Gradd Meistr mewn Athroniaeth (Llawn amser) (MPhil)
Mae MPhil (Meistr Athroniaeth) yn radd ymchwil ôl-raddedig sydd wedi’i chynllunio ar gyfer y rhai sy’n barod i fynd â’u diddordebau academaidd i lefel uwch. Mae’n cynnig cyfle i ganolbwyntio ar brosiect ymchwil annibynnol estynedig, gyda chefnogaeth goruchwylwyr profiadol, mewn maes pwnc sy’n bwysig i chi. Yn wahanol i raddau ôl-raddedig a addysgir, mae’r MPhil yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar eich ymchwiliad eich hun, gan eich galluogi i archwilio’ch pwnc dewisol yn fanwl ac i wneud cyfraniad ystyrlon i’ch maes.
Mae’r radd hon yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau dilyn gyrfa ymchwil neu baratoi ar gyfer PhD. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil craidd - megis rheoli prosiectau, meddwl beirniadol, a chyfathrebu ysgrifenedig a llafar - ochr yn ochr â’r arbenigedd disgyblaeth-benodol sy’n dod o weithio’n agos gydag arbenigwyr academaidd. Mae’r MPhil yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol ac yn uchel ei barch gan gyflogwyr a sefydliadau ymchwil.
Yn ein prifysgol, byddwch yn ymuno â chymuned ymchwil fywiog ac yn gweithio gyda thîm goruchwylio a ddewiswyd am eu gwybodaeth am eich pwnc. Bydd eich gwaith yn arwain at gyflwyno traethawd hir a viva voce (arholiad llafar). Mae yna hefyd yr opsiwn i ymgymryd ag ymchwil seiliedig ar ymarfer, lle mae eich gwaith ysgrifenedig yn cael ei ategu gan allbwn creadigol neu ymarferol sylweddol.
Mae ein rhaglenni MPhil ar gael mewn ystod o feysydd pwnc sy’n cyd-fynd â’n cryfderau academaidd, gan gynnwys Celf a’r Cyfryngau, Busnes, Cyllid a Rheolaeth, a Chyfrifiadur. Yn dibynnu ar eich disgyblaeth, mae astudio ar gael naill ai’n bersonol neu ar-lein, gyda rhai yn cynnig llwybrau i weddu i fyfyrwyr amser llawn neu ran-amser.
Mae dewis dilyn MPhil yn gam arwyddocaol. Mae’n eich galluogi i ymgolli mewn pwnc rydych chi’n angerddol amdano, wrth ddatblygu sgiliau a phrofiad a all lunio eich dyfodol - boed yn y byd academaidd, diwydiant, neu’r proffesiynau creadigol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Ar-lein
- Llawn amser
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein MPhil yn cefnogi dysgu annibynnol, dan arweiniad ymchwil dan arweiniad goruchwyliaeth arbenigol. Byddwch yn datblygu ac yn cynnal prosiect sylweddol yn eich maes pwnc dewisol, gan ennill sgiliau uwch mewn dylunio ymchwil, dadansoddi beirniadol, ysgrifennu academaidd a rheoli prosiectau. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’ch tîm goruchwylio i gynhyrchu traethawd ysgrifenedig ac amddiffyn eich canfyddiadau mewn viva voce. Mae llwybrau sy’n seiliedig ar ymarfer hefyd ar gael, sy’n cyfuno gwaith creadigol neu broffesiynol gydag ymholiad myfyriol, sy’n cael ei yrru gan ymchwil.
Meysydd goruchwylio MPhil
- Celf a’r Cyfryngau - Yn bersonol yn adeilad ALEX ar ein Campws yn Abertawe (Llawn-amser)
- Celf a’r Cyfryngau - Ar-lein (Llawn-amser)
- Busnes, Cyllid a Rheolaeth - Yn bersonol yn ein Hysgol Fusnes Caerfyrddin (Llawn-amser)
- Busnes, Cyllid a Rheolaeth - Yn bersonol yn ein Hysgol Fusnes Caerfyrddin (Rhan-amser)
- Cyfrifiadura - Yn bersonol ar ein Campws SA1 ar y Glannau (Llawn-amser)
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:1
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen 
Gall myfyrwyr aeddfed wneud cais sy’n ystyried eu portffolio a/neu eu gyrfa academaidd/diwydiannol flaenorol.
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Caiff MPhil ei asesu drwy gyflwyno traethawd ymchwil ysgrifenedig ynghyd â chorff o waith ymarferol, os yw’n briodol, ac yna bydd dau arholwr, un o’r tu allan i’r Brifysgol, yn cynnal arholiad llafar, neu viva, er mwyn craffu ar y gwaith.
-
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae graddau ymchwil, fel MPhil, yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol ar gyfer amrywiaeth o swyddi academaidd yn y sector Addysg Uwch.
Mae llawer o fyfyrwyr ymchwil yn astudio gan eu bod yn mwynhau ymchwilio i bwnc ar y lefel hon, ond mae graddau ymchwil hefyd yn gyfle i ddatblygu gyrfa mewn llawer o broffesiynau, fel addysg, y cyfryngau a’r celfyddydau.