ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Gwyddor Deunyddiau (BEng Anrh)

Abertawe
4 blynedd
112 Pwyntiau Tariff UCAS

Mae Peirianwyr Deunyddiau yn chwarae rhan hollbwysig wrth ddod o hyd i ddatrysiadau deunydd newydd sy’n siapio’r cynhyrchion rydyn ni’n eu defnyddio bob dydd. Mae’r cwrs hwn mewn Gwyddor a Pheirianneg Deunyddiau wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n chwilfrydig ynglÅ·n â sut mae deunyddiau’n gweithio ac sydd â diddordeb mewn darganfod a chreu deunyddiau uwch ar gyfer diwydiannau gan gynnwys awyrofod, modurol, biofeddygol, a datblygu cynaliadwy. Trwy ddeall strwythur, priodweddau a defnyddiau gwahanol ddeunyddiau, mae myfyrwyr yn dysgu cymhwyso eu gwybodaeth i heriau’r byd go iawn a gyrru arloesedd.

Trwy brofiad ymarferol a dysgu rhyngddisgyblaethol ac arbrofol, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn astudiaethau damcaniaethol ac ymarferol i ddysgu am ddeunyddiau a ddefnyddir ar draws diwydiannau effaith uchel. Bydd gennych fynediad i labordai ac offer o safon diwydiant, gan ennill sgiliau labordy hanfodol a phrofiad sy’n cyd-fynd â’r hyn a ddisgwylir mewn amgylcheddau peirianneg proffesiynol. Mae’r sgiliau a’r profiadau hyn yn hanfodol i lwyddo mewn diwydiannau metelegol ac maent yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr ledled y byd.

Mae’r rhaglen yn cynnig modylau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd ac yn adeiladu ar egwyddorion peirianneg craidd wrth ganolbwyntio ar nodau amgylcheddol a chynaliadwyedd. Mae’r nodau hyn yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ddiwydiannau geisio datblygu deunyddiau cynaliadwy ac ecogyfeillgar. Trwy ddysgu am y deunyddiau diweddaraf a ddefnyddir mewn technolegau gwyrdd sy’n dod i’r amlwg, mae myfyrwyr yn cael eu paratoi’n dda i gyfrannu at heriau byd-eang pwysig, megis lleihau effaith amgylcheddol.

Yn rhan o’ch astudiaeth, byddwch yn ymgysylltu â phynciau ymchwil uwch a blaengar ym maes gwyddor deunyddiau, dan arweiniad arbenigwyr yn y maes. Cefnogir yr ymchwil hwn gan fynediad at y dechnoleg a’r labordai diweddaraf, gan eich helpu i gael mewnwelediad beirniadol i bynciau lefel uchel fel bioddeunyddiau, gweithgynhyrchu uwch, a deunyddiau adnewyddadwy. Mae cysylltiadau’r rhaglen â lleoliadau diwydiannol hefyd yn eich galluogi i gael profiad gwaith wrth astudio, gan ei gwneud hi’n haws trosglwyddo i rolau gyda chwmnïau blaenllaw ar ôl i chi raddio.

Mae galw am raddedigion o’r radd Gwyddor Deunyddiau hon mewn ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Bydd llawer yn mynd ymlaen i weithio ym meysydd awyrofod, modurol, biofeddygol, a meysydd eraill sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau cynaliadwy ac arloesol. Gydag opsiynau achredu a statws siartredig, mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gref i’r rhai sy’n ceisio cydnabyddiaeth broffesiynol yn y maes.

P’un a ydych chi’n bwriadu ymchwilio i ddeunyddiau newydd neu gymhwyso’ch sgiliau’n uniongyrchol yn y diwydiant, mae gradd mewn Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn rhoi cyfle i chi ymuno â maes deinamig sy’n gwneud gwahaniaeth, gyda gyrfa sy’n helpu i lunio’r dyfodol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
4 blynedd
Gofynion mynediad:
112 Pwyntiau Tariff UCAS

Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru.  Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.

Pam dewis y cwrs hwn?

01
Mae prentisiaethau’n llwybr dysgu gydol oes heb unrhyw derfyn oedran, felly ar yr amod nad ydych mewn addysg amser llawn a thros 18 oed gallwch wneud cais.
02
Mae prentisiaeth gradd yn dechrau ar Lefel 4, fodd bynnag, bydd profiad/cymwysterau blaenorol perthnasol yn cael eu hystyried. Byddwch yn astudio’n rhan-amser o amgylch eich ymrwymiadau gwaith, a bydd y rhaglen yn para 2-4 blynedd.
03
Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth a bydd gennych hawl i gyflog, gwyliau statudol ac amser i ffwrdd â thâl i astudio.
04
Rhaid i brentisiaid fod mewn gwaith perthnasol, ond mae gradd-brentisiaeth yn addas ar gyfer pob sector o ddiwydiant a busnesau o bob maint.
05
Rhaid i brentisiaid fod yn gymwys i weithio yn y DU a derbyn isafswm cyflog o £16,770 y flwyddyn o leiaf.
06
Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn hunangyflogedig yng Nghymru.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae ein cwrs Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg yn cyfuno ymagwedd ymarferol ag astudiaeth ddamcaniaethol drwyadl, gan annog myfyrwyr i adeiladu sylfaen dechnegol gref ochr yn ochr â sgiliau meddwl beirniadol. Mae pob blwyddyn wedi’i chynllunio i ddyfnhau eich arbenigedd a’ch galluoedd ymarferol, gan eich paratoi i fodloni gofynion diwydiant sy’n esblygu.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth sylfaenol o’r gwyddorau ffisegol a mathemateg peirianneg yn sail i’ch astudiaethau. Mae modylau craidd mewn gwyddor a chymwysiadau peirianneg yn darparu sylfaen gref mewn egwyddorion hanfodol, tra bod modylau sgiliau astudio yn eich helpu i feithrin technegau dysgu effeithiol sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y dyfodol.

Gwyddoniaeth Ffisegol ar gyfer Deunyddiau

(20 credydau)

Mathemateg Peirianneg

(20 credydau)

Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio

(20 credydau)

Gwyddor Peirianneg 1

(20 credydau)

Gan adeiladu ar eich sylfaen, byddwch yn astudio deunyddiau a thechnegau prosesu, dylunio peirianneg, a thechnoleg gweithgynhyrchu. Bydd prosiect grŵp yn cyflwyno datrys problemau cydweithredol, tra bod modylau ar reoli, arloesi a chynaliadwyedd yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol a sbarduno arloesedd yn y diwydiant.

Deunyddiau a Chyflwyniad i Brosesu

(20 credydau)

Dylunio Peirianneg

(20 credydau)

Prosiect Grŵp

(20 credydau)

Gweithgynhyrchu, Dylunio a Thechnoleg

(20 credydau)

Rheoli, Arloesi a Chynaliadwyedd

(20 credydau)

Bydd eich trydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar berfformiad deunyddiau mewn gwasanaeth, gan roi sylw arbennig i feteleg anfferrus a rheolaeth ansawdd Six Sigma. Byddwch yn datblygu sgiliau mewn systemau gweithgynhyrchu ac efelychu, sy’n hanfodol ar gyfer creu prosesau cynhyrchu effeithlon, o ansawdd uchel a gwerthuso priodweddau materol.

Deunyddiau ar Waith

(20 credydau)

Gwregys Gwyrdd Six Sigma

(20 credydau)

Strwythur a Phriodweddau Deunyddiau

(20 credydau)

Systemau Gweithgynhyrchu ac Efelychu

(20 credydau)

Meteleg Aloiau Anfferrus

(20 credydau)

Prosiect Annibynnol

(40 credydau)

Meteleg Dur

(20 credydau)

Peirianneg Weldio

(20 credydau)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â phrosiect annibynnol sy’n eich galluogi i archwilio maes o ddiddordeb personol neu broffesiynol. Bydd modylau ym maes meteleg dur a pheirianneg weldio  yn darparu sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant, gan eich galluogi i weithio’n hyderus gyda deunyddiau cymhleth a’u cymwysiadau ym maes gweithgynhyrchu a dylunio.

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • 112 Pwyntiau Tariff UCAS

    • e.e. Safon Uwch: BBC, BTEC: DMM, IB: 32 

    Mae hefyd angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg.

    Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:

    • ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau Ã¢ chymorth. 

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn. 

    • Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd. 

    Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn. 

    Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn 

    Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn â€œCynigion Cyd-destunolâ€. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglÅ·n â gofynion mynediad.

  • I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr. 

    Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen . Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau.

  • Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

    Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod y cwrs i ddatrys problem go iawn ym maes peirianneg yn y gweithle.

  • Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau