Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff (Llawn amser) (BSc Anrh)
Mae ein rhaglen Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ragori ym meysydd chwaraeon, iechyd, a ffitrwydd. Byddwch yn dysgu sut i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am bwysigrwydd cynnal ffordd iach o fyw. Mae’r pandemig COVID wedi ein dangos pa mor bwysig yw iechyd a lles personol, gan gynyddu’r angen am arbenigwyr mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau, dadansoddi ac ymchwil annibynnol hanfodol. Yn ogystal, byddwch yn dod yn ddysgwr gydol oes ac ymarferydd adfyfyriol, sy’n barod i addasu i heriau newydd yn y maes.
Ffocws allweddol y rhaglen yw perthnasedd galwedigaethol. Rydym yn eich annog i gael profiadau ac ennill cymwysterau ychwanegol i gefnogi eich nodau gyrfa wrth i chi astudio. Bydd gennych y cyfle i ennill cymwysterau galwedigaethol allanol megis hyfforddwr campfa, hyfforddiant personol a chymorth cyntaf. Mae llawer o fodylau’n cynnwys profiad ymarferol yn gweithio gyda chleientiaid mewn lleoliadau proffesiynol, gan eich gwneud yn fwy deniadol i gyflogwyr.
Yn ogystal, bydd gennych gyfleoedd i gael profiad mewn asesiadau iechyd a gweithgareddau rhagnodi ymarfer corff sy’n mynd i’r afael a phroblemau’r byd go iawn. Byddwch yn dysgu i reoli eich gweithgareddau dysgu eich hun a chydlynu tasgau’n effeithiol. Un o gryfderau’r rhaglen yw ei phwyslais ar weithio gyda chleientiaid i ddatblygu sgiliau galwedigaethol a sgiliau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth ddamcaniaethol.
Bydd y profiad ymarferol y byddwch yn ei gael drwy’r cwrs yn cynnwys hyfforddi ffitrwydd a hyfforddiant personol. Bydd hyn yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd a’ch paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y sector gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhagnodi ymarfer corff a dysgu sut i gymhwyso eich gwybodaeth i sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan eich helpu i sefyll mas yn y farchnad swyddi.
Yn gyffredinol, mae ein rhaglen yn anelu at ddatblygu graddedigion sy’n gallu gwneud cyfraniadau sylweddol i iechyd a lles. Gyda ffocws ar hyfforddiant ymarferol a galwedigaethol, rydym yn eich paratoi i gwrdd â’r galw cynyddol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych yr wybodaeth ddamcaniaethol, y sgiliau ymarferol a’r profiad proffesiynol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant cyffrous a gwerth chweil hwn.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein hathroniaeth yn pwysleisio cydbwysedd rhwng theori a chymhwysiad ymarferol, gan feithrin dysgu annibynnol ac arfer adfyfyriol. Ein nod yw datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad proffesiynol i sicrhau eich bod wedi cael eich paratoi’n dda ar gyfer gyrfa mewn gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff.
Blwyddyn 1
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Bydd modylau megis maetheg ar gyfer iechyd a hyfforddiant personol yn eich helpu i ddeall egwyddorion sylfaenol symudiad dynol a’r wyddoniaeth y tu ôl i berfformiad chwaraeon ac ymarfer corff.
Yn ogystal â dysgu am theori anatomeg, ffisioleg, seicoleg a maetheg, gall myfyrwyr gyflawni dyfarniadau Hyfforddwr Campfa lefel 2 a Hyfforddwr Personol lefel 3. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddechrau cael gwaith rhan-amser o fewn y sector chwaraeon a ffitrwydd ochr yn ochr â’u hastudiaethau, yn ogystal â lleoliadau gwaith ymarferol.
Blwyddyn 2
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn perfformiad chwaraeon ac ymarfer corff. Byddwch yn astudio pynciau craidd megis anatomeg, ffisioleg, biomecaneg a seicoleg. Byddwch hefyd yn ymchwilio’n ddyfnach i feysydd megis ffisioleg ymarfer corff, maetheg chwaraeon, a dulliau ymchwil. Yn ogstal, byddwch yn cael profiad ymarferol drwy weithgareddau labordy ac yn dechrau gweithio gyda chleientiaid, gan wella eich sgiliau galwedigaethol a’ch sgiliau proffesiynol. Datblygir sgiliau ymchwil ynghyd â’r gallu i greu proffil proffesiynol, ar-lein ac yn rhyngbersonol.
Blwyddyn 3
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn mireinio’ch arbenigedd ac arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb. Byddwch yn cymryd rhan mewn pynciau uwch megis rhagnodi ymarfer corff, asesiad iechyd a dadansoddiad perfformiad. Mae elfen arwyddocaol yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol, gan eich caniatáu i gymhwyso eich dysgu i broblemau’r byd go iawn a pharatoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Gorfodol
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Fel arfer, byddai disgwyl i fyfyrwyr gyflawni o leiaf 96 o bwyntiau UCAS gyda ffocws ar bynciau seiliedig ar y gwyddorau a/neu addysg gorfforol. Bydd myfyrwyr aeddfed nad oes ganddynt bwyntiau UCAS digonol yn cael eu hystyried ar eu rhinweddau eraill drwy broses gyfweld.
96 o Bwyntiau Tariff UCAS
e.e. Safon Uwch: CCC, BTEC: MMM, IB: 30
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried: 
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.  
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;
-
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hwn ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf y radd baglor tair blynedd, llawn amser. &²Ô²ú²õ±è;
 Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau TystAU, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o’r radd baglor. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, neu os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch chi gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Caiff y radd ei hasesu’n bennaf drwy gyfuniad o waith cwrs ac arholiad ymarferol. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu portffolio helaeth o arfer proffesiynol a thystiolaeth o astudiaethau achos.
-
Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu tracwisg a thopiau hyfforddi’r brifysgol y bydd eu hagen mewn sesiynau ymarferol ac wrth weithio gyda grwpiau allanol.
Bydd myfyrwyr sy’n dymuno cyflawni cymhwyster ychwanegol, galwedigaethol yn gorfod talu costau ychwanegol ar gyfer y cyrsiau hyn.
£30 ar gyfer gweithgaredd ymsefydlu dros nos i holl fyfyrwyr blwyddyn 1.
Dillad chwaraeon (£80-£120) yn amodol ar y cwrs.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae 90% o’n graddedigion yn y maes hwn mewn gwaith neu astudiaethau pellach llawn amser o fewn 6 mis i raddio. Yn gyffredinol, mae graddau gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff yn paratoi myfyrwyr ar gyfer graddau fel:
- Ymchwil academaidd
- Hyfforddi a chynghori athletwyr adloniadol (e.e. triathlon, rhedeg, seiclo)
- Ffisiolegydd ymarfer corff clinigol GIG
- Hyfforddwr personol
- Gwyddonydd chwaraeon (yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, cyrff llywodraethu, ayb)
- Hyfforddwr cryfder a chyflyru
- Addysgu
- Chwaraeon ieuenctid