
Dylunio a Chynhyrchu Set (Llawn amser) (BA Anrh)
A oes diddordeb gennych mewn creu Setiau Theatr, Setiau Ffilm a Setiau Teledu? Nod ein gradd Dylunio Set a Chynhyrchu yn PCYDDS yw rhoi’r sgiliau creadigol, technegol a phroffesiynol sydd eu hangen i chi lwyddo yn y diwydiannau creadigol. Mae’r rhaglen yn ymarferol iawn ac wedi’i chanolbwyntio ar y diwydiant, gan gofleidio ymagwedd aml-sgil at fethodolegau dylunio a dulliau adeiladu.
Mae’r cwrs yn pwysleisio cydweithredu creadigol, gan weithio gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant er mwyn sicrhau bod ein addysgu’n parhau’n gyfredol, yn berthnasol ac yn addasadwy. Byddwch yn datblygu ‘pecyn cymorth’ o sgiliau a gwneud cysylltiadau â’r diwydiant. Mae’r profiad ymarferol yn hanfodol ar gyfer deall yr arferion gwaith diweddaraf yn y diwydiant Ffilm a Theledu a sectorau creadigol eraill.
Mae ein rhaglen yn canolbwyntio ar eich hyfforddi’n ymarferydd proffesiynol. Byddwch yn datblygu gwybodaeth fanwl o arferion gweithio cyfredol drwy amrywiaeth o fodylau ymarferol yn seiliedig ar sgiliau sy’n cael eu haddysgu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd y sgiliau a’r hyfforddiant sydd wedi’u hymgorffori yn y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer gyrfa bortffolio mewn amrywiaeth o feysydd, megis dylunio, celfyddydau golygfeydd, hunan gyflogedig ac entrepreneuriaeth.
Byddwch yn datblygu sgiliau technegol ac esthetig dylunio, sy’n hanfodol ar gyfer rolau mewn Adrannau Celf . Yn ogystal, byddwch yn datblygu profiad mewn ffurfiau 3D, gwneud propiau a cherfio sy’n sgiliau arbenigol hanfodol yn y maes hwn.
Mae ein cwrs wedi’i strwythuro i roi’r profiad gwaith angenrheidiol i chi fel y byddwch yn barod i weithio yn y diwydiant pan fyddwch yn graddio. Rydym yn cynnig amgylchedd stiwdio cydweithredol, gan ganiatáu i chi gymryd rhan mewn creadigrwydd a dylunio wrth weithio ar brosiectau byd go iawn. Bydd y profiad hwn yn eich galluogi i ddod â bydoedd gweledol yn fyw, boed ar gyfer y llwyfan a’r sgrin neu brosiectau dylunio set teledu a ffilm eraill.
Yn ogystal, mae’r rhaglen yn cynnwys hyfforddiant mewn gwisgoedd a phropiau, gan wella’ch gallu i ddweud storïau drwy eich dyluniadau. Byddwch yn dysgu’r grefft o adrodd storïau a sut i’w chymhwyso i wahanol gyfryngau, gan roi mantais cystadleuol i chi yn y farchnad swyddi.
Mae ein cysylltiadau â’r diwydiant yn sicrhau eich bod yn cadw mewn cysylltiad â gweithwyr proffesiynol a thueddiadau yn y sectorau creadigol. Bydd y rhwydwaith honno yn rhoi mewnwelediadau a chyfleoedd amhrisiadwy i chi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych set o sgiliau cadarn gan gynnwys sgiliau arbenigol. Y bydd yr holl sgiliau hyn yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol amryddawn y bydd galw mawr amdanoch yn y diwydiannau creadigol.
Fel myfyriwr Dylunio Set a Chynhyrchu ar ein campws trochi yng Nghaerfyrddin, bydd rhydd hynt i chi ddefnyddion ein gweithdai arbenigol. Yn ogystal, byddwch yn cymryd rhan mewn cydweithrediadau creadigol ar draws y portffolio Diwydiannau Perfformio gan gofleidio’r athroniaeth fod pob lle yn gweithredu fel ystafell ddosbarth yn ein cymuned greadigol.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein Hathroniaeth
Rydym yn credu mewn ymagwedd ymarferol o ddysgu sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, gan sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y diwydiant. Mae ein addysgu yn pwysleisio creadigrwydd, cydweithredu, ac addasrwydd, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes deinamig dylunio set a chynhyrchu.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i hanfodion dylunio set a chynhyrchu, gan ddatblygu sgiliau sylfaenol yn y broses gynhyrchu, lle y byddwch yn sefydlu eich ‘pecyn cymorth’ o sgiliau a fydd yn eich cynnal drwy eich gradd. Byddwch yn datblygu eich creadigrwydd drwy brosiectau ymarferol, gan ddysgu am estheteg dylunio a sylfeini technegau cynhyrchu theatr, ffilm a theledu, gan gynnwys meysydd megis adeiladu golygfeydd a phropiau.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
Dewisol
(20 credydau)
Bydd eich ail flwyddyn yn archwilio’n ddyfnach i fethodolegau dylunio uwch, gan gynnig profiad ymarferol mewn gwneud propiau, cerflunio a gwneud modelau. Mae’r flwyddyn hon yn pwysleisio mireinio eich sgiliau technegol ac ehangu eich portffolio gyda chymwysiadau byd go iawn a chyfleoedd ar gyfer interniaethau a rhwydweithio â’r diwydiant i ehangu eich rhagolygon gyrfa yn ogystal â chyfleoedd i astudio’n rhyngwladol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 Credyd)
Mae’r flwyddyn hon wedi’i chynllunio i’ch trosglwyddo’n ddidrafferth o’r brifysgol i’r byd proffesiynol. Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn canolbwyntio ar bynciau arbenigol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect dylunio mawr, byddwch yn cydweithredu â phartneriaid yn y diwydiant yn rheolaidd gan arddangos eich creadigrwydd a’ch arbenigedd technegol. Ochr yn ochr â hyn, bydd y modwl Ymarfer Proffesiynol yn eich helpu i ddatblygu eich portffolio, eich CV, eich ymwybyddiaeth o dreth, eich technegau cyfweld, eich dadansoddiad SWOT a’ch cynlluniau datblygu personol. Mae’r paratoi cynhwysfawr hwn yn sicrhau eich bod yn barod ar gyfer eich gyrfa yn y diwydiannau Creadigol.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 Credyd)
(10 credyd)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Facilities
Fel myfyriwr yn y diwydiannau perfformio yng Nghaerfyrddin, cewch fynediad at amrywiaeth o weithdai, mannau theatr, stiwdios ac ystafelloedd ymarfer.

Mae ein Sioeau Haf yn arddangos gwaith eithriadol ein myfyrwyr sy’n graddio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau creadigol.

Newyddion
Image carousel
Gwybodaeth allweddol
-
120 o bwyntiau tariff UCAS 
-
e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDM, IB: 33 a Phortffolio
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
– Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE).
Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau.  
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Gall y brifysgol ystyried ymgeiswyr nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol os ydynt yn gallu dangos bod ganddynt lefel eithriadol o allu a phrofiad ymarferol.
Fel rhan o’r broses gyfweld, bydd yn ofynnol i chi gymryd rhan yn y canlynol.
- Dosbarth jazz dechnegol sy’n cynnwys cynhesu, ymarferion jazz technegol a chyfuniad byr neu ddawnsdrefn.
- Dosbarth Masnachol technolegol lle byddwch yn gweithio ar ddarn byr o goreograffi.
- Cyfweliad â Chyfarwyddwr y Rhaglen a’r tîm, lle gofynnir cyfres o gwestiynau cyfweliad. Yna, byddwch yn cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau a allai fod gennych am y cwrs.
Mewn rhai amgylchiadau, gallem dderbyn proses gyfweld ar-lein. Gweler isod ar gyfer gofynion cyflwyno ar-lein:
Bydd angen i chi berfformio cyfres o ymarferion set jazz:
Cam 1 : Cyflwyniad wedi’i hunan-recordio
1. Gan sefyll ar y smotyn, gwnewch 4 cic jazz i’r ffrynt a 4 cic jazz i’r ochr ar y ddwy goes.
2. Pirwét sengl yn gyfochrog i’r dde ac i’r chwith.
3. Gyda choesau wedi’u troi allan – 8 naid yn gyntaf ac 8 naid yn ail.
4. Gyda choesau cyfochrog – 8 naid mewn paralel yn gyntaf ac 8 naid mewn paralel yn ail.
5. Dawnsdrefn jazz byr, dim mwy na 2 funud. Os ydych eisoes wedi recordio neu ffilmio dawnsdrefn, sicrhewch ei fod yn glir pwy ydych chi os yw’n ddawnsdrefn grŵp.
6. Yn olaf, dawnsdrefn Fasnachol (dull o’ch dewis) dim mwy na 2 funud. Os ydych eisoes wedi recordio neu ffilmio dawnsdrefn, sicrhewch ei fod yn glir pwy ydych chi os yw’n ddawnsdrefn grŵp.
Sicrhewch eich bod yn nodi’r wybodaeth ganlynol ar ddechrau’r tapiau:
- Enw llawn
- Enw’r radd rydych chi’n gwneud cais amdani
Cam 2: Cyfweliad
Byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad byr ar-lein gyda thîm y rhaglen, a fydd yn yr un fformat a nodwyd uchod.
Yn dilyn cyfweliad llwyddiannus, bydd lle yn cael ei gynnig i ymgeiswyr. Mae llefydd cyfyngedig ar gael bob blwyddyn.
-
Mae’r rhaglen hon yn cynnig profiad galwedigaethol sy’n heriol yn academaidd ac yn ymgorffori dulliau addysgu ac asesu arloesol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn weithredol wrth reoli eu profiad dysgu, bod yn greadigol a chymryd camau i’w datblygu eu hunain.
-
Ni fydd disgwyl i chi dalu am ddeunyddiau na ffioedd stiwdio.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Dull Mynediad Uniongyrchol Rhyngwladol yn y Flwyddyn Olaf
Bydd myfyrwyr sy’n dewis y dull hwn yn astudio’r modwl Cyfathrebu Busnes Rhyngwladol ar fformat bloc ar ddechrau eu cyfnod astudio. Byddant yn elwa ar gwnsela a chymorth personol er mwyn sefydlu sylfaen ar gyfer eu hastudiaethau pellach. Byddant yn astudio’r pum modwl sy’n weddill (pob un ag 20 credyd, lefel 6) gan elwa bob amser ar gael eu hintegreiddio’n llawn â gweithgareddau ehangach y Gyfadran e.e. Wythnos Menter a Diwydiant, cyflwynwyr gwadd, cyfleoedd i ymgymryd â chystadlaethau rheolaeth / yn y diwydiant neu ddatblygu cynlluniau busnes i gychwyn eu mentrau eu hun.
-
Mae gan y rhaglen gyfradd cyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion, sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd. Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig yn y brifysgol hon a rhai eraill.
Mae’r Gyfadran yn cynnig gradd MSc Rheolaeth Ariannol i’r rheini sy’n dymuno astudio ymhellach. Mae’r astudio hyblyg ar y rhaglen yn rhoi’r gallu i fyfyrwyr lywio’u hastudiaethau yn ôl eu huchelgais o ran gyrfa ac amgylchiadau personol. Mae integreiddio myfyrwyr o’r DU, yr UE a myfyrwyr rhyngwladol ynghyd â chymdeithas cyn-fyfyrwyr gryf yn caniatáu rhwydweithio a sefydlu cyfeillgarwch hirdymor.