ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Peirianneg Fodurol (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)

Abertawe
2 Flynedd Llawn amser
80 o Bwyntiau UCAS

Mae’r degawd nesaf yn addo newidiadau trawsnewidiol yn y diwydiant modurol, gan drawsnewid o’r injan hylosgi mewnol i drenau pŵer hybrid a thrydanol. Mae’r newid hwn yn creu galw cynyddol am sgiliau peirianneg newydd y mae ein HND Peirianneg Fodurol yn ceisio ymateb iddo.

Mae ein rhaglen yn cynnwys buddsoddiadau sylweddol yn ein cyfleusterau peirianneg, gan gynnig mynediad i’n myfyrwyr i weithdai modurol arbenigol, labordai diagnosteg peiriannau, dynamometrau siasi, cyfleusterau trenau pŵer hybrid/trydan, a chyfleusterau gweithgynhyrchu a pheiriannu helaeth. Mae’r cyfleusterau hyn o’r radd flaenaf ac yn cynnal profiad dysgu ymarferol, sy’n hanfodol ar gyfer deall a chymhwyso egwyddorion peirianneg fodurol.

Rydym yn cydweithredu’n agos â phartneriaid yn y diwydiant, gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn aros yn berthnasol a bod myfyrwyr yn ennill y wybodaeth a’r angerdd angenrheidiol ar gyfer y sectorau modurol perfformiad a phrif ffrwd fel ei gilydd. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar feysydd craidd fel dynameg cerbydau, crogiant, reidio, trin a Sŵn, Dirgryniad, ac Aflafarwch (NVH). Rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu trenau pŵer, yn enwedig wrth i’r diwydiant symud tuag at danwydd cynaliadwy ac uwch dechnolegau batri.

Yn ogystal, mae’r rhaglen yn pwysleisio agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg modurol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa. Drwy gymwysiadau ymarferol a gweithgareddau allgyrsiol, gall myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i heriau modurol o’r byd go iawn.

Er nad yw’r ffocws ar gerbydau awtonomaidd yn unig, mae’r cwrs yn cynnig golwg ar y tueddiadau modurol diweddaraf, gan gynnwys datblygu cerbydau glanach a mwy effeithlon. Bydd graddedigion y rhaglen hon yn barod iawn i gwrdd â gofynion diwydiant sy’n esblygu’n gyflym, ac yn berchen ar y sgiliau a’r wybodaeth i ddod yn beirianwyr modurol modern. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
043H
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser
Gofynion mynediad:
80 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Cyfradd cyflogaeth o 94% ar gyfer graddedigion, yn bennaf yn y sector modurol.
02
Dulliau addysgu o’r radd flaenaf ym meysydd hylosgiad a dylunio peiriannau.
03
Labordy cerbydau trydan pwrpasol newydd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu deinamig a deniadol. Mae ein cwrs HND Peirianneg Fodurol yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â defnydd ymarferol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant modurol sy’n esblygu.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn egwyddorion peirianneg hanfodol. Byddwch yn astudio dulliau dadansoddol, gwyddor peirianneg, a chyflwyniad i dechnoleg cerbydau. Bydd profiad ymarferol yn ein gweithdai modurol a labordai diagnosteg peiriannau’n ategu eich dysgu damcaniaethol.

Gorfodol 

Dulliau Dadansoddol

(20 credydau)

Dylunio a Deunyddiau Peirianneg

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg

(20 credydau)

Technoleg Cerbydau

(20 credydau)

Systemau Rheoli Trydanol

(20 credydau)

Gweithdy ac Arfer

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar bynciau uwch fel systemau gyriant amgen, systemau siasis modurol, a dadansoddi straen a pheirianneg drwy gymorth cyfrifiadur (CAE). Byddwch hefyd yn ymchwilio i thermodynameg a hylosgi, gan wella eich dealltwriaeth o dechnolegau cynaliadwy. Bydd sesiynau ymarferol gyda dynamomedrau siasi a chyfleusterau gweithgynhyrchu yn datblygu eich sgiliau peirianneg ymhellach.

Gorfodol 

Systemau Gyriant Amgen

(20 credydau)

Thermodynameg a Hylosgi

(20 credydau)

Rheoli Peirianneg

(20 credydau)

Systemau Siasis Modurol

(20 credydau)

Prosiect Dylunio Grŵp

(20 credydau)

Dadansoddi Straen a Pheirianneg gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAE)

(20 credydau)

Course Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 80 o Bwyntiau Tariff UCAS  

    e.e. Safon Uwch: BB, BTEC: DMM, IB: 28 

    Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;

    °Õ³Ò´¡±«â€¯ 

    Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;

    Llwybrau mynediad amgen  

    Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:  

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.   

    Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.

  • Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau papur.

  • Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r galw uchel cyfredol am raddedigion peirianneg modurol wedi’i adlewyrchu yn y canran uchel o’n myfyrwyr sy’n cael eu drafftio i swyddi llawn amser neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis o orffen eu hastudiaethau.

    Mae gweithgynhyrchwyr mawr y DU a chyflenwyr Haen 1 yn amsugno’r rhan fwyaf o’n graddedigion, sydd hefyd yn wir am gwmnïau ymchwil ac ymgynghori.

    Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i fael gyrfaoedd llwyddiannus iawn mewn cwmnïau fel Jaguar Land Rover, Ford, McLaren Automotive, Mahle Powertrain, JCB yn ogystal â chwmnïau chwaraeon moduro fel AMG Mercedes, Williams F1 a Force India.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau