ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Llawn amser) (BSc Anrh)

Caerfyrddin
3 Blynedd Llawn amser
112 o Bwyntiau UCAS

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gynnig gradd Therapi Chwaraeon achrededig gyntaf Cymru gyda’i harlwy dwyieithog unigryw, gan ei gwneud yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg a Saesneg.  Bydd cwblhau’r rhaglen hon nid yn unig yn eich galluogi i ennill gradd ond hefyd yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer aelodaeth broffesiynol o’r gymdeithas. Mae’r aelodaeth hon yn cynnwys buddion hanfodol megis indemniad meddygol, yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a’r teitl clodfawr Therapydd Chwaraeon Graddedig. 

Fel Therapydd Chwaraeon Graddedig, byddwch yn arbenigo mewn delio ag anafiadau cyhyrsgerbydol yn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff.  Mae’r maes hwn yn cwmpasu meysydd amrywiol, gan gynnwys chwaraeon proffesiynol, chwaraeon lled-broffesiynol a chwaraeon amatur, yn ogystal ag ymarfer clinigol preifat. Mae rhai graddedigion hyd yn oed yn dod o hyd i gyfleoedd gwaith yn y GIG neu’r fyddin. 

Drwy gofrestru ar y rhaglen hon, byddwch yn dod yn therapydd chwaraeon ac ymarfer corff cymwys, gyda’r gallu i asesu, gwneud diagnosis, trin, adsefydlu ac atal anafiadau a salwch mewn cyd-destunau chwaraeon ac ymarfer corff.   Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i feithrin ymarferwyr ymreolaethol clinigol sy’n glynu at ofynion meddygol-gyfreithiol y proffesiwn. 

Mae’r cwricwlwm yn cynnwys ystod o fodylau ac asesiadau sydd wedi anelu at sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cymhwysiad i gwrdd â safonau proffesiynol.  Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu sgiliau damcaniaethol ac ymarferol mewn therapi chwaraeon ac ymarfer corff, gan gynnwys anatomi dynol, biomecaneg, asesu anafiadau a thechnegau adsefydlu.  Rhoddir pwyslais ar ddysgu ymarferol a phrofiad ymarferol, gan ganiatáu i chi gymhwyso’ch sgiliau mewn senarios byd go iawn gydag athletwyr ac unigolion o gefndiroedd amrywiol. 

Mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau sy’n mynd y tu hwnt i alluoedd technegol.  Byddwch yn ehangu’ch datblygiad proffesiynol, gan ddod yn ddatryswr problemau ac yn  benderfynwr sy’n gweithredu ar sail tystiolaeth ac yn gallu addasu i arferion cyfoes.  Mae’r dull hwn yn sicrhau eich bod wedi cael eich paratoi’n dda i gwrdd â heriau gyrfa mewn therapi chwaraeon ac ymarfer corff. 

Yn gyffredinol, mae’r cwrs achrededig hwn wedi’i gynllunio i’ch gwneud yn therapydd chwaraeon cyflawn cymwys a hyderus.   P’un a ydych yn anelu at weithio gyda phobl elît yn y byd chwaraeon, cymryd rhan mewn rolau yn y gymuned, neu ddilyn cyfleoedd proffesiynol pellach, mae’r radd hon yn darparu’r sylfaen sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Ym Mhrifysgol Cymry Y Drindod Dewi Sant, mae ein hathroniaeth yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol wedi’i gyfuno â sylfeini damcaniaethol cryf.  Rydym yn ymroddedig i ddatblygu nid yn unig eich sgiliau technegol, ond hefyd eich gallu i feddwl yn feirniadol a gweithredu’n annibynnol fel Therapydd Chwaraeon Graddedig y dyfodol. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
SET1
Hyd y cwrs:
3 Blynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Achrededig:
The Society of Sports Therapists logo

Pam dewis y cwrs hwn

01
Gradd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff hynaf Cymru a achredir gan y Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon.
02
Ar ôl graddio, bydd gan fyfyrwyr yr wybodaeth, sgiliau a hyder i weithio fel rhan o dîm neu’n annibynnol fel Therapydd Chwaraeon graddedig.
03
Yn ogystal â’r prif sgiliau sydd eu hangen ar therapydd chwaraeon bydd myfyrwyr hefyd yn cael y sgiliau sydd eu hangen i gynnal asesiadau ffitrwydd ac iechyd ac yn cael y cyfle i ymgymhwyso fel hyfforddwyr campfa a hyfforddwyr personol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae Therapydd Chwaraeon Graddedig yn rhywun sy’n gymwys ac yn gallu delio ag anafiadau acíwt ar ochr y cae, gan gynnal asesiad clinigol i ddatblygu diagnosis. Mae’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau trin, ochr yn ochr â thechnegau adsefydlu sy’n benodol i chwaraeon i gael yr athletwr yn ôl i gymryd rhan lawn mewn chwaraeon.

Blwyddyn 1

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o anatomi dynol, biomecaneg a’r system cyhyrsgerbydol.  Byddwch yn dysgu sgiliau hanfodol ar gyfer asesu anafiadau, technegau adsefydlu, a therapi chwaraeon ac ymarfer corff, gan gyfuno theori gyda sesiynau ymarferol i adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol.

Blwyddyn 2

Bydd eich ail flwyddyn yn dyfnhau eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda modylau uwch mewn rheoli anafiadau ac ymarfer therapi chwaraeon.  Byddwch yn cymryd rhan mewn dysgu ymarferol, gan gymhwyso eich gwybodaeth mewn senarios byd go iawn ac yn dechrau arbenigo mewn meysydd megis chwaraeon elît ac ymarfer yn y gymuned. 

Blwyddyn 3

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn mireinio eich arbenigedd mewn asesiadau clinigol, strategaethau trin a phrotocolau adsefydlu. Yn ogystal, bydd angen i chi wneud 200 awr o ymarfer clinigol gyda chefnogaeth ein Clinig Anafiadau Chwaraeon ar y safle sy’n cynnig apwyntiadau Therapi Chwaraeon i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd, gan ennill profiad ymarferol ac arddangos eich gallu i weithio’n annibynnol. 

Gorfodol 

Cinesioleg

(10 credydau)

Cyflwyniad i Sgiliau Meinwe Meddal

(20 credydau)

Anafiadau Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Cyflwyniad i Glefyd Cronig

(10 credydau)

Cyflwyniad i Ffisioleg Dynol

(20 credydau)

Hyfforddiant Ymarfer Corff (Hyfforddwr Campfa)

(10 credydau)

Hyfforddiant Ymarfer Corff (Hyfforddwr Personol)

(10 credydau)

Cyflwyniad i Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(10 credydau)

Gorfodol 

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Adsefydlu Cynnar i Ganolradd

(20 credydau)

Ymchwil mewn Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Biomecaneg Perfformiad ac Anafiadau

(20 credydau)

Asesu a Mobileiddio Ymylol

(20 credydau)

Asesiad a Symudiadau'r Asgwrn Cefn

(20 credydau)

Gorfodol 

Adsefydlu Uwch ac Atal Anafiadau

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(40 credydau)

Ymarfer a maeth ar gyfer poblogaethau penodol

(20 credydau)

Sports Trauma Management

(20 credydau)

Lleoliad Gwaith ar gyfer Therapyddion Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(Pas / Peidio â Phasio)

Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Therapyddion Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Disgwylir i fyfyrwyr gyflawni 112 o bwyntiau UCAS gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau ac addysg gorfforol. Rhaid i fyfyrwyr hefyd gael o leiaf Gradd C mewn TGAU Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth.

    Mae unrhyw le a gynigir ar y rhaglen BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn amodol ar ddatgeliad DBS. 

    Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â chymwysterau.

    Os ydych yn ystyried gwneud cais i’r cwrs BSc (Anrh) Therapi Chwaraeon yn Y Drindod Dewi Sant, ond mae gennych anabledd ac rydych yn poeni am sut y gallai hyn effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarferol a chwblhau asesiadau’n llwyddiannus, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen.

    112 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: BBC, BTEC: DMM, IB: 32 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;

     Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Mae’r radd yn alwedigaethol ac felly caiff modylau eu hasesu drwy asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Gall y rhain fod ar ffurf traethodau, adroddiadau, adolygiadau llenyddiaeth, archwiliadau clinigol eu natur a chyflwyniadau.

  • Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.

    Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs

    Efallai y bydd tâl cofrestru’n cael ei godi ar fyfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymwysterau galwedigaethol ychwanegol gan y corff dyfarnu.

    £30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1 

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.

  • Bydd myfyrwyr sy’n graddio o’r radd yn cael teitl Therapydd Chwaraeon Graddedig a byddant yn gymwys i gael aelodaeth lawn o’r Gymdeithas Therapyddion Chwaraeon. Yn ogystal, byddant yn gallu gwneud cais am aelodaeth o’r Gofrestr gweithwyr proffesiynol Ymarfer Corff. Fel y cyfryw mae myfyrwyr yn orau gweddu mynd yn Therapyddion Chwaraeon neu’n ymgynghorwyr iechyd a ffitrwydd. Gallent hefyd fynd ymlaen i’r rhaglenni Meistr Ã´l-raddedig.