ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Rheolaeth Menter Wledig (Llawn asmer) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
88 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen Rheolaeth Menter Wledig yn cynnwys myfyrwyr mewn dulliau meddwl busnes cyfoes ac yn eich paratoi i gyfrannu at ddyfodol busnes mwy cyfrifol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar sut y gallai busnes ddatrys materion lleol a byd-eang, yn hytrach na’u hachosi. Un o brif rannau’r rhaglen yw deall yr economi werdd a’r economi gylchol, yn ogystal ag archwilio cysyniadau modern fel niwroamrywiaeth yn y gweithle.

Credwn fod angen symud i ffwrdd oddi wrth fodelau busnes traddodiadol sy’n canolbwyntio ar elw a symud tuag at ddulliau cynaliadwy a moesegol. Nod y cwrs hwn yw rhoi i chi’r medrau i lwyddo ym maes datblygol rheoli mentrau gwledig. Byddwch yn dysgu am y nodweddion, yr heriau a’r cyfleoedd unigryw sy’n wynebu mentrau gwledig, a sut i’w rheoli’n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys ffocws cryf ar yr economi wledig, amgylcheddau busnes, a sut maent yn gweithredu o fewn cyd-destun byd-eang sy’n newid.

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn mabwysiadu meddylfryd blaengar gan ystyried effaith eich penderfyniadau ar fusnesau a chymdeithasau. Bydd yr ymagwedd flaengar hon yn eich paratoi i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy, gan sicrhau bod busnesau yn chwarae rhan gadarnhaol yn y byd.

Fel myfyriwr, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau proffesiynol a deallusol, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, datrys problemau cymhleth, creadigrwydd, ac adfyfyrio. Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol a fydd yn cefnogi eich datblygiad mewn amgylcheddau proffesiynol. Yn ogystal, byddwch yn gwella eich sgiliau rheoli trosglwyddadwy, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddilyn llwybrau gyrfaol amrywiol yn y sector gwledig a thu hwnt.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
238A
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
88 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn rhan o ailfeddwl busnes ar gyfer byd sy’n newid trwy ymuno ag ysgol fusnes sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi ei lleoli wrth galon economi wledig.
02
Astudiwch fusnes cymdeithasol o safbwynt cyfoes gyda modylau a luniwyd i roi i chi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i arwain menter wledig yn y dyfodol.
03
Ymunwch ag amgylchedd cefnogol lle byddwch yn trafod pynciau mewn grwpiau bach mewn cymuned ddysgu o staff a myfyrwyr.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn PCYDDS, rydym yn cyfuno theori ac arfer, gan eich helpu i ymgysylltu â heriau busnes y byd go iawn. Mae ein cwrs Rheolaeth Menter Wledig yn pwysleisio cynaliadwyedd ac arferion moesegol, gan roi i chi’r sgiliau i ffynnu yn y sector gwledig. Byddwch yn datblygu dulliau meddwl beirniadol, datrys problemau a phrofiad ymarferol drwy gydol y cwrs, gan baratoi ar gyfer ystod o gyfleoedd gyrfaol.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn rheolaeth busnes, gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd a’r economi wledig. Byddwch yn archwilio modylau fel Heriau Busnes Byd-eang, Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes, a Menter Gynaliadwy. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall y materion allweddol sy’n wynebu busnesau heddiw, yn lleol ac yn fyd-eang.

Gorfodol 

Heriau Busnes Byd-eang

(20 credydau)

Rheolaeth Ariannol ar gyfer Cynaliadwyedd Busnes

(20 credydau)

Dulliau Rheoli Cyfoes

(20 credydau)

Arbenigrwydd ac Adfywio

(20 credydau)

Dysgu a Chydweithio ar gyfer Dinasyddiaeth Fyd-eang

(20 credydau)

Menter Gynaliadwy

(20 credydau)

Bydd eich ail flwyddyn yn ymchwilio ymhellach i ddeinameg busnes gwledig ac effaith arloesi a pholisi. Byddwch yn astudio modylau megis Newid ac Arloesi Technolegol, Busnes Gwledig ac Arallgyfeirio, a Gwydnwch Gwledig. Bydd y rhain yn rhoi i chi’r sgiliau i ymchwilio, dadansoddi a rheoli heriau unigryw mentrau gwledig.

Gorfodol 

Newid ac Arloesi Technolegol

(20 credydau)

Ymholiad ac Ymchwil Busnes

(20 credydau)

Interniaeth a Gwirfoddoliaeth

(20 Credydau)

Gwleidyddiaeth a Dadansoddi Polisi

(20 Credydau)

Busnes Gwledig ac Arallgyfeirio

(20 credyd)

Cydnerthedd Gwledig

(20 credyd)

Dewisol

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu mewn lleoliadau yn y byd go iawn trwy leoliad gwaith a modylau uwch fel Strategaethau ar gyfer Gwydnwch a Ffyniant a Rheoli Prosiectau ar gyfer Cynaliadwyedd. Byddwch hefyd yn ymgymryd â Thraethawd Hir Busnes Cynaliadwy, sy’n eich galluogi i ganolbwyntio ar faes o ddiddordeb ym maes rheolaeth menter wledig, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus. 

Gorfodol 

Busnes Cyfrifol o Safbwynt Byd-eang

(20 credydau)

Strategaethau ar gyfer Gwydnwch a Ffyniant

(20 credydau)

Traethawd Hir Busnes Cynaliadwy

(40 Credydau)

Rheoli Prosiectau ar gyfer Cynaliadwyedd

(20 credyd)

Entrepreneuriaeth Gymdeithasol

(20 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gennym ddiddordeb mewn ymgeiswyr sy’n cyfrannu i ddyfodol yr economi wledig.  Nid oes angen yr astudiaeth flaenorol a byddem yn croesawu ymgeiswyr sydd ag amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Ein cynnig arferol ar gyfer y BA yw 88 pwynt tariff UCAS. Perchir dyfarniadau Lefel A ac Edexcel, yn ogystal ag ystod o dystysgrifau eraill ar y lefel hon o’r DU, yr UE a chyrff rhyngwladol.

    Derbynnir nifer o gymwysterau cyfatebol eraill yn gyfraniad at eich pwyntiau tariff UCAS a bydd y panel derbyniadau’n ystyried pob cais yn unigol. Sylwer hefyd nad yw ein cynigion wedi’u seilio ar eich cyraeddiadau academaidd yn unig; byddwn yn cymryd i ystyriaeth eich ystod lawn o sgiliau, profiad a chyflawniadau wrth ystyried eich cais.

    88 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: B/A, BTEC: DMM, IB: 29 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Caiff y rhaglen BA Rheolaeth Menter Wledig ei hasesu trwy gyfuniad o ddulliau arloesol a rhai mwy traddodiadol a ddyluniwyd i ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr, y gallu i ddatrys problemau a meddwl yn greadigol yn ystod eu tair blynedd o astudio.

    Mae asesiadau wedi eu cysylltu’n agos â gweithgareddau dysgu, lle mae myfyrwyr yn adeiladu dealltwriaeth a sgiliau mewn sesiynau wythnosol ac y mae modd iddynt ddysgu trwy asesiad ffurfiannol gydol y rhaglen. 

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr brynu deunyddiau ar gyfer modylau, megis prif brosiect ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni chaiff effaith ar y radd derfynol.

    Efallai yr hoffai myfyrwyr fynd ar ymweliadau dewisol dros nos yn y DU neu dramor ar ryw adeg yn ystod eu rhaglen astudio, gydag amcangyfrif o £600-£1000. Unwaith eto, nid yw presenoldeb ar ymweliadau maes dros nos ychwanegol yn orfodol ac nid ydynt yn effeithio ar y radd derfynol. Mae costau ar gyfer ymweliadau maes sy’n rhan o’r modylau wedi eu cynnwys yn ffioedd y cwrs.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Caiff myfyrwyr BA Rheolaeth Menter Wledig wneud cais i astudio ar ein rhaglen astudio dramor. Os cânt eu derbyn, bydd y myfyrwyr yn astudio dramor yn un o’n sefydliadau partner yn UDA a Chanada ar gyfer ail semester lefel 5.

  • Noda adroddiad gan Fforwm Economaidd y Byd, erbyn 2020 y bydd 55% o’r sgiliau a ystyrir yn bwysig i gael swydd heddiw wedi newid; yn ôl yr adroddiad, y tri uchaf y bydd galw amdanynt gan y gweithlu fydd datrys problemau, meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd. Trwy astudio Rheolaeth Menter Wledig gyda ni, byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r galluoedd i ddatrys yn greadigol broblemau’r dyfodol trwy fynd ati i gyflawni dysgu sy’n seiliedig ar broblemau ac sy’n anelu at drawsnewid eich meddwl am fusnes a rheolaeth.  Oddi mewn i’r rhaglen, byddwch yn gweithio ar brosiectau byw ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau a byddwch hefyd yn cyflawni interniaeth orfodol yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.

    Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i amrywiaeth o feysydd yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn meysydd megis arwain cynaliadwyedd, rheolaeth ariannol, marchnata, rheolaeth adnoddau dynol, rheolaeth prosiectau, datblygu cymunedol ac adfywio.

    Mae pwyslais ar entrepreneuriaeth ac arloesi yn y rhaglen hefyd wedi golygu bod nifer o’n graddedigion diweddar wedi gadael i sefydlu eu busnesau llwyddiannus eu hunain ac mae Ysgol Fusnes Caerfyrddin yn mynd ati’n rhagweithiol i gyfeirio myfyrwyr at gymorth mewnol ac allanol ar gyfer datblygiad busnes.

    Mae nifer o’n graddedigion yn dewis symud ymlaen i astudio pellach ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth naill ai yn Y Drindod Dewi Sant neu mewn prifysgolion eraill.  Yn Ysgol Fusnes Cymru, rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ac mae gennym nifer o fyfyrwyr Doethuriaeth gweithredol.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau