ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Gwneud Ffilmiau Antur (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd Gwneud Ffilmiau Antur yn cynnig cyfle unigryw i archwilio byd cyffrous ffilm a’r cyfryngau, gan gyfuno anturiaethau awyr agored â chynhyrchu cyfryngau creadigol. Fel yr unig raglen o’i bath yn y DU, mae wedi’i chynllunio i gydbwyso gweithgareddau anturus â dysgu ymarferol wrth greu cyfryngau.

Wedi’i lleoli mewn amgylchedd cefnogol sy’n llawn adnoddau, mae’r rhaglen hon yn sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol trwy ymgysylltu â chleientiaid, asiantaethau a sefydliadau allanol. Bydd y dull hwn yn eich helpu i feithrin sgiliau cynhyrchu hanfodol  mewn Gwneud Ffilmiau Antur wrth eich paratoi ar gyfer gwahanol rolau yn y diwydiant cyfryngau.

Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ac offer o safon y diwydiant, gan gynnwys ystafell olygu, ystafell drochi ac offer sgrin werdd, gan ddarparu’r offer sydd eu hangen arnoch i greu ffilmiau a chynnwys cyfryngau trawiadol. Drwy gydol y cwrs byddwch yn gweithio ar brosiectau cydweithredol, gan ganiatáu i chi ddatblygu ystod eang o sgiliau. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau camera, sgiliau sain a sgiliau golygu, pob un yn hanfodol ar gyfer cynhyrchu ffilmiau o ansawdd uchel.

Mae’r rhaglen hefyd yn pwysleisio profiad ymarferol, gan gynnig cyfleoedd i gysylltu â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau’r diwydiant, megis Canolfan S4C Yr Egin, OM-Digital, Panasonic Lumix, ac Ironman. Bydd y cysylltiadau hyn yn rhoi dealltwriaeth i chi o fyd cynhyrchu chwaraeon a chynhyrchu rhaglenni dogfen, gan wella eich gallu i ymdrin â phrosiectau cyfryngau amrywiol.

Byddwch yn rhan o glwstwr ehangach o raglenni sy’n cynnwys graddau mewn Cynhyrchu Cyfryngau Digidol, Actio a Dylunio a Chynhyrchu Set. Mae’r amgylchedd a rennir hwn yn golygu y gallwch elwa o ddysgu cydweithredol, a chael mynediad at ystod o sgiliau technegol ac adnoddau.

Erbyn diwedd y rhaglen hon, byddwch yn barod iawn i ymuno â’r gweithlu gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o ddatblygu syniadau ffilm a’r hyblygrwydd i weithredu eich sgiliau cynhyrchu cyfryngau ar draws diwydiannau gwahanol. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gwneud ffilmiau bywyd gwyllt neu ddarlledu digwyddiadau byw, bydd y radd hon yn eich helpu i gael yr arbenigedd sydd ei angen i lwyddo.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
AF01
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae ein cyrsiau arloesol mewn Gwneud Ffilmiau Antur yn unigryw yn y DU.
02
Mae’r rhaglenni gradd wedi’u datblygu gyda’r diwydiant i baratoi myfyrwyr at yrfa mewn gwneud ffilmiau cyfoes.
03
Mae ein lleoliad hyfryd yng Ngorllewin Cymru yn darparu ystod eang o dirweddau, bywyd gwyllt, amgylcheddau a chwaraeon ar gyfer gwaith cynhyrchu.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein gradd Gwneud Ffilmiau Antur wedi’i chynllunio i gynnig profiad dysgu ymarferol ac ymdrochol, gan integreiddio sgiliau ymarferol â defnydd yn y byd go iawn. Rydym yn credu mewn dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, lle mae dysgu’n ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth gan ddefnyddio tirweddau Gorllewin Cymru, ac archwilio’r cyfleoedd gwych y mae’r lleoliad hwn yn eu cynnig. Trwy alldeithiau a theithiau maes, byddwch yn ffilmio campau eithafol, bywyd y môr, a bywyd gwyllt, gan archwilio clogwyni arfordirol, traethau, mynyddoedd, llynnoedd a dyffrynnoedd. Bydd mewnbwn gan weithwyr proffesiynol y diwydiant yn eich arwain, a bydd ymweliadau stiwdio a lleoliadau gwaith rheolaidd yn cynnig cipolwg go iawn ar y diwydiant.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn gwneud ffilmiau, archwilio ecoleg a’i berthnasedd i antur, ac addasu i’r oes ddigidol. Mae’r flwyddyn yn cynnwys astudiaeth fanwl o risgiau antur a chynhyrchu ffilmiau ymarferol, gan osod sylfaen gref ar gyfer prosiectau yn y dyfodol a heriau cyfoes.

Cyflwyniad i Wneud Ffilmiau

(20 credydau)

Dysgu yn yr Oes Ddigidol

(20 credydau)

Cynhyrchu Ffilm

(20 credydau)

Heriau Cyfoes: Gwneud Gwahaniaeth

(20 credydau)

Sgiliau Antur Sylfaen

(20 credits)

Rheoli Risg mewn Antur

(20 credydau)

Gan adeiladu ar eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ymchwilio i arweinyddiaeth antur, ac yn dysgu technegau ar gyfer bywyd gwyllt a delweddu amgylcheddol. Mae’r flwyddyn hon yn canolbwyntio ar greadigrwydd a chynaliadwyedd trwy wneud ffilmiau o’r awyr a brandio personol ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy, gyda chyfleoedd dewisol ar gyfer astudio rhyngwladol.

Delweddau Antur, Bywyd Gwyllt ac Amgylcheddol

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Creadigrwydd a Chreu Gwerth

(20 credydau)

Gwneud Ffilm o'r Awyr

(20 credydau)

Ysgogwyr Newid: Adeiladu eich Brand Personol ar gyfer Cyflogaeth Gynaliadwy

(20 credydau)

Arweinyddiaeth Antur a Hyfforddi

(20 credydau)

Sgiliau Alldaith

(20 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Rhyngwladol

(20 credydau)

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn datblygu cynnwys aml-lwyfan, yn mynd i’r afael â digwyddiadau critigol mewn antur, ac yn gweithio ar  brosiect cleient sylweddol. Bydd prosiect annibynnol yn caniatáu mynegiant personol ac yn rhoi eich sgiliau ar waith, wedi’i ategu gan adolygiad o’r diwydiannau creadigol. 

Cynnwys Amlblatfform

(20 credydau)

Prosiect Cleientiaid

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Adolygu’r Diwydiannau Creadigol

(20 credydau)

Digwyddiadau Critigol mewn Antur

(20 credydau)

Dewisol

Astudio Dramor Annibynnol Rhyngwladol (L5)

(60 credydau)

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities

Cyfleusterau Ffilm, Cyfryngau ac Animeiddio Caerfyrddin

Two tutors stand at the front of a classroom; one points to a large screen which shows an extensive editing interface surrounding an image of an old wooden building by the sea.

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Summer show poster wall

Cwrdd â’n Myfyrwyr

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30 a Phortffolio  

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. 

    Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith. 

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen    

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • – Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE). 

    Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol.  Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau. â€¯ 

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Dim arholiadau. Gwaith cwrs ymarferol, traethodau a chyflwyniadau.

  • Costau Ychwanegol Cyrsiau

    • Bwndel cyfarpar awyr agored gorfodol — tua Â£230

    Argymhellir

    • Cerdyn SD cyflym, gyriant caled.
    • Dewis o alldeithiau dewisol yn amrywio o Â£200-1000.
  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae sgiliau entrepreneuraidd a galwedigaethol yn elfen greiddiol o brofiadau’r myfyrwyr, gan alluogi graddedigion i fynd i mewn i’r diwydiant yn hyderus fel gweithwyr llawrydd ac i hyrwyddo ac arddangos eu gwaith.

    Mae ymgysylltu â’r diwydiant yn rhan annatod o’r holl agweddau ar ein rhaglenni. Gall hyn fod ar ffurf lleoliadau gwaith, prosiectau ar gyfer cleientiaid allanol, gweithio ar brosiectau ffilm, neu ymgysylltu â’r ymarferwyr proffesiynol niferus o’r diwydiant a fydd yn cynnig eu harbenigedd yn ystod y rhaglenni.