Prentisiaeth mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig (BEng Anrh)
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnig cyfle unigryw i gyfuno astudiaeth academaidd â hyfforddiant ymarferol, sy’n ffocysu ar ddiwydiant ym maes deinamig peirianneg drydanol ac electronig. Wedi’i chynllunio mewn cydweithrediad â phartneriaid diwydiannol, mae’r rhaglen yn rhoi i chi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ffynnu mewn amgylcheddau peirianneg modern.
Mae’r cwrs yn darparu sylfaen gref mewn egwyddorion peirianneg drydanol ac electronig, gan integreiddio dysgu damcaniaethol â phrofiad ymarferol. Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn cymryd rhan mewn ymarferion ymarferol a gynlluniwyd i atgyfnerthu cysyniadau a gyflwynwyd mewn darlithoedd, gan sicrhau y gallwch gymhwyso’ch gwybodaeth y hyderus mewn lleoliadau byd go iawn.
Yn rhan o’r brentisiaeth, byddwch yn gweithio gyda meddalwedd ac offer o safon diwydiant, gan gynnwys MarMatlab, Xilinx, Mentor Graphics, a Microsoft Visual Development Studio. Defnyddir y rhaglenni arloesol hyn yn gyffredinol yn y sector, gan ganiatáu i chi ddatblygu arbenigedd technegol sy’n uniongyrchol berthnasol i gyflogwyr. Mae cyfleusterau’r Brifysgol yn cynnwys y cyfarpar diweddaraf yn ogystal â systemau prosesu signalau digidol a synthesis digidol, gydag offer yn cael ei gyfrannu gan gwmnïau mawr fel Xilinx a Texas Instruments.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd wedi eu talu gan Lywodraeth Cymru. Dim cost i’r Prentis nac i’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi i chi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ragori ym maes peirianneg drydanol ac electronig. Wedi’i ddatblygu mewn ymateb i alw cryf gan y diwydiant, mae’r cwrs yn sicrhau y byddwch yn ennill arbenigedd ymarferol a damcaniaethol sy’n bodloni anghenion cyflogwyr modern.
Trwy gyfuniad o brosiectau ymarferol ac astudiaeth academaidd, byddwch yn dysgu i gynllunio a gweithredu datrysiadau ar gyfer heriau’r byd go iawn. Gan weithio’n gydweithredol yn rhan o dîm, byddwch yn datblygu hyfedredd technegol ynghyd â sgiliau datrys problemau a chyfathrebu – rhinweddau allweddol a werthfawrogir yn y sector peirianneg.
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 Credydau)
(10 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 Credydau)
(20 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Wedi’ch cyflogi mewn sector sy’n berthnasol i’r rhaglen brentisiaeth.
3 blynedd o brofiad gwaith, cymhwyster L3 (Safon Uwch, Diploma BTech neu gyfwerth) neu Brentisiaeth L3 mewn sector perthnasol.
TGAU:
Mae hefyd angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg.
Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn.
- Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn.
Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunol”. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglŷn â gofynion mynediad.
-
I wneud cais, rhaid i chi fod yn gweithio mewn rôl berthnasol a bod gennych gefnogaeth eich cyflogwr.
Dechreuwch drwy gofrestru eich diddordeb trwy ein tudalen . Ar ôl adolygu eich gwybodaeth, bydd y Tîm Prentisiaethau yn cysylltu â chi i gadarnhau eich cymhwysedd a’ch tywys drwy’r broses ymgeisio. I gael rhagor o gymorth, cysylltwch â’r Tîm Prentisiaethau. -
Addysgir myfyrwyr drwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Asesir cynnydd drwy gyfuniad o waith ymarferol yn y labordy, aseiniadau, cyflwyniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.
Yn aml asesir modylau drwy aseiniad, neu aseiniad ac arholiad. Gallai marc terfynol rhai modylau gynnwys un neu fwy o ddarnau o waith cwrs a osodir a’u cwblhau yn ystod y modwl. Asesir gwaith prosiectau drwy adroddiad ysgrifenedig a chyflwyniad.
Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd y prosiect blwyddyn olaf. Mae hwn yn brosiect seiliedig ar waith a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a feithrinwyd drwy’r cwrs i ddatrys problem beirianneg go iawn yn y gweithle.
-
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &Բ;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &Բ;