Arwain Cynaliadwyedd (Ar-lein) (Rhan amser) (MBA)
Mae’r rhaglen ran-amser hon wedi’i chynllunio i ddatblygu arweinwyr creadigol sy’n gallu cydweithio er mwyn mynd i’r afael â heriau byd-eang heddiw a manteisio ar gyfleoedd. Byddwch yn cael y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i lunio dyfodol sy’n gynhwysol ac yn gynaliadwy ar gyfer busnes a chymdeithas.
Yr MBA yw’r cymhwyster gorau ar gyfer y rhai mewn rôl reoli neu’r rhai hynny sy’n anelu at gyflawni rôl felly. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am ddylanwadu ar gyfeiriad eu sefydliad yn y dyfodol
Gyda chymhwyster MBA PCYDDS, dim ond eich meddwl sy’n teithio. Mae’r cwrs yn gyfan gwbl ar-lein, sy’n golygu nad oes angen bod yn bresennol yn bersonol. Mae’r hyblygrwydd hwn yn caniatáu i chi gydbwyso eich astudiaethau ag ymrwymiadau eraill.
Ein nod yw bod ein graddedigion ar flaen y gad o ran llunio meddylfryd busnes yn fyd-eang. Mae’r rhaglen yn ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda i fynd i’r afael â materion cynaliadwyedd mewn sectorau a daearyddiaethau amrywiol. Byddwch yn dysgu am strategaethau busnes a sut i’w defnyddio mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae’r cwrs hefyd yn pwysleisio defnydd ymarferol, gan sicrhau y gellir defnyddio’r hyn rydych chi’n ei ddysgu yn uniongyrchol yn eich gwaith.
Mae’r rhaglen yn rhaglen ryngddisgyblaethol, sy’n defnyddio gwybodaeth o wahanol feysydd i roi dealltwriaeth gynhwysfawr o arwain cynaliadwyedd. Byddwch yn astudio ochr yn ochr â chasgliad amrywiol o unigolion, gan elwa ar safbwyntiau o wahanol gefndiroedd a diwydiannau. Mae’r amrywiaeth hon yn cyfoethogi’r profiad dysgu ac yn eich paratoi i weithio mewn amgylcheddau amrywiol.
P’un ai eich bod yn y sector preifat neu’r sector cyhoeddus, bydd y cymhwyster MBA hwn yn rhoi’r offer i chi arwain yn effeithiol. Byddwch yn barod i ymgymryd â rolau sy’n gofyn am feddwl arloesol a dealltwriaeth ddofn o gynaliadwyedd.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod i ymuno â rhengoedd yr arweinwyr byd-eang sy’n gwneud gwahaniaeth. Bydd gennych y wybodaeth a’r hyder i roi arferion cynaliadwy ar waith ac ysgogi newid cadarnhaol yn eich sefydliad a thu hwnt.
Mae’r rhaglen hon yn fwy na dim ond gradd; mae’n daith tuag at ddod yn arweinydd a all gael effaith wirioneddol. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o’r ateb i heriau mwyaf dybryd y byd.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwyniad
Mae ein rhaglen MBA Arwain Cynaliadwyedd yn ysbrydoli myfyrwyr trwy ddysgu cydweithredol ac ymgysylltu ymarferol, gyda’r nod o ddatblygu arweinwyr a all ysgogi effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol. Rydym yn credu mewn darparu ein myfyrwyr â’r sgiliau hanfodol, safbwyntiau byd-eang, a dealltwriaeth arloesol sydd eu hangen arnynt i lunio arferion cynaliadwy o fewn sefydliadau a chymunedau heddiw.
Mae ein rhaglen MBA Arwain Cynaliadwyedd wedi’i chynllunio i ysbrydoli myfyrwyr trwy ddysgu cydweithredol ac ymgysylltu ymarferol, gyda’r nod o ddatblygu arweinwyr sy’n gallu ysgogi effaith gymdeithasol ac amgylcheddol gadarnhaol. Rydym yn credu mewn rhoi’r sgiliau hanfodol, y safbwyntiau byd-eang, a’r ddealltwriaeth arloesol i’n myfyrwyr er mwyn iddyn nhw lunio arferion cynaliadwy o fewn sefydliadau a chymunedau heddiw.
Beth Fyddwch Chi’n Ei Ddysgu
Mae myfyrwyr yn dechrau gyda’r Her Cynaliadwyedd, gan archwilio pwysigrwydd cynaliadwyedd mewn busnes modern. Mae’r modiwl hwn yn ymdrin ag egwyddorion allweddol datblygu cynaliadwy a rôl arweinyddiaeth wrth feithrin newid. Trwy sesiynau rhyngweithiol, mae myfyrwyr yn asesu arferion busnes yn feirniadol ac yn nodi strategaethau cynaliadwyedd sy’n addas ar gyfer cyd-destunau sefydliadol amrywiol.
Wrth iddyn nhw symud ymlaen, mae myfyrwyr yn ymgysylltu ag Arfer Rheoli: Safbwynt Beirniadol, sy’n annog hunanfyfyrio ar arddulliau rheoli a phrosesau gwneud penderfyniadau. Gan bwysleisio’r sgiliau sydd eu hangen i roi mentrau cynaliadwyedd ar waith mewn sefydliad, mae’r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth o arweinyddiaeth foesegol a ffyrdd o ysbrydoli arferion cynaliadwy.
Yn y modiwl Ymgorffori Cynaliadwyedd mewn Sefydliadau, mae myfyrwyr yn archwilio strategaethau er mwyn plethu meddwl cynaliadwy i werthoedd a gweithrediadau busnes. Gan ddefnyddio astudiaethau achos a senarios byd go iawn, mae’r modiwl hwn yn cyflwyno offer ymarferol ar gyfer ysgogi mentrau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant sy’n cyd-fynd â nodau tymor hir ac yn cefnogi cynaliadwyedd byd-eang.
Daw’r rhaglen i ben gydag Arwain Newid Cynaliadwyedd, lle mae myfyrwyr yn mireinio eu dulliau arwain er mwyn cefnogi trawsnewid parhaus mewn busnes. Mae’r modiwl hwn yn eu paratoi i fod yn eiriolwyr dros gynaliadwyedd, gan roi’r wybodaeth iddyn nhw i arwain eu sefydliadau drwy’r heriau a’r cyfleoedd mewn byd cynaliadwyedd sy’n datblygu’n barhaus.
Gorfodol
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2 
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
-
Bydd rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi gan sefydliad neu’n cael eu cyflogi gan sefydliad, fel bo modd iddyn nhw ddefnyddio eu cyd-destun proffesiynol yn eu dysgu.
Llwybrau mynediad amgen 
-
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
-
Bydd yr holl asesiadau’n cael eu cyflwyno ar-lein, ac maen nhw’n adeiladu ac yn myfyrio ar y gweithgareddau cydweithredol sy’n digwydd o fewn y modiwlau. Bydd y tiwtor yn rhoi adborth ffurfiannol a chrynodol, a byddan nhw ar gael i egluro eu hadborth ymhellach drwy e-bost, galwad ffôn a/neu Skype, os bydd y myfyriwr yn dymuno hynny. Bydd adborth ar gyfer y camau cynnydd a’r dyfarniad yn cymryd lle yn unol â rheoliadau safonol y Brifysgol ar gyfer rhaglenni Meistr. Bydd trefniadau ar gyfer ail-sefyll yn cael eu darparu drwy Amgylchedd Dysgu Rithwir y Brifysgol.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu deunyddiau ar gyfer modiwlau, fel ar gyfer y traethawd hir, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol. -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd myfyrwyr ar y rhaglen yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o sefydliadau, y cyd-destun allanol y maen nhw’n gweithredu ynddo ynghyd â chynnig cyfle i ddadansoddi sut y cant eu harwain a’u rheoli.
Bydd cyfleoedd i ddechrau ar yrfaoedd neu i ddatblygu gyrfaoedd o fewn sefydliadau sy’n ceisio ail-lunio ei hun drwy gyflogi unigolion allweddol sydd â’r gallu i’w harwain trwy gydol y daith sy’n arwain at gynaliadwyedd.
Mae swyddi allweddol posibl yn cynnwys: Rheolwr Cynaliadwyedd; Arweinydd mewn Datblygu Adnoddau Dynol, Rheolwr Prosiect, Ymgynghorydd; Gweithredydd Cynaliadwyedd neu Asiant Newid mewn Busnes, Diwydiant, Datblygu; Y Celfyddydau; Mentrau Cymdeithasol; Llywodraeth; Cyrff Anllywodraethol; Elusennau, iechyd neu addysg.