ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Peirianneg Ddiwydiannol (Llawn amser) (MSc)

Abertawe
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r rhaglen MSc mewn Peirianneg Ddiwydiannol yn PCYDDS wedi’i chynllunio i’ch helpu i feithrin sgiliau hanfodol ar gyfer yr amgylchedd diwydiannol cymhleth sydd ohoni. P’un a oes gennych radd mewn Peirianneg Fecanyddol, Sifil, Dylunio neu Weithgynhyrchu, neu os ydych yn rheolwr profiadol, mae’r cwrs hwn yn darparu llwybr i chi ennill gwybodaeth uwch mewn Peirianneg Ddiwydiannol a datblygu arbenigedd mewn meysydd sydd â galw mawr amdanynt.

Gyda ffocws ar y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar beirianwyr diwydiannol, cewch eich cyflwyno i feysydd fel  egwyddorion Six Sigma darbodus, a Rheoli Cadwyni Cyflenwi, a Chaffael. 

Mae ymagwedd y rhaglen yn un ymarferol, sy’n cynnwys modylau sy’n cyflwyno cysyniadau allweddol fel Optimeiddio Prosesau a Pheirianneg Systemau. Yn ogystal, byddwch yn dysgu technegau i wneud prosesau gweithgynhyrchu yn fwy effeithlon a chynaliadwy, sy’n hanfodol yn niwydiannau cystadleuol yr oes sydd ohoni. Byddwch hefyd yn datblygu galluoedd Rheoli Prosiectau, gan ennill y sgiliau i oruchwylio a rheoli prosiectau cymhleth, o gynllunio i gwblhau.

Pan fyddwch yn graddio o’r MSc hwn, byddwch yn gadael gyda set sgiliau cyflawn sy’n bodloni disgwyliadau uchel arweinwyr y diwydiant. Mae ffocws y rhaglen ar sgiliau y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr yn sicrhau eich bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ystyrlon ar y maes.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â’r diwydiant.
02
Dewch i astudio yn ein Campws arloesol gwerth £350m ar Lannau Abertawe.
03
Cysylltiadau diwydiannol helaeth a phrosiectau diwydiannol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn PCYDDS, mae ein hathroniaeth dysgu ac addysgu yn canolbwyntio ar ymgysylltu ymarferol a chymhwyso sgiliau yn y byd go iawn. Rydym yn credu mewn rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol i fyfyrwyr, gan feithrin meddwl beirniadol ac arloesi. Mae’r rhaglen hon yn adlewyrchu’r galw cynyddol am arbenigwyr peirianneg ddiwydiannol ac yn archwilio meysydd pwnc allweddol sy’n hanfodol er mwyn llwyddo yn y maes.

Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol mewn Caffael a Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi, gan ennill dealltwriaeth o’r cymhlethdodau cysylltiedig a sut i wneud y gorau o strategaethau caffael.  Bydd y modwl Lean Six Sigma yn gwella eich sgiliau rheoli ansawdd a gwella prosesau.

Byddwch hefyd yn canolbwyntio ar Reoli Prosiectau, gan gaffael y gallu i oruchwylio prosiectau o’r dechrau i’r diwedd gan reoli adnoddau’n effeithiol. Yn yr elfen Dadansoddeg Busnes, byddwch yn dysgu i ddadansoddi data er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus. Bydd y modwl Roboteg ac Awtomeiddio mewn Gweithrediadau yn dangos sut mae technolegau awtomeiddio yn trawsnewid amgylcheddau gweithgynhyrchu a gwasanaethau.

Mae’r rhaglen yn croesawu Rheolaeth Gweithrediadau Cynaliadwy, gan eich addysgu i weithredu arferion sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Yn olaf, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil yn y modwl Dulliau Ymchwil, a fydd yn cefnogi eich Prosiect Meistr, gan ganiatáu i chi gymhwyso’ch gwybodaeth i her peirianneg ddiwydiannol y byd go iawn. Trwy’r ymagwedd gynhwysfawr hon, byddwch wedi eich paratoi’n dda i fodloni gofynion y diwydiant.

Rheoli Caffael a'r Gadwyn Gyflenwi

(20 credydau)

Prosiect Gradd Meistr

(60 credydau)

Rheoli Prosiect

(20 credydau)

Dadansoddeg Busnes

(10 credydau)

Six Sigma Darbodus

(20 credydau)

Roboteg ac Awtomatiaeth mewn Gweithredoedd

(20 credydau)

Rheolaeth Gweithredoedd Cynaliadwy

(20 credydau)

Dulliau Ymchwil

(10 Credyd)

Ymwrthodiad

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2  

    • neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Llwybrau mynediad amgen  

    • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn. 

    Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;

    Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

    I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;

    Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 

  • Caiff myfyrwyr eu hasesu ar y rhaglen gradd meistr drwy gymysgedd o asesiadau ysgrifenedig, arholiadau a chyflwyniadau. Gall asesiad nodweddiadol ofyn i chi ymchwilio i broblem ddiwydiannol ei natur a gwneud argymhellion ar welliannau drwy ddefnyddio offer a thechnegau rydych wedi’u dysgu mewn modwl penodol neu ar draws y rhaglen.

  • Mae’n bosibl cwblhau’r cwrs heb orfod talu unrhyw gostau ychwanegol, ond dylai myfyrwyr ddisgwyl gorfod talu am gostau a gyfyd drwy gyfarfodydd prosiect mewn cwmnïau ac ymweliadau myfyrwyr.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen hon yn rhoi i raddedigion ystod eang o sgiliau proffesiynol a medrau sy’n drosglwyddadwy o fewn y sector busnes ac o sector i sector. Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau llafar ac ysgrifenedig i alluogi unigolion i fagu hyder trwy’r raglen astudio.

    Ymhlith y cyfleoedd gyrfa nodweddiadol mae rheolwr shifft, goruchwylydd cynhyrchu, rheolwr peirianneg, rheolwr ansawdd, rheolwr cynllunio a rhestru, rheolwr/cyfarwyddwr gweithrediadau.

    Mae ein holl raddedigion sydd wedi astudio gradd meistr rhan amser debyg wedi cael dyrchafiad wrth astudio, neu ar ôl cwblhau eu hastudiaethau, ac maent wedi dweud bod hyn o ganlyniad i’w cymhwyster.

    Elwodd graddedigion iau o ragolygon cyflogaeth uwch a gwelsant eu bod yn gallu cael gwaith fel peiriannydd llinell, peiriannydd ansawdd ac arbenigwr y gadwyn gyflenwi.

    Mae nifer o gwmnïau bellach wedi cydnabod y cwrs hwn yn anhepgor er mwyn cael dyrchafiad neu feddu ar rôl benodol.

Mwy o gyrsiau Peirianneg Fodurol, Mecanyddol a Thrydanol

Chwiliwch am gyrsiau