LLB (Hons) Y Gyfraith i Raddedigion (LLB)
Gradd llwybr carlam yn y gyfraith yw hon ar gyfer unigolion sydd eisoes yn meddu ar radd baglor mewn maes arall. Mae’n cywasgu gradd arferol yn y gyfraith yn ddwy flynedd, gan ganiatáu i fyfyrwyr gael dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini’r gyfraith a datblygu sgiliau cyfreithiol hanfodol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen yn cwmpasu egwyddorion cyfreithiol craidd, a datblygiad sgiliau cyfreithiol, sy’n rhoi i fyfyrwyr y wybodaeth a sgiliau hanfodol ar gyfer amrywiol alwedigaethau cyfreithiol, gan gynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr, yn ogystal âgyrfaoedd tu allan i’r gyfraith.
(20 credydau)
(20 credyd)
( credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 Credydau)
(40 credyd)
(20 credyd)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd baglor mewn maes arall
Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;
-
Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, efelychiadau, llyfrau gwaith, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae pob modwl yn 20 credyd ac eithrio’r Prosiect Annibynnol ar Lefel 6 sy’n 40 credyd.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol &²Ô²ú²õ±è;
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg &²Ô²ú²õ±è;
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.
Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.
Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.
-
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
-
Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.
Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyfreithiol a chyhoeddus yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’r proffesiynau Cyfiawnder cyfreithiol ehangach.
Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfiawnder cyfreithiol pellach.