ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle (CertHE)

Llundain
1 Blynedd Llawn Amser

Os ydych chi am ddatblygu eich sgiliau busnes ac adeiladu sylfaen gref ar gyfer eich gyrfa, efallai mai ein  Tystysgrif AU Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle yw’r dewis iawn i chi. Wedi’i lleoli yn Birmingham, mae’r rhaglen hon yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r amgylchedd busnes wrth roi’r offer i chi lwyddo mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gynnig trosolwg eang o fusnes, gan eich helpu i gael dealltwriaeth o sut mae sefydliadau’n gweithredu ac yn cael eu rheoli. Trwy fodiwlau diddorol, byddwch yn archwilio meysydd hanfodol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol a marchnata. Byddwch hefyd yn gweithio ar eich sgiliau cyfathrebu, gan ddysgu sut i gyfleu syniadau yn effeithiol a gweithio o fewn timau.

Canolbwynt pwysig y cwrs yw datrys problemau a gwneud penderfyniadau, gan eich helpu i feddwl yn feirniadol a mynd i’r afael â heriau’n hyderus. Byddwch hefyd yn dysgu am reolaeth, gan gael dealltwriaeth gadarn o arweinyddiaeth a rheoli perfformiad. Bydd y sgiliau hyn yn hanfodol p’un ai eich bod yn arwain tîm neu’n gweithio’n annibynnol o fewn sefydliad.

Mae’r cwrs wedi’i strwythuro i sicrhau eich bod yn datblygu sgiliau ymarferol ac academaidd. Byddwch yn cymryd rhan mewn profiad gwaith yn y byd go iawn gyda chyflogwyr o wahanol sectorau, gan roi’r cyfle i chi ddefnyddio eich gwybodaeth mewn lleoliadau proffesiynol. Mae’r dull ymarferol hwn yn allweddol i wella eich cyflogadwyedd a meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Drwy gydol y cwrs, byddwch hefyd yn dysgu am ddiwylliant busnes, menter ac entrepreneuriaeth, gan roi sylfaen i chi ddeall sut mae busnesau’n arloesi ac yn tyfu. Byddwch yn datblygu sgiliau digidol i’ch helpu i ddelio â gofynion y byd busnes sy’n newid yn gyflym heddiw, a chanolbwyntio ar waith tîm a chyfathrebu effeithiol, gan sicrhau eich bod yn barod i gydweithio mewn unrhyw amgylchedd proffesiynol.

Mae’r Dystysgrif AU yn bwynt mynediad ardderchog i addysg uwch. Gan ganolbwyntio ar sgiliau academaidd a gweithredu ymarferol, byddwch yn barod ar gyfer astudiaeth bellach neu i gamu yn uniongyrchol i yrfa mewn busnes. P’un ai bod gennych chi ddiddordeb mewn dechrau eich busnes eich hun, ymgymryd â rôl arweinydd, neu ddatblygu eich dealltwriaeth o’r gweithle, mae’r rhaglen hon yn cynnig yr offer a’r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen i lwyddo.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy i chi, sy’n eich galluogi i fynd ar drywydd cyfleoedd yn hyderus ar draws meysydd amrywiol, o reolaeth i entrepreneuriaeth.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Blynedd Llawn Amser

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Datblygu’r sgiliau a'r wybodaeth allweddol sydd eu hangen arnoch i wella eich gyrfa.
02
Gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol, ar sail ymarfer a fydd yn eich arwain trwy bob cam o'r broses.
03
Ymuno â chymuned ddysgu a fydd yn dod yn rhwydwaith busnes am oes.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein dull o ddysgu yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth academaidd, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n drylwyr ar gyfer y gweithle. Rydym yn canolbwyntio ar greu amgylchedd dysgu diddorol a chefnogol lle gallwch feithrin sgiliau busnes sy’n berthnasol i’r amgylchedd busnes deinamig sydd ohoni.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau academaidd a sgiliau digidol allweddol a fydd yn sail i’ch dysgu. Byddwch yn gwella eich gallu i weithio’n effeithiol mewn timau trwy fodiwlau gwaith tîm a chyfathrebu effeithiol, wrth wella eich galluoedd datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Mae’r cwrs hefyd yn pwysleisio cyflogadwyedd a datblygu gyrfa, gan eich helpu i baratoi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol.

Yn ogystal, byddwch yn archwilio menter ac entrepreneuriaeth, gan ddod i ddeall sut i arloesi a chreu mentrau busnes. Nod y flwyddyn hon yw rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau ymarferol i chi lywio’r byd busnes modern, gan roi’r hyder i chi ffynnu mewn amrywiaethau o leoliadau proffesiynol.

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Sgiliau Digidol

(20 credydau)

Gwaith Tîm a Chyfathrebu Effeithiol

(20 credydau)

Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau

(20 credydau)

Cyflogadwyedd a Datblygu Gyrfa

(20 credydau)

Menter ac Entrepreneuriaeth

(20 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref a Rhyngwladol. 

    Cydnabyddir ystod eang o gymwysterau rhyngwladol sy’n cyfateb i ddau bas Safon Uwch, gan gynnwys Bagloriaeth Ryngwladol a Bagloriaeth Ewropeaidd. Bydd y Brifysgol fel arfer yn derbyn myfyrwyr sydd wedi cwblhau Rhaglen Sylfaen Ryngwladol gydnabyddedig, er enghraifft, y rhai a gynigir gan Golegau Addysg Bellach y DU, Prifysgolion a Cholegau Addysg Uwch. 

    Dilyniant 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.  

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd sy’n ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Disgwylir i fyfyrwyr fod yn weithgar wrth reoli eu profiad dysgu, i fod yn greadigol a chymryd mentrau i ddatblygu eu hunain. Mae’r modiwlau a gynhelir gan ein myfyrwyr yn y rhaglen hon yn cael eu hasesu’n drefnus ac yn gryno yn unol â’r strategaeth asesu modiwlau benodol. 

    Mae’r asesiadau’n amrywio ond nid ydynt yn gyfyngedig i’r canlynol: aseiniadau, cyflwyniadau, trafodaethau, gweithdai, cwestiynau amlddewis, trafodaethau ar-lein, wikis, blogiau, a phrosiect ymchwil ysgrifenedig. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth ar yr holl asesiadau a gynhelir a fydd ar ffurf adborth llafar a/neu ysgrifenedig. 

  • Ni fydd costau ychwanegol gorfodol i’w hastudio y tu hwnt i dalu hyfforddiant. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio fel cludiant ac efallai y byddant am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau eraill ar y campws. 

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer cymorth astudio fel gliniaduron yn ystod eu hastudiaeth, er nad yw hyn yn ofyniad rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig ag astudio neu fywyd myfyrwyr sy’n ysgwyddo cost y tu hwnt i hyfforddiant yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr ar adeg cofrestru. 

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran gyllid.   

  • Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer myfyrwyr sy’n graddio sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a phrifysgolion eraill. Bydd graddedigion yn cymhwyso eu gwybodaeth a’u sgiliau yn y meysydd canlynol: 

    • Adnoddau Dynol 

    • Marchnata a Gwerthu 

    • Gwasanaethau Ariannol 

    • Rheolaeth yn y sector cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector 

    • Ymgynghoriaeth Busnes 

    • ´¡²õ³Ù³Ü»å¾±´Ç/²â³¾³¦³ó·É¾±±ô&²Ô²ú²õ±è;ô±ô-°ù²¹»å»å±ð»å¾±²µ&²Ô²ú²õ±è;

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau