, a chyfathrebu gwyddoniaeth fel y galwch ddangos eich gallu i weithio’n effeithiol yn sector yr amgylchedd ar ddiwedd eich cwrs.
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis y prosiect mawr ond nid yw hyn yn ofynnol, ac ni fydd yn effeithio ar y marc terfynol.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Mae’r rhaglen Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle (BA) (Anrh) wedi’i chreu i fod yn rhaglen israddedig ddeniadol sydd wir yn ymateb i anghenion newidiol dysgwyr yn y gweithle ac sy’n addas i’r rhai sy’n ceisio gwella eu rhagolygon o ddychwelyd i’r gweithle.
Lluniwyd y rhaglen er mwyn sicrhau bod gan raddedigion y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol priodol a fydd yn eu galluogi i weithio’n effeithiol mewn marchnad fyd-eang sy’n newid yn gyson. Mae’r gallu i gael effaith uniongyrchol ac i gyfrannu’n barhaus yn y gweithle yn agwedd bwysig.
O’r herwydd, bydd y myfyrwyr yn fedrus wrth weithio mewn tîm, yn meddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogi i gyfathrebu’n effeithiol, yn gallu nodi strategaethau priodol er mwyn datrys problemau sefydliadol, yn gallu cyfrannu at ymarfer myfyriol, ac yn gallu datblygu fel dysgwyr gydol oes yn hyderus.