Rheolaeth Chwaraeon (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)
Mae ein HND mewn Rheoli Chwaraeon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi mewn chwaraeon lleol, rhanbarthol a rhyngwladol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sgiliau gwerthfawr i chi mewn hyfforddi, cyfarwyddo, mentora, arwain a rheoli. Gyda’r sgiliau hyn, byddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon.
Gall mwy o weithgarwch corfforol wella iechyd y cyhoedd, tra bod y cynnydd mewn athletau hamdden a digwyddiadau chwaraeon mawr yn cynnig buddion economaidd. Mae’r agwedd gadarnhaol hon yn golygu y bydd gan ein graddedigion ragolygon swyddi cryf. Mae cyfleoedd yn amrywio o hyfforddi a rhaglenni iechyd i arwain prosiectau a rheoli timoedd.
Byddwch yn tyfu fel dysgwr annibynnol ar y rhaglen Rheoli Chwaraeon. Byddwch yn dysgu i gasglu gwybodaeth, dadansoddi cynnwys a gwneud argymhellion i amrywiaeth o randdeiliaid. Mae’r rhain yn sgiliau hanfodol ar gyfer gweithio yn y sector chwaraeon, a byddwch yn eu datblygu drwy gydol eich astudiaethau.
Mae ein cwrs yn cynnig ystod o brofiadau i’ch helpu i ddysgu sut i gaffael, dehongli, cyflwyno a myfyrio ar eich gwaith. Erbyn diwedd eich astudiaethau, byddwch wedi’ch paratoi’n dda i wneud effaith gadarnhaol yn y diwydiant chwaraeon.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ffocws cyffredinol y llwybr hwn yw darparu rhaglen astudio hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu gwybodaeth helaeth am faterion a chysyniadau rheolaeth chwaraeon. Gwneir hyn yng nghyd-destun yr amgylchedd diwydiant chwaraeon ehangach ac i gynhyrchu graddedigion a chanddynt y sgiliau a’r galluoedd perthnasol i’w galluogi i gyfrannu’n effeithiol yn sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol y diwydiant chwaraeon, iechyd a ffitrwydd.
Bydd y rhaglen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd ym maes rheolaeth chwaraeon a hamdden yn y dyfodol. Datblygir sgiliau a gwybodaeth gyrfa gynnar drwy astudio caffael sgiliau, prosesau hyfforddi a chyfarwyddo wrth gyflwyno damcaniaethau a materion allweddol sy’n effeithio ar y diwydiannau chwaraeon a hamdden. Bydd y rhaglen yn datblygu fesul cam gan adeiladu ar fodylau sylfaen. Bydd myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am reolaeth trwy fodylau cymhwysol a seiliedig ar waith maes sy’n gysylltiedig â rheolaeth o safbwynt chwaraeon.
In Year 1, you will build a solid foundation in scientific aspects of sport, exercise and physical activity, and health improvement. The curriculum includes practical and theory application, ensuring a comprehensive understanding of the core principles of sports management.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Year 2 focuses on developing management skills, understanding the business environment, and exploring sports marketing and strategic planning. You will also engage in the application of advanced coaching and mentoring process, applying your knowledge to real-world scenarios and gaining valuable experience.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
Tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
32 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: E, BTEC: PPP, IB: 24
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Nod y strategaeth asesu fydd cynorthwyo â datblygiad cytbwys cymwyseddau a gwybodaeth allweddol y diwydiant. Bydd yr asesiadau hefyd yn ceisio cynnal datblygiad mewn rheoli TGCh, cyfathrebu, rhifedd, datrys problemau, rhyngweithio mewn timau, arfarnu beirniadol, hunanreolaeth ac arweinyddiaeth. Bydd y strategaethau’n cynnwys cydbwysedd o aseiniadau, astudiaethau gwaith maes, asesiadau ymarferol a, lle bo’n briodol, arholiadau.
-
£150 ar gyfer cit i fyfyrwyr Rheolaeth Chwaraeon a thaith addysg..
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.
-
Mae gan y rhaglen gyfradd gyflogadwyedd uchel ar gyfer graddedigion sydd mewn gwaith o fewn chwe mis i gwblhau’r radd, gan gynnwys ym meysydd:
- Datblygu Chwaraeon Cymunedol
- Sefydliadau Chwaraeon Cenedlaethol
- Rheolaeth Chwaraeon / Cyfleusterau Hamdden
- Atyniadau Hamdden
- Timau Chwaraeon Proffesiynol
- Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol
- Swyddogion Ysgolion a Chlybiau
- Rheolaeth Iechyd a Ffitrwydd
- Y Cyfryngau Chwaraeon
- Diwydiannau cysylltiedig eraill (gwasanaethau cyhoeddus)
Mae nifer sylweddol o raddedigion hefyd yn mynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.