ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (Llawn amser) (LLB)

Abertawe
3 Blynedd Llawn amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd Y Gyfraith ac Arfer Cyfreithiol LLB yn cynnig dealltwriaeth fanwl o System Gyfreithiol Lloegr a Sylfeini Gwybodaeth Gyfreithiol, gan ddarparu sylfaen gadarn ar gyfer gyrfa mewn arfer cyfreithiol.  Byddwch yn astudio cyfraith gyhoeddus a phreifat o fewn cyd-destunau amrywiol, gan gwmpasu meysydd allweddol megis Egwyddorion Rheoleiddio SRA a gofynion moesegol, ecwiti ac ymddiriedolaethau, cyfraith eiddo, trawsgludo, cyfraith busnes, ac arfer profiant. 

Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).  Byddwch yn datblygu sgiliau i ddod o hyd i ymchwil yn y gyfraith ac ymarfer cyfreithiol, gwerthuso a rhoi sylwadau ar yr ymchwil, dysgu meddwl yn feirniadol a dadansoddi cysyniadau cymhleth.  Mae ein rhaglen yn cynnwys modiwlau craidd a meysydd arbenigol o’r gyfraith fel cyfraith droseddol, cyfraith teulu, cyfraith camwedd a chyfraith contract, gan sicrhau eich bod wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd cyfreithiol.

Mae ein rhaglen yn pwysleisio mynediad at gyfiawnder ac addysg gyfreithiol, gan sicrhau eich bod yn deall effaith ehangach y gyfraith ar gymdeithas.  Ar ôl ei gwblhau, byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer gyrfa mewn ymarfer cyfreithiol, boed fel cyfreithiwr, bargyfreithiwr, neu mewn rolau cyfreithiol eraill o fewn y systemau cyfiawnder sifil neu droseddol, Mae ein gradd israddedig yn y gyfraith yn eich gosod ar y llwybr cywir.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
LPR1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Achrededig:
CILEX logo

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r cwrs yn paratoi myfyrwyr i sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)
02
Mae'r cwrs yn ymdrin â meysydd sy'n hollbwysig o ran Ymarfer Cyfreithiol yn yr 21ain Ganrif
03
Cyflwynir y cwrs gan staff profiadol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein hathroniaeth yw cyfuno gwybodaeth academaidd â phrofiad ymarferol, gan sicrhau eich bod yn ennill dealltwriaeth fanwl o egwyddorion cyfreithiol a’u cymwysiadau yn y byd go iawn.  Rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau dadansoddi, ymchwil a phroffesiynol er mwyn eich paratoi am yrfa lwyddiannus yn y gyfraith. 

Yn eich blwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i feysydd craidd y gyfraith, gan gynnwys cyfraith droseddol, ymgyfreitha troseddol, cyfraith gyhoeddus, a phroses gyfreithiol.  Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn ymchwil gyfreithiol, ysgrifennu a dadansoddi, gan osod y sylfeini ar gyfer eich dealltwriaeth o system gyfreithiol Lloegr a’i phrif egwyddorion.

Gorfodol 

Ymgyfreitha Troseddol

(20 credydau)

Cyfraith Camwedd

(20 credydau)

Cyfraith Trosedd 1

(20 credyd)

Cyfraith Trosedd 2

(20 credits)

Sylfaen Cyfreithiol a Sgiliau

(20 credyd)

Astudio a Sgiliau Proffesiynol Sgiliau Astudio

(20 credyd)

Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau eich gwybodaeth gydag astudiaethau uwch mewn cyfraith camwedd a chyfraith contract. Byddwch yn archwilio ymgyfreitha sifil ac yn ennill dealltwriaeth o gyfraith ac ymarfer busnes a theulu, tra’n mireinio eich sgiliau ymchwil cyfreithiol ymhellach.

Gorfodol 

Cyfraith ac Ymarfer Teulu

(20 credyd)

Cyfraith Contract

( credydau)

Ymgyfreitha Sifil

(20 credydau)

Ymchwil Gyfreithiol

(20 credydau)

Cyfraith ac Ymarfer Busnes

(20 credydau)

Cyfraith Gyhoeddus

(20 credydau)

Mae eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar feysydd arbenigol fel trawsgludo, ecwiti ac ymddiriedolaethau, arferion profiannol a chyfraith tir. Byddwch hefyd yn astudio egwyddorion ymarfer cyfreithiol proffesiynol a gynlluniwyd i’ch paratoi ar gyfer taith ymlaen fel gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.

Gorfodol 

Trawsgludo

(20 credydau)

Ecwiti ac Ymddiriedolaethau

(20 credydau)

Egwyddorion Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol

(40 credydau)

Cyfraith Tir

(20 Credydau)

Ewyllysiau a Phrofiant

(20 credyd)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Asesir y cwrs trwy gymysgedd o waith cwrs ysgrifenedig, efelychiadau, llyfrau gwaith, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae pob modwl yn werth 20 credyd a fyddai’n cyfateb i ddau asesiad fesul modwl gyda’r hyn sydd gyfwerth ag aseiniad 2,000–3,500 o eiriau neu arholiad fesul 10 credyd, yn dibynnu ar y lefel astudio.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio hon heb unrhyw gostau ychwanegol.

    Efallai y bydd myfyrwyr am brynu gwerslyfrau ar gyfer modylau, megis y Prosiect Ymchwil, ond nid yw hyn yn ofynnol ac ni fydd yn effeithio ar y radd derfynol.

    Efallai y bydd teithiau maes dewisol hefyd a allai olygu rhai costau.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.

  • Mae tîm y cwrs wedi datblygu cysylltiadau agos iawn â nifer o sefydliadau proffesiynol yn y sector cyhoeddus a meysydd y gwasanaethau cyfreithiol. Mae hyn wedi caniatáu ymgynghori agos ar ddatblygu cynnwys y cwrs ac argaeledd cyfleoedd profiad gwaith unigryw.

    Mae’r cwrs yn gweithio’n agos â sefydliadau eraill yn y sector Cyhoeddus, a byddai’r cyfuniad o ddealltwriaeth a gwybodaeth am y sector cyfreithiol a chyhoeddus yn cael ei ystyried yn fanteisiol i’r proffesiynau Cyfiawnder cyfreithiol ehangach.

    Mae’r tîm wedi datblygu perthynas agos â chwmnïau a sefydliadau cyfreithiol lleol ac yn datblygu cyfleoedd profiad gwaith a fyddai o fudd i’r myfyrwyr pe baent yn dewis parhau i astudiaethau cyfiawnder cyfreithiol pellach.