ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Maeth, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd (Rhan amser) (BSc Anrh)

Caerfyrddin
6 Blynedd Rhan amser
96 o Bwyntiau UCAS

Mae ein gradd BSc mewn Maeth, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb byw mewn maetheg ac iechyd.   Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi dealltwriaeth ddofn o Iechyd, Maetheg a Ffordd o Fyw i chi gan eich arfogi â sgiliau a gwybodaeth ymarferol.  Yn ogystal, byddwch yn datblygu sgiliau pwysig a throsglwyddadwy megis; arwain, cyfathrebu, datrys problemau a meddwl beirniadol, sy’n werthfawr iawn mewn llawer o ddiwydiannau. 

Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan y Gymdeithas Faetheg, gan sicrhau safonau uwch a chydnabyddiaeth broffesiynol.  Mae perthnasedd cyflogadwyedd yn ffocws allweddol, a chewch eich annog i ennill profiad a chymwysterau ychwanegol i gefnogi eich dyheadau gyrfa ochr yn ochr â’ch astudiaethau academaidd. 

Fel rhan o’r rhaglen byddwch yn cael cyfleoedd i ennill gwobrau ychwanegol, megis hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol yn ogystal â chymwysterau cymorth cyntaf. Bydd y cymwysterau ychwanegol hyn yn ehangu eich cyflogadwyedd a’ch sgiliau ymarferol. Yn ogystal, byddwch yn cael profiad ymarferol mewn gweithgareddau asesu iechyd a dadansoddi dietegol, gan fynd i’r afael â phroblemau ac achosion y byd go iawn. 

Mae gan ein labordy maetheg adnoddau maeth-benodol a meddalwedd dadansoddi dietegol, gan ddarparu amgylchedd proffesiynol ar gyfer eich astudiaethau.  Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod o ddulliau asesu, gan gynnwys cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig, arholiadau, astudiaethau achos, asesu cyfoedion, adroddiadau profiad gwaith, a gwaith yn seiliedig ar brosiect.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, byddwch yn gymwys i gael statws Maethegydd Cyswllt Cofrestredig sy’n eich galluogi i ddefnyddio’r teitl ‘A. Nutr.’ Bydd y gydnabyddiaeth broffesiynol hon yn eich gosod ar wahân yn y farchnad swyddi ac arddangos eich arbenigedd mewn maetheg. 

Byddwch yn archwilio agweddau amrywiol o iechyd a maetheg ar y cwrs hwn. Byddwch yn dysgu am glefydau cronig, cynllunio prydau bwyd, maetheg ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff a pholisïau cyhoeddus.  Yn ogystal, byddwch yn astudio seicoleg a pherfformiad dynol, gan ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r ffactorau sy’n ddylanwadau ar lefelau iechyd a ffitrwydd. 

Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i’ch paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn iechyd cymunedol, iechyd cyhoeddus, neu unrhyw rôl sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a hybu ffordd o fyw a maetheg.  Gyda rhaglen wedi’i hamserlennu sy’n cydbwyso gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, byddwch yn graddio yn barod i gael effaith gadarnhaol yn y maes iechyd a maetheg. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
96 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Achrededig:
Association for Nutrition Accredited Programme  Accreditation No.AX307

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae modylau ymarferol yn caniatáu i chi gael profiad o weithio yn y gymuned (e.e. hybu iechyd ar waith).
02
Mae myfyrwyr yn gymwys i gofrestru gyda’r Gymdeithas Maeth ar ôl graddio.
03
Cyfleoedd i gael dyfarniadau galwedigaethol ychwanegol (e.e. cymorth cyntaf, hyfforddwr campfa, hyfforddwr personol).

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut mae maetheg ac ymarfer corff yn effeithio ar y corff yn ogystal â sut mae’n effeithio ar iechyd a llesiant unigolion. Yn ogystal, byddwch yn archwilio ffactorau seicolegol a chymdeithasol a all dylanwadau ar ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Ein nod yw cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â sgiliau ymarferol, gan eich paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn mewn iechyd, maetheg a ffordd o fyw. Rydym yn pwysleisio dysgu ymarferol, meddwl beirniadol, a datblygiad proffesiynol i sicrhau eich bod yn barod am eich gyrfa yn y dyfodol.  

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth sylfaenol o faeth, gweithgaredd corfforol a seicoleg iechyd. Byddwch yn archwilio egwyddorion maeth dynol a’r ffactorau seicolegol sy’n dylanwadu ar ymddygiad ymarfer corff. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn meithrin sgiliau academaidd hanfodol, gan eich arfogi â’r gallu i ddadansoddi gwybodaeth yn feirniadol a chyfathrebu’n effeithiol ym maes chwaraeon, iechyd ac addysg awyr agored. Byddwch hefyd yn cael eich cyflwyno i glefydau cronig a’u heffaith ar iechyd, gan ddarparu sylfaen ar gyfer astudio yn y dyfodol. Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i wella eu harbenigedd ymarferol gyda’r modiwl Hyfforddiant Ymarfer Corff (Hyfforddwr Campfa). 

Gorfodol 

Cyflwyniad i Glefyd Cronig

(10 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Ymarfer Corff

(10 credydau)

Cyflwyniad i Seicoleg Iechyd

(10 credydau)

Cyflwyniad i faeth dynol

(10 credydau)

Sgiliau Academaidd (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(10 credydau)

Dewisol

Hyfforddiant Ymarfer Corff (Hyfforddwr Campfa)

(10 credydau)

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn dyfnhau eich gwybodaeth am ffisioleg ddynol a gwyddoniaeth maeth. Byddwch yn archwilio’r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer maethegwyr ac yn gwella eich dealltwriaeth o sylfeini biocemegol a ffisiolegol maeth. Mae gan fyfyrwyr yr hyblygrwydd i deilwra eu dysgu gyda modiwlau dewisol mewn cinesioleg neu addysgu, dysgu a datblygu’r cwricwlwm, gan ganiatáu ar gyfer persbectif ehangach ar symud ac addysg. 

Gorfodol 

Gwyddor Maetheg

(20 credydau)

Cyflwyniad i Ffisioleg Dynol

(20 credydau)

Maeth Dynol a Sgiliau Proffesiynol ar gyfer Maethegwyr

(10 credydau)

Dewisol

Cinesioleg

(10 credydau)

Cyflwyniad i Addysgu, Dysgu a'r Cwricwlwm

(20 credydau)

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn cymhwyso’ch gwybodaeth i heriau’r byd go iawn mewn iechyd a maeth. Byddwch yn dadansoddi cymeriant dietegol gan ddefnyddio meddalwedd proffesiynol ac yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng ymarfer corff, iechyd meddwl a newid ymddygiad. Bydd modiwlau mewn maeth iechyd cyhoeddus yn eich cyflwyno i strategaethau sydd â’r nod o wella arferion dietegol ar lefel poblogaeth. 

Gorfodol 

Dadansoddiad Dietegol

(20 credydau)

Maetheg Iechyd Cyhoeddus

(20 credydau)

Ymarfer corff ac iechyd meddwl

(10 credydau)

Seicoleg Ymddygiad Corfforol

(10 credydau)

Bydd y bedwaredd flwyddyn yn rhoi cyfleoedd i ehangu eich arbenigedd mewn ymchwil chwaraeon ac iechyd. Byddwch yn ymchwilio’n fanwl i iechyd a lles mewn addysg neu’n canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol yn y maes. Bydd modiwlau dewisol fel ffisioleg ymarfer corff a ffyrdd o fyw awyr agored yn eich galluogi i arallgyfeirio eich dysgu yn unol â’ch diddordebau. Bydd y modiwl ymchwil yn eich arfogi â’r sgiliau angenrheidiol i gynnal ymchwiliadau annibynnol i faterion cyfoes mewn chwaraeon, iechyd ac addysg gorfforol. 

Gorfodol 

Ymchwil mewn Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol

(20 credydau)

Dewisol

Darganfod Ffyrdd o Fyw Awyr Agored

(20 credydau)

Ffisioleg Ymarfer Corff

(20 credydau)

Iechyd a Lles mewn Addysg

(20 credydau)

Datblygiad Proffesiynol mewn Chwaraeon ac Iechyd

(20 credydau)

Ym mlwyddyn pump, byddwch yn astudio maeth cymhwysol a dadansoddi dietegol, ynghyd â dulliau ymarferol o ymdrin â pholisi cyhoeddus a hybu iechyd. Bydd maeth ar gyfer chwaraeon ac ymarfer corff yn ffocws allweddol, gan roi’r cyfle i chi archwilio sut mae maeth yn cefnogi perfformiad athletaidd a lles cyffredinol. Bydd y modiwlau hyn yn gwella eich gallu i gymhwyso strategaethau maeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn amgylcheddau clinigol a chwaraeon. 

Gorfodol 

Maetheg Gymhwysol a Dadansoddi Dietegol

(20 credydau)

Maetheg ar gyfer Chwaraeon ac Ymarfer Corff

(20 credydau)

Polisi Cyhoeddus a Hyrwyddo Iechyd yn ymarferol

(20 credydau)

Bydd eich blwyddyn olaf yn gweld penllanw eich dysgu drwy brosiect ymchwil annibynnol, lle byddwch yn mynd i’r afael â heriau iechyd a maeth cymhleth. Efallai y byddwch hefyd yn dewis cael profiad ymarferol gwerthfawr drwy leoliad gwaith. Bydd modiwlau dewisol ychwanegol, megis ffisioleg ymarfer corff uwch ac ymarfer corff a maeth ar gyfer poblogaethau penodol, yn eich galluogi i arbenigo ymhellach. I’r rhai sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant a phobl ifanc, bydd modiwl sy’n archwilio materion cyfoes yn y maes hwn yn rhoi mewnwelediadau beirniadol i gefnogi iechyd a lles yn y poblogaethau hyn. 

Gorfodol 

Prosiect Annibynnol (Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored)

(40 credydau)

Dewisol

Ffisioleg Ymarfer Corff Uwch

(20 credydau)

Materion cyfoes i blant a phobl ifanc

(20 credydau)

Lleoliad gwaith mewn chwaraeon ac iechyd

(20 credydau)

Ymarfer a maeth ar gyfer poblogaethau penodol

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 96 o bwyntiau tariff UCAS  

    • e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM IB: 30 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;

    • Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

    Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. 

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;

  • The skills of being able to decipher health and nutrition related research and transfer this into ‘real world’ practical applications for individual and community health are developed and assessed over the three years of study. To achieve this, the strong academic focus of the degree is supported by practical modules in health promotion, dietary analysis and fitness and health assessments.

    Whilst on the course, students learn how to present a balanced evidenced argument through their formal written work, as well as via individual and group presentations. Within the final year, students will design and conduct their own research project or literature review in a specialist area of their choice.

    Specific types of assessments include; essays, laboratory reports, presentations (group and individual), practical tasks, examinations (seen and unseen papers).

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

    • £35 – gweithgaredd dros nos ymgynefino ar gyfer holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
    • Dillad chwaraeon (£30+) yn amodol ar y cwrs.
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae rhaglenni cyfnewid i’r UD ar gael yn yr ail flwyddyn.

  • Bellach mae Graddedigion y BSc. Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw yn dilyn ystod o lwybrau gyrfaol. Ymhlith yr enghreifftiau o weithleoedd presennol y graddedigion hyn, mae:

    • Swyddog Ymgysylltu 50+
    • Swyddog Llesiant Cymunedol
    • Cynorthwyydd Dieteteg (GIG)
    • Swyddog Iechyd a Lles (dros 50)
    • Ymgynghorydd Ffordd o Fyw Iach (meddygfa)
    • Prif Swyddog Iechyd
    • Rheoli cyfleustra ymarfer corff
    • Astudiaethau ôl-radd (e.e. MSc mewn Maetheg)
    • Athro ysgol uwchradd (technoleg bwyd) (ar ôl astudio TAR)

    Mae myfyrwyr eraill wedi cwblhau, neu’n wrthi’n gwneud astudiaethau ôl-raddedig ar ffurf graddau MSc mewn pynciau cysylltiedig â maeth, iechyd ac ymarfer corff.