ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Arfer Proffesiynol (Rhan-amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
2 blynedd yn rhan amser
O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol.

Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Arfer Proffesiynol yn rhaglen hyblyg, seiliedig ar waith a gynlluniwyd ar gyfer ymarferwyr proffesiynol sy’n ceisio cyfoethogi eu harbenigedd, datblygu sgiliau arweinyddiaeth, a chael cydnabyddiaeth academaidd ffurfiol o’u profiad. 

Mae’r rhaglen PGCert hon a gyflwynir ar-lein yn llwyr yn caniatáu i ddysgwyr gymhwyso eu hastudiaethau’n uniongyrchol i’w gweithle, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n cydbwyso gyrfa ac addysg.

Gellir teilwra’r rhaglen hon ac mae’n galluogi i ddysgwyr ddewis modylau sy’n gweddu i’w diwydiant, gyda llwybrau mewn arweinyddiaeth, hyfforddi, mentora, rheolaeth systemau, a datblygiad proffesiynol. Un o’r nodweddion allweddol yw’r llwybr Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL), sy’n caniatáu i fyfyrwyr ennill credyd academaidd am brofiad a chymwysterau blaenorol, gan gyflymu eu cynnydd.

Trwy addysgu a arweinir gan ymchwil, astudiaeth annibynnol, a chymhwysiad byd go iawn, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau adfyfyrio beirniadol, datrys problemau, a chyfathrebu proffesiynol. Gall y PGCert fod yn gymhwyster ar ei ben ei hun neu’n gam tuag at Ddiploma Ôl-raddedig neu radd Meistr mewn Arfer Proffesiynol.

Os ydych yn chwilio am gymhwyster hyblyg, sy’n berthnasol i ddiwydiant ac yn cefnogi eich twf proffesiynol, mae’r PGCert mewn Arfer Proffesiynol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ddewis perffaith.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 blynedd yn rhan amser
Gofynion mynediad:
O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Hyblyg ac Ar-lein: Wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a’i gyflwyno’n llawn ar-lein gyda nifer o bwyntiau mynediad.
02
Dysgu yn y Gwaith: Cymhwyswch eich astudiaethau’n uniongyrchol i’ch arfer proffesiynol.
03
Llwybr Dysgu wedi’i Deilwra: Dewiswch fodylau sy’n berthnasol i’ch nodau gyrfaol, gan gynnwys arweinyddiaeth, hyfforddi a rheolaeth.
04
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL): Enillwch gredydau ar gyfer profiad a chymwysterau blaenorol.
05
Modylau perthnasol i Ddiwydiant: Datblygwyd mewn cydweithrediad ag arbenigwyr y diwydiant i alinio gyda heriau proffesiynol y byd go iawn.
06
Dilyniant Gyrfa: Enillwch gymhwyster ffurfiol sy’n gallu arwain i PGDip neu MA mewn Arfer Proffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol, arweinyddiaeth, ac arfer adfyfyriol i gyfoethogi eich arbenigedd yn y gweithle. Ymhlith y meysydd dysgu allweddol mae:

  • Cymhwysiad ymarferol o strategaethau arweinyddiaeth a hyfforddi.
  • Methodoleg ymchwil ar gyfer gwella’r gweithle.
  • Ystyriaethau moesegol a fframweithiau arfer proffesiynol.
  • Hunan-adfyfyrio beirniadol a datblygiad sgiliau.

Mae’r PGCert yn cynnwys 60 credyd, gan ganiatáu i fyfyrwyr deilwra eu profiad dysgu.

Modylau craidd:

  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus (20 credyd)
  • Cydnabod ac Achredu Dysgu (RAL) (20 credyd)
  • Prosiect Dysgu seiliedig ar Waith (Bach) (20 credyd)

Modylau Dewisol (enghreifftiau):

  • Hyfforddi a Mentora (30 credyd)
  • Ymchwil mewn Gweithleoedd (10 credyd)
  • Rheoli Prosiectau yn y Gwaith (30 credyd)
  • Arweinyddiaeth a newid (30 credyd)
  • Rheolaeth Systemau mewn Cyd-destun (30 credyd)

Gall myfyrwyr ddewis eu modylau’n seiliedig ar ei nodau proffesiynol.

Dewisol

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

(20 credydau)

Cymhwyso Dysgu yn y Gweithle

(15 credydau)

Ymchwil mewn gweithleoedd

(10 credyd)

Optional

Rheoli Prosiectau Seiliedig ar Waith

(30 credydau)

Arweinyddiaeth a Newid

(30 credydau)

Arweinyddiaeth wrth gynllunio a chymell

(30 credyd)

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf 5 mlynedd o brofiad priodol sy’n seiliedig ar waith neu waith gwirfoddol. 

    Llwybrau mynediad amgen 

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (PGCert). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.  

    Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau PGCert yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen ar gyfer gweddill y radd Meistr. 

    Mae’r rhain yn lwybrau delfrydol os ydych chi’n dychwelyd i astudio ar ôl bwlch, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os nad ydych wedi cyflawni’r graddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer lle ar y radd hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    I gael cyngor a chefnogaeth benodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Fel darpar fyfyriwr bydd y Tîm Derbyn yn trefnu cyfarfod i drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi. Mae hyn fel arfer yn digwydd ar-lein ar amser sy’n gyfleus i chi.  

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  

  • Mae’r asesiadau’n cynnwys aseiniadau adfyfyriol, adroddiadau’n seiliedig ar brosiectau, ac astudiaethau achos strategol.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.  

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol  

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg  

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Nid oes unrhyw gostau ychwanegol gofynnol ar gyfer y cwrs. Mae opsiwn i gynnal asesiad Seicometrig Insights.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar ein gwefan.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaeth. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau ar ein gwefan.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau