Hyfforddiant Personol a Thylino ar gyfer Chwaraeon (Llawn amser) (CertHE)
Mae’r rhaglen hwn wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol i chi ragori fel hyfforddwr personol a therapydd tylunio chwaraeon.
Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o iechyd a ffitrwydd ar y cwrs hwn. Byddwch yn datblygu profiad ymarferol drwy weithio gyda chleientiaid go iawn, gan eich caniatáu i ddefnyddio gwybodaeth ddamcaniaethol mewn senarios ymarferol. Yn ogystal, mae ‘r cwrs yn cynnig cyfleoedd i ennill dyfarniadau galwedigaethol mewn ffitrwydd, maeth a thylunio, gan wella’ch cymwysterau ymhellach.
Byddwch yn cael eich arwain gan ddarlithwyr profiadol iawn sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Byddant yn darparu cymorth tiwtorial personol, gan sicrhau eich bod yn derbyn yr arweiniad a’r adborth angenrheidiol i lwyddo.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, byddwch wedi cael eich paratoi’n dda i weithio yn y diwydiant iechyd a ffitrwydd. Yn ogystal, bydd gennych yr opsiwn i ddatblygu eich astudiaethau drwy symud ymlaen i astudio ar radd BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
Y cwrs TystAU hwn yw eich cam cyntaf tuag at yrfa werth chweil mewn hyfforddiant personol a thylunio chwaraeon. Ymunwch â ni i ddechrau eich taith ym maes deinameg iechyd a ffitrwydd sy’n tyfu’n gyflym.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Therapydd Chwaraeon Graddedig yw un sy’n gymwys ac yn gallu ymdrin ag anafiadau llym ‘ar ochr y cae’, perfformio asesiad clinigol i ddatblygu diagnosis, a defnyddio amrywiaeth o ddulliau triniaeth ochr yn ochr â thechnegau adsefydlu penodol chwaraeon i helpu’r athletwr yn ôl i gymryd rhan yn llawn mewn chwaraeon.
Bydd myfyrwyr yn dysgu mewn ystafelloedd therapi chwaraeon pwrpasol.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd myfyrwyr yn dysgu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen wrth asesu anafiadau chwaraeon, ynghyd â thechnegau meinwe meddal gan gynnwys tylino ar gyfer chwaraeon a chymorth cyntaf ar ochr y cae. Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio fel ymarferwyr cymorth cyntaf ar ochr y cae a chael profiad clinigol yn ein clinig tylino ar gyfer chwaraeon. Ochr yn ochr â’r modylau penodol therapi chwaraeon hyn, bydd myfyrwyr hefyd yn astudio ffisioleg dynol cymhwysol a modylau hyfforddiant personol.
Yn yr ail flwyddyn, addysgir myfyrwyr i gwblhau archwiliad ac asesiad llawn o anaf chwaraewr a gwneud diagnosis, trin yr anaf gyda thechnegau therapi â llaw ac adsefydlu’r athletwr i allu cymryd rhan lawn mewn chwaraeon.
Ym mlwyddyn olaf y rhaglen, bydd myfyrwyr yn astudio rheolaeth trawma chwaraeon, electrotherapi ac yn ymgymryd â 200 awr o arfer clinigol. Caiff yr oriau clinigol hyn eu cefnogi gan ein Clinig Anafiadau Chwaraeon sy’n cynnig apwyntiadau Therapi Chwaraeon i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd, dan oruchwyliaeth y tîm therapi chwaraeon. Hefyd, anogir myfyrwyr i ymgysylltu â darparwyr lleoliad gwaith lleol a chenedlaethol i adeiladu portffolio helaeth o Brofiad Therapi Chwaraeon.
Yn ogystal, caiff prosiect ymchwil tebyg i draethawd hir mewn maes o ddiddordeb i’r unigolyn ei gwblhau yn y flwyddyn olaf hon.
Gorfodol
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
32 o Bwyntiau Tariff UCAS
- e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
TGAU
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.
Llwybrau mynediad amgen
- Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor.
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.5 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 6.0 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae’r radd yn alwedigaethol ac felly caiff modylau eu hasesu drwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Gall y rhain fod ar ffurf traethodau, adroddiadau, adolygiadau llenyddiaeth, archwiliadau clinigol eu natur a chyflwyniadau.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.
Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs
Efallai y bydd tâl cofrestru’n cael ei godi ar fyfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymwysterau galwedigaethol ychwanegol gan y corff dyfarnu.
£30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r radd yn cael teitl Therapydd Chwaraeon Graddedig a byddant yn gymwys i gael aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon. Yn ogystal, byddant yn gallu gwneud cais am aelodaeth o’r Gofrestr gweithwyr proffesiynol Ymarfer Corff. Fel y cyfryw mae myfyrwyr yn orau gweddu mynd yn Therapyddion Chwaraeon neu’n ymgynghorwyr iechyd a ffitrwydd. Gallent hefyd fynd ymlaen i’r rhaglenni Meistr ôl-raddedig.