ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Rheolaeth Busnes gyda Blwyddyn Lleoliad (BA Anrh)

Abertawe
4 Blynedd, Llawn Amser
88 o Bwyntiau UCAS

Mae’r radd BA (Anrh) Rheolaeth Busnes gyda Blwyddyn Lleoliad yn PCYDDS Abertawe wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau adeiladu sylfeini cryf ym maes busnes wrth ennill profiad ymarferol gwerthfawr.

Mae’r rhaglen hon yn cyfuno gwybodaeth busnes a rheolaeth hanfodol gyda phrosiectau byd go iawn, gan helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau busnes y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni.

Drwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn ymdrin â meysydd allweddol fel cyllid, rheoli adnoddau dynol, marchnata a chyfrifeg. Mae’r pynciau hyn yn hanfodol er mwyn deall sut mae busnesau’n gweithredu a llwyddo. Mae cyrsiau mewn economeg a strategaeth yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol myfyrwyr ymhellach, gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau busnes gwybodus.

Un o nodweddion craidd y rhaglen hon yw’r Flwyddyn Lleoliad, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth fusnes ymarferol mewn lleoliadau diwydiant go iawn. Trwy bartneriaethau ag amrywiaeth o gwmnïau, mae myfyrwyr yn cael profiad yn y diwydiant trwy weithio ar brosiectau go iawn, cwrdd â gweithwyr proffesiynol, ac adeiladu rhwydweithiau sy’n hanfodol ar gyfer datblygu gyrfa.

Mae’r radd hon hefyd yn blaenoriaethu sgiliau arweinyddiaeth a sgiliau entrepreneuriaeth, gan alluogi myfyrwyr i reoli timau, gwneud penderfyniadau strategol, a meithrin arloesedd mewn busnesau. Mae’r pwyslais ar gyflogadwyedd yn golygu y bydd graddedigion yn gadael gyda gwybodaeth arbenigol a phrofiad ymarferol, gan eu rhoi mewn sefyllfa i allu ymgymryd Ã¢ rolau mewn busnesau byd-eang.

Yn ogystal, mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gofynion digidol busnesau modern. Trwy ganolbwyntio ar drawsnewid ac arloesi digidol, mae myfyrwyr yn ennill y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol rheolaeth busnes. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys cyfleoedd rhwydweithio helaeth i sicrhau bod gan fyfyrwyr gysylltiadau da yn eu maes.

Gall myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg gwblhau 40 credyd drwy’r Opsiwn Iaith Gymraeg.

Mae’r radd Rheolaeth Busnes hon gyda Blwyddyn Lleoliad yn cynnig cydbwysedd delfrydol o theori a dysgu ymarferol, gan ei gwneud yn ddewis ardderchog i’r rhai sy’n chwilio am baratoad trylwyr a hyblyg ar gyfer byd busnes amrywiol sy’n datblygu.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
N20P
Hyd y cwrs:
4 Blynedd, Llawn Amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfraniad staff sydd â phrofiad o ddiwydiant, ac y mae eu gwybodaeth yn seiliedig ar ymchwil, at yr addysgu.
02
Y cyfle i astudio dramor.
03
Y cyfle i ymgymryd ag o leiaf dwy interniaeth yn ystod y rhaglen dair blynedd.
04
Sgiliau cyflogadwyedd wedi’u mewnblannu ym mhob modwl.
05
Amrywiaeth y modylau ac asesiadau dilys.
06
Cyfle i astudio rhai modylau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein rhaglen Rheolaeth Busnes yn  pwysleisio ymagwedd gytbwys, ymarferol at ddysgu, gan uno theori sylfaenol gyda chymhwysiad ymarferol. Trwy gymysgedd o addysgu yn yr ystafell ddosbarth, prosiectau byd go iawn, a rhyngweithio â’r diwydiant, bydd myfyrwyr yn adeiladu sylfaen gref o sgiliau busnes a galluoedd meddwl beirniadol. Mae’r dull cyflawn hwn yn paratoi graddedigion i fod yn hyblyg ac yn fedrus wrth lywio’u ffordd drwy’r dirwedd fusnes fyd-eang ddeinamig.

Blwyddyn 1

Yn y flwyddyn gyntaf, caiff myfyrwyr eu cyflwyno i ddisgyblaethau busnes craidd, gan gynnwys cyllid, marchnata, rheoli adnoddau dynol, ac economeg. Mae cyrsiau llythrennedd digidol a dysgu annibynnol hefyd yn datblygu sgiliau academaidd ac ymarferol hanfodol. Mae’r flwyddyn sylfaen hon yn rhoi dealltwriaeth eang i fyfyrwyr o swyddogaethau busnes a’u rolau cydgysylltiedig o fewn sefydliadau.

Blwyddyn 2

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar  sgiliau dadansoddi a meddwl strategol dyfnach, gan gwmpasu modylau fel trethiant, arweinyddiaeth ac entrepreneuriaeth. Mae elfennau ymarferol, gan gynnwys Ysgogwyr Newid a phrosiectau cyflogadwyedd cynaliadwy, yn caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso eu gwybodaeth ddamcaniaethol i sefyllfaoedd y byd go iawn. Mae gan fyfyrwyr hefyd yr opsiwn i ymgymryd Ã¢ symudedd rhyngwladol, gan ennill safbwynt byd-eang ar weithrediadau busnes.

Blwyddyn 3 - Blwyddyn Lleoliad

Yn ystod y flwyddyn lleoliad, bydd myfyrwyr yn cael profiad diwydiant amhrisiadwy drwy weithio mewn amgylchedd busnes perthnasol. Mae’r flwyddyn lleoliad hon yn cyfoethogi eu  sgiliau cyflogadwyedd a rhwydweithio, gan gynnig mewnwelediadau i arferion proffesiynol a datblygiad gyrfa. Trwy ymwneud yn uniongyrchol â’r gweithle, bydd myfyrwyr yn mireinio eu sgiliau ymarferol ac yn ennill mantais gystadleuol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.

Blwyddyn 4

Yn y flwyddyn olaf, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn pynciau uwch fel moeseg fyd-eang, rheolaeth ariannol, a phrosiect ymchwil annibynnol. Mae modylau arweinyddiaeth a datblygu yn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr i arwain ac arloesi o fewn sefydliadau. Mae’r flwyddyn hon yn cyfuno mewnwelediadau beirniadol a strategol gyda chymhwysiad ymarferol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus mewn cyd-destunau busnes byd-eang amrywiol.

Gorfodol

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Arloesi Entrepreneuraidd

(20 credydau)

Cyllid ar gyfer Busnes

(20 credydau)

Hanfodion Marchnata

(20 credydau)

Pobl a Sefydliadau

(20 credydau)

Yr Amgylchedd Busnes’Sy'n Newid

(20 Credyd)

Gorfodol

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Marchnata ar waith

(20 credydau)

Rheoli Perfformiad Ariannol

(20 credydau)

Cyfraith Contract

(20 credydau)

Lleoliad Proffesiynol neu Wirfoddoli

(20 Credyd)

Deallusrwydd Digidol a Datblygiadau'r Dyfodol

(20 credyd)

Dewisol

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Blwyddyn mewn Diwydiant (Lleoliad Rhyngosod) â€“ Craidd, (asesir ar sail pas/methu)


Craidd

Blwyddyn Lleoliad

Gorfodol

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Materion Cyfoes mewn Rheolaeth

(20 credydau)

Moeseg Fyd-eang

(20 credydau)

Arwain a Datblygu Pobl

(20 credydau)

Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 88 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: B/A, BTEC: DMM, IB: 29

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  &²Ô²ú²õ±è;

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  &²Ô²ú²õ±è;

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   &²Ô²ú²õ±è;

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.  &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.  &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.  &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
     
    Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;

    Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;

  • Mae’r dulliau asesu’n amrywio o fodwl i fodwl ond gallwch ddisgwyl ystod o asesiadau gan gynnwys gwaith cwrs, gwaith ymarferol ac arholiadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â thasgau dilys o’r“byd go iawnâ€sy’n arddangos gallu myfyriwr i gymhwyso ei wybodaeth a’i sgiliau’n ystyrlon.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

    Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Lleoliad

    Bydd ffi ychwanegol o £1800 ar gyfer myfyrwyr sy’n dewis astudio’r rhaglen gyda’r lleoliad blwyddyn mewn diwydiant dewisol. Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.

    Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol &²Ô²ú²õ±è;

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg &²Ô²ú²õ±è;

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae ein graddau busnes yn rhoi i fyfyrwyr ystod eang o sgiliau y mae amrywiaeth o gyflogwyr yn chwilio amdanynt. O ganlyniad i natur hyblyg ac eang y rhaglen bydd graddedigion yn gymwys i fynd i weithio mewn ystod o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys y sectorau dielw, cyhoeddus a phreifat. 

    Mae’r Ysgol Fusnes yn cynnig cymorth pwrpasol i fyfyrwyr ynghylch lleoliadau, a chynigir cyngor sy’n benodol i’r diwydiant gan arbenigwyr yn y ddisgyblaeth. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ymgymryd â lleoliadau/interniaethau fel rhan o’u rhaglen radd a/neu yn ychwanegol i’r modylau a addysgir. Hefyd, fe fydd yna gyfleoedd i ymuno â rhaglenni Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) y cyrff sy’n gysylltiedig â’r diwydiant.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau