ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Maeth, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd (Rhan amser) (CertHE)

Caerfyrddin
2 Flynedd Rhan amser
32 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen radd hon wedi’i lunio ar gyfer unigolion sydd â diddordeb brwd mewn maeth ac iechyd.

Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o Maeth, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd yw un o brif ffocysau ein rhaglen. Fodd bynnag, byddwch hefyd yn datblygu set sgiliau eang, gwerthfawr sy’n berthnasol a throsglwyddadwy i nifer o ddiwydiannau. Yn ogystal â’r sgiliau ymarferol sy’n ymwneud ag iechyd a maeth, byddwch yn datblygu sgiliau allweddol megis arweinyddiaeth, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl yn feirniadol.

Mae’r rhaglen hon yn ymrwymo i roi i chi’r paratoad gorau un ar gyfer byd gwaith. Mae perthnasedd galwedigaethol yn thema gref, ac fe’ch anogir i gael profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich uchelgeisiau gyrfaol ochr yn ochr â’ch astudiaethau academaidd.

Yn rhan o gynnig ehangach y campws, cewch gyfleoedd i gasglu dyfarniadau allanol, fel y cymwysterau hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol a chymorth cyntaf. Hefyd, bydd cyfleoedd i chi gael profiad ymarferol o weithgareddau asesu iechyd a dadansoddi dietegol, sy’n berthnasol i broblemau ac achosion yn y byd go iawn. Mae gan y rhaglen labordy maeth pwrpasol lle gallwch gyrchu adnoddau maetheg-benodol a defnyddio meddalwedd dadansoddi dietegol.

Bydd ystod y dulliau’n cynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, arholiadau (wedi’u gweld, heb eu gweld, gwaith cwrs), astudiaethau achos, asesiad cymheiriaid, adroddiadau profiad gwaith yn ogystal â gwaith seiliedig ar brosiect.

Gallwch astudio 40 credyd o’r cwrs yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
32 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae modylau ymarferol yn caniatáu i chi gael profiad o weithio yn y gymuned (e.e. hybu iechyd ar waith).
02
Mae myfyrwyr yn gymwys i gofrestru gyda’r Gymdeithas Maeth ar ôl graddio.
03
Cyfleoedd i gael dyfarniadau galwedigaethol ychwanegol (e.e. cymorth cyntaf, hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol).

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut mae maetheg ac ymarfer corff yn effeithio ar y corff yn ogystal â sut mae’n effeithio ar iechyd a llesiant unigolion. Yn ogystal, byddwch yn archwilio ffactorau seicolegol a chymdeithasol a all dylanwadau ar ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Ein nod yw cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn mewn iechyd, maetheg a ffordd o fyw. Rydym yn pwysleisio dysgu ymarferol, meddwl beirniadol, a datblygiad proffesiynol i sicrhau eich bod yn barod am eich gyrfa yn y dyfodol.  

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw.  Byddwch yn astudio bioleg ddynol sylfaenol, egwyddorion maetheg a rôl gweithgaredd corfforol mewn iechyd.  Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau allweddol mewn cyfathrebu, datrys problemau, a meddwl beirniadol drwy ystod o weithgareddau ac asesiadau ysgogol. 

Gorfodol 

Cyflwyniad i Glefyd Cronig

(10 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Ymarfer Corff

(10 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd

(10 credydau)

Cyflwyniad i faeth dynol

(10 credydau)

Sgiliau Academaidd (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(10 credydau)

Dewisol

Hyfforddiant Ymarfer Corff (Hyfforddwr Campfa)

(10 credydau)

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn ehangu eich dealltwriaeth o sut mae’r corff yn gweithio a phwysigrwydd maeth ac ymarfer corff ar gyfer iechyd. Byddwch yn mynd i’r afael â phynciau mwy datblygedig ac yn parhau i feithrin sgiliau fel meddwl beirniadol a datrys problemau. Bydd eleni hefyd yn eich helpu i archwilio meysydd newydd a datblygu sylfaen gryfach ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol. 

Gorfodol 

Gwyddor Maetheg

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ffisioleg Dynol

(20 credydau)

Maeth Dynol a Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Maethegwyr

(10 credydau)

Dewisol

Cinesioleg

(10 credydau)

Cyflwyniad i Addysgu, Dysgu a'r Cwricwlwm

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 32 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP IB: 24 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • The skills of being able to decipher health and nutrition related research and transfer this into ‘real world’ practical applications for individual and community health are developed and assessed over the three years of study. To achieve this, the strong academic focus of the degree is supported by practical modules in health promotion, dietary analysis and fitness and health assessments.

    Whilst on the course, students learn how to present a balanced evidenced argument through their formal written work, as well as via individual and group presentations. Within the final year, students will design and conduct their own research project or literature review in a specialist area of their choice.

    Specific types of assessments include; essays, laboratory reports, presentations (group and individual), practical tasks, examinations (seen and unseen papers).

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

    • £35 – gweithgaredd dros nos ymgynefino ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
    • Dillad chwaraeon (£30+) yn amodol ar y cwrs.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae rhaglenni cyfnewid i’r UD ar gael yn yr ail flwyddyn.

  • Bellach mae Graddedigion y BSc. Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yn dilyn ystod o lwybrau gyrfaol. Ymhlith yr enghreifftiau o weithleoedd presennol y graddedigion hyn, mae:

    • Swyddog Ymgysylltu 50+
    • Swyddog Llesiant Cymunedol
    • Cynorthwyydd Dieteteg (GIG)
    • Swyddog Iechyd a Lles (dros 50)
    • Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iach (meddygfa)
    • Prif Swyddog Iechyd
    • Rheoli cyfleustra ymarfer corff
    • Astudiaethau ôl-radd (e.e. MSc mewn Maetheg)
    • Athro ysgol uwchradd (technoleg bwyd) (ar ôl astudio TAR)

    Mae myfyrwyr eraill wedi cwblhau, neu’n wrthi’n gwneud astudiaethau ôl-raddedig ar ffurf graddau MSc mewn pynciau cysylltiedig â maeth, iechyd ac ymarfer corff.