
Peirianneg Fecanyddol (Rhan amser) (BEng Anrh)
Mae’r rhaglen ran-amser Peirianneg Fecanyddol (BEng Anrh) yn PCYDDS wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sydd eisiau archwilio ystod eang o sgiliau sy’n allweddol i ddeall, dylunio a gweithio gyda pheiriannau. Bydd y cwrs hwn yn addysgu egwyddorion hanfodol a sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i ddatrys heriau peirianneg, gan gwmpasu pynciau o ffiseg a mecaneg i wyddoniaeth faterol.
Mae peirianneg fecanyddol yn chwarae rhan hanfodol mewn llawer o ddiwydiannau. P’un a yw hynny ym maes gweithgynhyrchu, ynni, neu awyrofod, mae galw mawr am beirianwyr mecanyddol, ac mae’r rhaglen hon yn rhoi i chi’r arbenigedd y mae’r sectorau hyn yn ei werthfawrogi. Byddwch yn dysgu meddwl yn greadigol, gan gymhwyso egwyddorion peirianneg i ddylunio datrysiadau effeithiol a mynd i’r afael â materion technegol cymhleth.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau gan ddefnyddio cymysgedd o dechnegau dadansoddol, technegol a chyfrifiannol. Fe gewch brofiad ymarferol o dechnolegau gweithgynhyrchu diweddaraf, dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD), a chymhwyso mecaneg yn ymarferol. Mae’r meysydd allweddol y byddwch yn eu cwmpasu yn cynnwys mecaneg hylif, profion defnyddiau ac electroneg, pob un wedi’i gynllunio i roi sylfaen gadarn a phrofiad ymarferol i chi.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer gofynion amgylcheddol a chynaliadwy peirianneg fodern. Byddwch yn dysgu ystyried effaith amgylcheddol eich dyluniadau, gan helpu i greu datrysiadau peirianneg mwy cynaliadwy. Trwy brosiectau gwaith tîm ac aseiniadau byd go iawn, byddwch yn hogi eich sgiliau cyfathrebu, gan ddysgu cyflwyno syniadau’n effeithiol a rheoli cyfrifoldebau mewn lleoliad grŵp.
Mae amserlen astudio ran-amser yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau peirianneg wrth gydbwyso ymrwymiadau eraill, gyda phwyslais ar ddysgu cymhwysol sy’n gadael i chi ddod â mewnwelediadau gwerthfawr o’r ystafell ddosbarth i’r gweithle.
Mae cwblhau’r BEng (Anrh) mewn Peirianneg Fecanyddol achrededig hefyd yn gam tuag at ddod yn Beiriannydd Siartredig, gan fodloni rhan o’r gofynion academaidd ar gyfer UK-SPEC. Bydd dysgu pellach mewn fformat cydnabyddedig yn cwblhau eich llwybr tuag at statws Siartredig, gan agor drysau i ystod eang o gyfleoedd gyrfaol.
Manylion y cwrs
- Cyfunol (ar y campws)
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cysylltu theori ag arfer y byd go iawn yw ein hathroniaeth, gan eich helpu i feithrin gwybodaeth a sgiliau ymarferol ym maes peirianneg fecanyddol. Mae’r cwrs hwn yn datblygu eich creadigrwydd, sgiliau datrys problemau ac arloesedd trwy brosiectau ymarferol ac egwyddorion peirianneg hanfodol.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio cysyniadau craidd fel mathemateg, ffiseg ac egwyddorion trydanol, gan osod y sylfaen mewn gwyddor a chymwysiadau peirianneg. Bydd sgiliau gwaith labordy ac astudio yn cefnogi eich dealltwriaeth ac yn eich helpu i roi’r hyn rydych chi’n ei ddysgu ar waith.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn gweithio ar brosiectau tîm, gan archwilio dylunio, awtomeiddio a chynaliadwyedd peirianneg. Byddwch hefyd yn astudio defnyddiau a phrosesau, gan gyfuno gwybodaeth dechnegol â sgiliau rheoli i baratoi ar gyfer heriau yn y maes.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar ddadansoddi straen, thermohylifau, a defnyddiau uwch. Byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o weithgynhyrchu a thechnoleg, wrth ehangu eich sgiliau o ran cymwysiadau ymarferol sy’n hanfodol i’r diwydiant.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect annibynnol ac yn symud ymlaen ym maes dadansoddi strwythurol a hylifol. Byddwch yn dysgu dulliau cyfrifiadurol, gan feithrin arbenigedd yn y meysydd cymhleth hyn a’ch paratoi ar gyfer gyrfa beirianneg lwyddiannus.
Gorfodol
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
112 Pwyntiau Tariff UCAS
- e.e. Safon Uwch: BBC, BTEC: DMM, IB: 32
Mae hefyd angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg.
Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’r brentisiaeth, fe allech ystyried:
- ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hon wedi’i chynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi gan ei bod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudiaethau â chymorth.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch yn mynd ymlaen yn awtomatig i’r opsiwn gradd lawn amser lle bo ar gael yn y pwnc hwn.
- Tystysgrif mewn Addysg Uwch (TystAU). Cwrs un flwyddyn yw hon ac mae’n gyfwerth â blwyddyn gyntaf cwrs gradd baglor llawn amser, tair blynedd.
Wedi i chi gwblhau eich astudiaethau TystAU yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i’r ddwy flynedd sy’n weddill o opsiwn gradd baglor llawn amser yn y pwnc hwn.
Mae’r llwybrau hyn yn ddelfrydol os nad ydych yn gweithio yn y sector, rydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’r graddau sydd eu hangen i gael lle ar y brentisiaeth hon.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Fe allwn wneud cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn “Cynigion Cyd-destunolâ€. I gael cyngor a chymorth penodol gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau am ragor o wybodaeth ynglÅ·n â gofynion mynediad.
-
Mae gan fyfyrwyr ar y math hwn o raglen ddiddordeb naturiol yn eu harbenigedd, a nod y tîm addysgu yw manteisio ar y diddordeb hwnnw fel bod y myfyrwyr yn mwynhau dysgu ac yn gwerthfawrogi’r buddion y gall gradd mewn peirianneg eu hychwanegu er mwyn atgyfnerthu eu meysydd diddordeb.
Bydd yr asesiadau ar gyfer y rhaglen yn gymysgedd o waith cwrs ac arholiadau ffurfiol. Bydd modylau megis y prosiect grŵp a’r prosiect Mawr hefyd yn cynnwys cyflwyniadau lle cewch gyfle i arddangos eich gwaith.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Costau ychwanegol i’w talu gan y myfyrwyr
Fel sefydliad, rydym yn ceisio gwella profiadau myfyrwyr yn barhaus ac o ganlyniad, efallai y bydd angen i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol am weithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg. Lle bo modd, cedwir y costau hyn mor isel â phosibl, ac mae’r gweithgareddau ychwanegol yn ddewisol.
Costau teithiau maes a lleoliadau
Bydd teithiau maes ar gael i fyfyrwyr, sy’n ddewisol. Mae myfyrwyr sy’n dewis dilyn interniaethau/lleoliadau gwaith fel arfer yn cael eu hariannu gan y brifysgol (hyd at £1000) i dalu am gostau teithio a byw.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau<.
-
Mae graddedigion o raglenni a gynigir gan yr ysgol wedi dod o hyd i waith mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys y rolau canlynol: peiriannydd gweithgynhyrchu, peiriannydd dylunio, peiriannydd cynnal a chadw a pheiriannydd prosiect. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol yn eu gyrfaoedd, ac mae llawer ohonynt bellach mewn swyddi peirianneg neu reoli uwch yn eu sefydliadau. Mae’r rhain yn cynnwys nifer o uwch beirianwyr, arweinwyr adran a rheolwyr adrannol mewn cyfleusterau gweithgynhyrchu mawr fel Ford a Tata.