ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Actio (Llawn amser) (BA Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn Amser
64 o Bwyntiau UCAS

Mae ein rhaglen Actio wedi’i chynllunio i roi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn gweithio yn y diwydiannau perfformio a chreadigol. Mae’n cyfuno hyfforddiant ymarferol â pharatoi proffesiynol i’ch helpu i ddod yn berfformiwr amryddawn a medrus.  

Mae’r rhaglen yn hynod ymarferol ac yn canolbwyntio ar ddiwydiant, gydag ymagwedd aml-sgil sy’n cynnwys amrywiaeth o arddulliau perfformio, gan gynnwys actio llwyfan, sgrin a llais. Byddwch yn dysgu gwahanol dechnegau actio megis dulliau cymeriadu wedi’u sgriptio, dyfeisio a byrfyfyr. Mae’r ymagwedd amrywiol hon yn sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer unrhyw senario perfformiad.

Fel rhan o’ch hyfforddiant, byddwch yn cymryd rhan mewn cydweithio creadigol ar draws portffolio’r Celfyddydau Perfformio. Mae’r profiad ymarferol hwn yn hanfodol ar gyfer datblygu eich sgiliau perfformio a deall sut i weithio’n effeithiol gydag eraill yn y diwydiant. Mae ein ffocws ar ddull ar sail berfformio’n golygu y byddwch yn treulio llawer o amser mewn gweithdai ymarferol ac ystafelloedd ymarfer, gan fireinio eich sgiliau actio ac yn dysgu mynegi eich hun yn greadigol. 

Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant drwy gydol eich hyfforddiant, gan ennill dealltwriaeth o arferion gwaith cyfredol ac adeiladu rhwydweithiau o fewn y diwydiannau creadigol. Mae’r profiad ymarferol hwn yn allweddol i adeiladu eich hunaniaeth perfformiwr a’ch paratoi ar gyfer gyrfa fel actor proffesiynol.

Bydd ein hyfforddiant yn eich paratoi ar gyfer gyrfa bortffolio, lle gallech ymwneud ag amrywiol agweddau ar y byd perfformio. Bydd y sgiliau a enillwch nid yn unig yn ddefnyddiol ar gyfer actio ond hefyd yn drosglwyddadwy i rolau eraill megis cynhyrchu, datblygu cyfryngau a rheoli prosiectau. Yn ogystal, byddwch yn ennill profiad mewn addysgu ac arwain gweithdai, sy’n sgiliau gwerthfawr ar gyfer nifer o lwybrau gyrfa.

Mae’r rhaglen yn adlewyrchu tueddiadau cyfredol yn y sector creadigol ac fe’i cyflwynir mewn lleoliad tebyg i conservatoire. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn lefel uchel o hyfforddiant, sy’n cyd-fynd yn agos â safonau proffesiynol. Bydd natur ymdrochol y cwrs yn eich herio i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa ddeinamig yn y diwydiannau perfformio a chreadigol.

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddofn o dechnegau actio, gan eich paratoi i gamu i fyd actio proffesiynol neu chwilio am gyfleoedd amrywiol eraill o fewn y sector creadigol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
W410
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn Amser
Gofynion mynediad:
64 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae pob asesiad yn ymarferol, ac wedi’i seilio ar berfformiadau – dim arholiadau na thraethawd hir.
02
Dysgu gan, a chydweithio gydag, ymarferwyr proffesiynol hyfforddedig, profiadol sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilm, gan greu cysylltiadau ar hyd y daith.
03
Archwilio gwahanol genres o ysgrifenwyr cyfoes i’r absẃrd a Shakespeare.
04
Gweithio gyda myfyrwyr eraill i greu darnau artistig.
05
Cyfle i astudio dramor yn yr UD.
06
Cytunai 100% o fyfyrwyr Actio’r Drindod Dewi Sant fod staff wedi gwneud y pwnc yn ddiddorol – Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym yn credu mewn dull ymarferol, ymdrochol o ddysgu sy’n cyfuno profiad ymarferol ag archwilio creadigol. Mae ein rhaglen Actio yn meithrin amgylchedd cefnogol lle byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol a chreadigol, gan eich paratoi i ffynnu ym myd deinamig perfformio. Drwy gydol y cwrs, cewch eich arwain gan diwtoriaid a gweithwyr proffesiynol y diwydiant a fydd yn eich helpu i fagu hyder, mireinio technegau, a meithrin creadigrwydd fel cydweithwyr a pherfformwyr. Mae’r cyfuniad hwn o theori ac ymarfer yn sicrhau eich bod mewn sefyllfa dda i lwyddo mewn rolau perfformio amrywiol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn gosod y sylfaen ar gyfer eich gyrfa actio trwy archwilio ystod eang o sgiliau. Byddwch yn cymryd rhan mewn perfformiadau cerddorol, llais a symud a gwaith byrfyfyr er mwyn creu sylfaen gadarn. Byddwch hefyd yn ymchwilio i dechnegau actio ac arferion cynhyrchu, wrth ddatblygu eich dealltwriaeth o faterion cyfoes drwy brosiectau creadigol. Mae’r flwyddyn hon yn gosod y sylfaen ar gyfer perfformio ymarferol a dysgu damcaniaethol. 

Compulsory

Perfformiad Cerddorol

(20 credydau)

Llais a Symud

(20 credydau)

Actio

(20 credydau)

Byrfyfyrio a Dyfeisio

(20 credydau)

Cynhyrchu, Perfformio, a Genre

(20 credyd)

Dawns a Choreograffi

(20 credyd)

Optional

Prosiect Personol

(20 credydau)

Mae eich ail flwyddyn yn canolbwyntio ar fireinio’ch crefft ac ehangu eich gwybodaeth am y diwydiant. Byddwch yn gweithio ar sgript ac ymarfer, cynhyrchu ffilmiau byr a pherfformio Shakespeare er mwyn dyfnhau eich profiad actio. Yn ogystal, byddwch yn cael dealltwriaeth o ddrama mewn addysg a’r diwydiant creadigol ac yn cael cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith neu gyfle symudedd rhyngwladol er mwyn astudio dramor. Mae’r flwyddyn hon yn gwella eich sgiliau ymarferol a’ch parodrwydd proffesiynol. 

Compulsory

Sgript, Ymarfer a Pherfformio

(20 credydau)

Cynhyrchu Ffilmiau Byr

(20 credydau)

Perfformio Shakespeare

(20 credydau)

Drama a Theatr mewn Addysg

(20 credydau)

Arfer Perfformiad Arbenigol

(20 credydau)

Diwydiant Creadigol

(20 credyd)

Optional

Prosiect Personol

(20 credydau)

Lleoliad Gwaith

(20 credydau)

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiectau perfformiad sylweddol sy’n dangos eich arbenigedd ac yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cwblhau prosiect annibynnol ac yn cymryd rhan mewn theatr safle-benodol ac ymarfer proffesiynol. Mae mwy o gyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith a symudedd rhyngwladol i astudio dramor ar gael, gan eich galluogi i roi eich sgiliau i weithio mewn lleoliadau byd go iawn a chadarnhau eich llwybr proffesiynol.

Compulsory

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Theatr Safle-benodol

(30 credydau)

Arfer Proffesiynol

(20 credydau)

Prosiect Mawr

(30 credydau)

Optional

Prosiect Unigol

(20 credydau)

Prosiect Personol

(30 credydau)

Lleoliad Gwaith

(30 credydau)

Cyfle Symudedd Rhyngwladol

(60 Credyd)

Rôl Cynorthwyydd

(10 credyd)

Course Page Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Facilities

Fel myfyriwr yn y diwydiannau perfformio yng Nghaerfyrddin, cewch fynediad at amrywiaeth o weithdai, mannau theatr, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer.

A circle of seven students jump in synch in a dance rehearsal studio with mirrored wall.

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Summer show poster wall

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30 a Chlyweliad  

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu  er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i berfformio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. 

    Rydym yn trefnu clyweliadau a chyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr er mwyn asesu addasrwydd ar gyfer y cwrs a ddewiswyd.

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;  

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Ar ôl gwneud cais, cewch eich gwahodd gan Reolwr y Rhaglen i glyweliad a chyfweliad ar gyfer y cwrs.

    Y clyweliad:

    Gellir cwblhau hyn naill ai wyneb yn wyneb ar y campws neu drwy blatfform fideo gynadledda (e.e. Zoom neu Teams).  

    Mae angen i’ch araith clyweliad (un araith) fod tua 2 funud o hyd. Gall fod o unrhyw ddrama theatr o’ch dewis, ond nid o sgriptiau Teledu, Ffilm neu Theatr Gerddorol. Os byddwch yn cael clyweliad wyneb yn wyneb, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol byr gydag ymgeiswyr eraill hefyd. 

    Y cyfweliad:

    Caiff trefniadau eu gwneud i chi naill ai ymweld â’r campws ar gyfer cyfweliad/gweithdy personol (neu gallwn ni drefnu cyfweliad trwy blatfform fideogynadledda. (e.e. Zoom neu Teams)

    Bydd cynigion ond yn cael eu gwneud ar ôl cwblhau clyweliad a chyfweliad yn llwyddiannus.

  • Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.

  • Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyriwr

    Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, gyda’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.

    Costau teithiau maes a lleoliadau

    Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sydd yn ddewisol. Darperir gwybodaeth am gostau ar gyfer teithiau yn y DU ac yn rhyngwladol ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. 

    Bydd gan fyfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau tramor gostau teithio, byw ac efallai costau llety i’w talu. Bydd y swm yn amodol ar y lleoliad a chyflwr presennol y bunt. Bydd costau fisa ychwanegol yn daladwy yn achos myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliadau yn UDA.

    Yn achos teithiau maes disgwylir i fyfyrwyr dalu bedair wythnos ymlaen llaw. Yn achos lleoliadau tramor disgwylir iddynt dalu’r costau teithio a chostau fisa dri mis ymlaen llaw.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Dull Mynediad Uniongyrchol Rhyngwladol yn y Flwyddyn Olaf

    Bydd myfyrwyr sy’n dewis y dull hwn yn astudio’r modwl Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol ar fformat bloc ar ddechrau eu cyfnod astudio.  Byddant yn elwa ar gwnsela a chymorth personol er mwyn sefydlu sylfaen ar gyfer eu hastudiaethau pellach.  Byddant yn astudio’r pum modwl sy’n weddill (pob un ag 20 credyd, lefel 6) gan elwa bob amser ar gael eu hintegreiddio’n llawn â gweithgareddau ehangach y Gyfadran e.e. Wythnos Menter a Diwydiant, cyflwynwyr gwadd, cyfleoedd i ymgymryd â chystadlaethau rheolaeth / yn y diwydiant neu ddatblygu cynlluniau busnes i gychwyn eu mentrau eu hun.

  • Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.

    Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach.  Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol.  Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.