Gradd Feistr mewn Gweinyddu Busnes (Dysgu Cyfunol, Llawn Amser)Llawn amser) (MBA)
Mae’r cymhwyster Rheoli hwn, sy’n cael ei barchu’n rhyngwladol, yn gwella sgiliau a chymwyseddau rheolwyr profiadol ac yn darparu lansiad i yrfa reoli ar gyfer graddedigion mwy diweddar.
Cefnogir y cwrs Dysgu Cyfunol hwn gan ein Hysgol Fusnes Abertawe.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen MBA yn cwmpasu’r cwricwlwm busnes/rheoli cyffredinol ac mae’n cynnig cyfle i chi arbenigo.
Gallwch ddewis dilyn llwybr Rheoli Twristiaeth neu Reoli Lletygarwch Rhyngwladol hefyd.
Bydd pob myfyriwr yn cael eu hannog i arfer y cysyniadau y maen nhw’n eu dysgu, ac i gyfarwyddo a phatrymau damcaniaethol.
Bydd y cynnwys yn gwella gallu myfyrwyr i reoli ac i arwain sefydliadau’n effeithiol, a hynny trwy ddatblygu eich gallu ac ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth eang o sgiliau, syniadau a damcaniaethau rheoli. Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy’n integreiddio gwaith prosiect ymarferol a thrylwyredd academaidd.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau rheoli er mwyn cael cyfle i yrfa ryngwladol.
Mae cyfle o hyd i Brifysgol Cymru ddyfarnu’r rhaglen hon.
Bydd yr MBA yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio meysydd eang o fewn maes rheoli busnes a fydd yn gwella eu sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bydd myfyrwyr yn mynd i’r afael â materion byd-eang a materion strategol sy’n wynebu sefydliadau yn yr 21ain ganrif, yn ogystal â materion cyfoes mewn amrywiaeth eang o feysydd busnes gwahanol. Mae rheolaeth strategol, adnoddau dynol, rheolaeth ariannol a marchnata yn enghreifftiau o rai o’r meysydd y mae modiwlau’r rhaglen yn eu hastudio.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(60 credydau)
(60 credydau)
Ymwrthodiad
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, mae angen gallu yn y Saesneg sy’n cyfateb i sgôr IELTS o 6.0 (neu gyfwerth), heb unrhyw sgôr islaw 5.5 mewn darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad. Mae’r gofynion mynediad academaidd eraill yr un fath ar gyfer pob myfyriwr: (cartref, UE, rhyngwladol).
Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob disgyblaeth cyn belled â’u bod yn meddu ar radd a/neu gymwysterau proffesiynol. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion sydd â phrofiad proffesiynol, profiad o arwain, a phrofiad o reoli, a byddan nhw’n cael eu cymeradwyo yn ôl disgresiwn cyfarwyddwr y rhaglen.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 21 oed neu’n hÅ·n a rhaid iddyn nhw fod ag un neu fwy o’r canlynol:
- Gradd anrhydedd gydnabyddedig (o leiaf 2:2) neu gymhwyster cyfatebol.
- Cymhwyster proffesiynol.
- Diplomâu/tystysgrifau’r Brifysgol mewn Rheoli Busnes.
- Gall ymgeiswyr 25 oed neu hÅ·n sydd ddim yn bodloni’r meini prawf gael eu derbyn ar y cwrs os bernir bod eu profiad proffesiynol neu eu profiad o reoli yn briodol.
Gellir ystyried eithrio rhai myfyrwyr rhag gorfod cwblhau rhai modiwlau a addysgir, ond bydd penderfyniadau o’r fath yn cael eu gwneud fesul achos ac yn unol â phroses achredu PCYDDS.
-
Caiff modiwlau eu hasesu gan waith cwrs. Gall hyn ei wneud mewn sawl ffordd gwahanol, gan gynnwys prosiectau sy’n seiliedig ar waith, prosiectau ymchwil byr, cyflwyniadau, dadansoddi astudiaethau achos a’r traethawd hir. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr y rhaglen llawn-amser, neu’r rhai sydd heb gyflogaeth ar hyn o bryd, yn gallu seilio eu prosiectau ar gwmnïau o rwydwaith helaeth o gyflogwyr SBS er mwyn cael dewisiadau eraill ar gyfer aseiniadau sy’n seiliedig ar waith.
-
Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiadau ein myfyrwyr trwy’r adeg, ac o ganlyniad, gallent ysgwyddo costau ychwanegol o ganlyniad i weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at ei addysg. Lle bo’n bosibl, bydd y costau hyn yn cael eu cadw mor isel â phosibl, gyda gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Bydd teithiau maes dewisol ar gael i fyfyrwyr. Bydd costau’r teithiau o fewn y DU a rhai rhyngwladol yn cael eu darparu ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu’r gost bedair wythnos cyn i’r teithiau ddigwydd, a thri mis cyn y dyddiad gadael a chostau visa ar gyfer lleoliadau tramor.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi elwa ar y cymhwyster hwn i hybu eu gyrfa yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol/dielw, a hynny yn y DU a thramor.
Hefyd, mae ein myfyrwyr llawn-amser hefyd yn cymryd rhan mewn rhaglen o ymweliadau sefydliadol, gweithdai a digwyddiadau DPP (mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig) sy’n darparu cyfle i ymgeisio ac i rwydweithio. Maen nhw hefyd yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith priodol ac i gynllunio a datblygu eu gyrfaoedd ar ôl graddio.
Mae gan y rhaglen ffocws alwedigaethol, ac mae’n defnyddio astudiaethau achos go iawn o sefydliadau sy’n gweithredu’n gyfredol. Rydym yn annog myfyrwyr i rannu eu profiad gwaith eu hunain ac i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd creadigol ac arloesol.