ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Y Gyfraith gyda Throseddegdeg (Llawn amser) (LLB)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Ydych chi’n barod i blymio i fyd hynod ddiddorol y Gyfraith a Throseddu?  Bydd y radd hon yn eich helpu i ddeall y system gyfreithiol a sut mae’n gweithio o fewn cymdeithas.  Byddwch yn dysgu am y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys y prif sefydliadau dan sylw, a’r rolau amrywiol y gallech eu dilyn yn y maes hwn.

Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar adeiladu eich gwybodaeth am system gyfreithiol Lloegr a sylfeini gwybodaeth gyfreithiol.  Byddwch hefyd yn archwilio agweddau gwleidyddol, seicolegol a chymdeithasol ar droseddeg, gan roi dealltwriaeth eang i chi o sut mae cyfreithiau’n cael eu gwneud a’u cymhwyso.  Mae hyn yn hanfodol i unrhyw un sy’n dymuno gweithio mewn meysydd fel plismona, carchardai, y gwasanaeth prawf, cyfiawnder ieuenctid neu unrhyw agwedd ar y system cyfiawnder troseddol. 

Gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu offer dadansoddi beirniadol i werthuso troseddu, cyfiawnder, a chosbi.  Mae hyn yn cynnwys deall sut mae polisïau’n esblygu mewn ymateb i droseddu a dysgu am strategaethau atal troseddu ac ymateb i droseddu. Byddwch hefyd yn astudio canlyniadau cyfreithiol troseddu, gan gael mewnwelediad i droseddu cenedlaethol a rhyngwladol. 

Un o uchafbwyntiau’r cwrs hwn yw ei bwyslais ar sgiliau ymarferol.  Byddwch yn gwella’ch galluoedd ymchwil, dehongli a gwerthuso beirniadol. Mae’r sgiliau cyfreithiol ymarferol hyn yn amhrisiadwy p’un a benderfynwch ddod yn gyfreithiwr neu ddilyn rolau gyrfa eraill yn y system cyfiawnder troseddol. 

Mae’r radd hon hefyd yn darparu dealltwriaeth drwyadl o ddamcaniaethu troseddegol.  Byddwch yn astudio dimensiynau hanesyddol a gwleidyddol y gyfraith, yn ogystal â’r dimensiynau cymdeithasol, economaidd, a moesegol.  Bydd y dull cynhwysfawr hwn yn caniatáu i chi weld effaith troseddu ar gymdeithas a deall sut caiff ymatebion cymdeithasol i droseddu eu llunio. 

Addysgir y cwrs gan academyddion ac ymarferwyr profiadol, gan sicrhau eich bod yn cael addysg a mewnwelediad o ansawdd uchel gan y rheini sy’n gweithio yn y maes.  Byddwch yn clywed hefyd gan lunwyr polisïau ac arbenigwyr eraill, gan ddarparu safbwynt cytbwys ar y gyfraith a throseddeg.  Byddwch yn dysgu i wneud eich ffordd drwy sefyllfaoedd cyfreithiol cymhleth a chymhwyso eich gwybodaeth i broblemau’r byd go iawn, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr mewn unrhyw yrfa yn y gyfraith neu gyfiawnder troseddol. 

I grynhoi, mae’r LLB Y Gyfraith gyda Throseddeg wedi’i llunio i’ch paratoi am ystod eang o yrfaoedd yn y sectorau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol.  P’un a oes diddordeb gennych mewn dadansoddi ymddygiad troseddol, polisi cyhoeddus, llywodraethu, neu ddod yn gyfreithiwr wrth ei waith, mae’r radd hon yn cynnig y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.  Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth eang o’r gyfraith a byddwch yn barod i wynebu’r heriau a’r cyfleoedd yn y maes deinamig hwn. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
861G
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y system cyfiawnder cyfreithiol neu'r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, yr Heddlu.
02
Mae'r cwrs wedi datblygu cysylltiadau cryf â sefydliadau lleol i ganiatáu profiad gwaith perthnasol a phroffesiynol, gan roi ein graddedigion yn y sefyllfa orau bosibl i neidio o'r byd academaidd i'r byd gwaith.
03
Bydd rhai o'r cyfleoedd gwaith gwirfoddol sydd wedi'u datblygu yn caniatáu i fyfyrwyr chwarae rhan hanfodol mewn amgylchedd gwaith proffesiynol a bydd yn rhoi cipolwg clir a manwl iddynt ar y proffesiwn.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu’n canolbwyntio ar ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r gyfraith a throseddeg drwy gyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a chymhwyso ymarferol.  Ein nod yw datblygu meddwl yn feirniadol, sgiliau datrys problemau, a gwerthfawrogiad manwl o gymhlethdodau’r systemau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol. 

Mae’r cwrs hwn yn cyfuno astudio Troseddeg lle bydd y myfyriwr yn edrych ar droseddu, pam mae pobl yn troseddu, beth sy’n atal pobl rhag troseddu, plismona troseddu a’r system gosbi cyfreithiol, â sylfaen o egwyddorion cyfreithiol megis Cyfraith Contract, Camweddau Cyhoeddus, Eiddo, a Throsedd. 

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i sylfeini gwybodaeth gyfreithiol a damcaniaethau troseddegol. Byddwch yn astudio Cyfraith Trosedd, yn dysgu am y broses gyfreithiol, ac yn archwilio’r ddeinameg gymdeithasol, wleidyddol, ac ymddygiadol yn y maes hwn. Mae’r flwyddyn sylfaen hon yn rhoi’r offer dadansoddi hanfodol i chi a dealltwriaeth o gysyniadau cyfreithiol allweddol. 

Gorfodol 

Cyflwyniad i Droseddeg

(20 credydau)

Cyfraith Camwedd

(20 credydau)

Cyfraith Trosedd 1

(20 credyd)

Cyfraith Trosedd 2

(20 credits)

Sylfaen Cyfreithiol a Sgiliau

(20 credyd)

Astudio a Sgiliau Proffesiynol Sgiliau Astudio

(20 credyd)

Mae’r ail flwyddyn yn adeiladu ar eich gwybodaeth sylfaenol trwy ymchwilio’n ddyfnach i ddeall trosedd, cyfiawnder a chosb, a chanlyniadau cyfreithiol trosedd.  Byddwch yn archwilio cyfraith cam, contract a chyfraith teulu. Mae eleni yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol ac ymchwil.

Gorfodol 

Cyfraith ac Ymarfer Teulu

(20 credyd)

Cyfraith Contract

( credydau)

Deall Trosedd, Cyfiawnder a Chosb

(20 credydau)

Paratoi ar gyfer Ymchwil

(20 credydau)

Cyfraith Gyhoeddus

(20 credydau)

Y Porth i Gyflogaeth

(20 credydau)

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich dealltwriaeth o sefyllfaoedd cyfreithiol cymhleth, megis ecwiti ac ymddiriedolaethau a chyfraith eiddo.  Byddwch yn ymgymryd â modylau megis trosedd a bod yn agored i niwed yn ogystal â rhyw, hil, crefydd a throsedd ac yn dysgu sut byddech yn cymhwyso eich gwybodaeth i broblemau’r byd go iawn. Mae’r flwyddyn hon yn eich paratoi am rolau gyrfa amrywiol yn y gyfraith a throseddeg. 

Gorfodol 

Cyfraith Tir

(20 Credydau)

Rhywedd, Hil, Crefydd a Throsedd

(20 credydau)

Trosedd a Bregusrwydd

(20 credydau)

Ecwiti ac Ymddiriedolaethau

(20 credydau)

Traethawd hir ar gyfer y Gyfraith a Throseddeg

(40 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o Bwyntiau Tariff UCAS     

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth Ã¢ thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu  er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. 

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.

    TGAU 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.

    Gofynion Iaith Saesneg 

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth Ã¢ sgôr o 6.5 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 6.0 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill. 

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.

    Gofynion fisa ac ariannu

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. 

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.   

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig ac arholiadau. Mae pob modwl yn werth 20 credyd a fyddai’n cyfateb i ddau asesiad fesul modwl gyda’r hyn sydd gyfwerth ag aseiniad 2,000 o eiriau neu arholiad fesul 10 credyd.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg. 

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol. 

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

  • Nid oes gan y cwrs hwn unrhyw gostau ychwanegol.

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.

    I’r myfyrwyr hynny sy’n dymuno dilyn gyrfa gyda’r Heddlu, mae’r cwrs yn gweithio’n agos gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys ac wedi datblygu rhaglen waith gwirfoddol i’r myfyrwyr gael profiad gwerthfawr a chipolwg ar y proffesiwn.

    Mae’r cwrs yn cynnwys yr opsiwn o Blismona Gweithredol sy’n ymgorffori’r Dystysgrif Gwybodaeth o Blismona (CKP).

    Erbyn hyn, mae cael CKP yn ofyniad hanfodol gan sawl Heddlu cyn ymgeisio.

    Bydd hyn yn rhoi’r myfyrwyr mewn sefyllfa fwy manteisiol i gael cyflogaeth yn eu dewis broffesiwn.

    Mae’r cwrs yn rhoi cyfle da i fyfyrwyr a fyddai â diddordeb yn y llwybr Carlam i’r Heddlu.

    Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, y mae gan bob un ohonynt adrannau cyfreithiol, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyhoeddus a chyfreithiol yn cael ei ystyried yn fantais ar gyfer swydd o’r fath.

    Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfreithiol pellach.