ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Darlunio - Deialogau Cyfoes (Llawn amser) (MA)

Abertawe
18 Mis Llawn amser

Mae’r cwrs MA Darlunio – Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe yn cynnig cyfle cyffrous i archwilio a datblygu eich sgiliau creadigol mewn maes sy’n datblygu’n gyflym. Mae darlunio’n newid yn gyson, yn gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl ac yn creu ffyrdd newydd i gyfathrebu’n weledol. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i adeiladu ar eich gwybodaeth bresennol a chymryd eich gwaith i gyfeiriadau newydd, dychmygus sy’n ymateb i’r farchnad ddeinamig sy’n esblygu’n barhaus ar gyfer deunydd gweledol darluniadol.

Trwy’r cwrs, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio dulliau traddodiadol a digidol i wella’ch gwaith. P’un ai drwy arddangosfeydd, cyhoeddi, neu ffurfiau rhyngddisgyblaethol arloesol, byddwch yn archwilio ffyrdd gwahanol o gyflwyno’ch syniadau a datblygu eich dull gweithredu unigol. Byddwch yn ymgysylltu â darlunio cyfoes, gan fireinio’ch diddordebau arbenigol a’ch arfer i gyd-fynd â thirwedd greadigol yr oes sydd ohoni.

Mae’r rhaglen MA Darlunio wedi’i chynllunio i’ch helpu i adfyfyrio ar eich gwaith, adeiladu eich arfer proffesiynol, a meddwl yn feirniadol am gyfeiriad eich gyrfa. P’un a ydych yn parhau Ã¢â€™ch astudiaethau ar Ã´l cwblhau eich astudiaethau israddedig neu’n dod o brofiad yn y diwydiant, bydd y cwrs yn eich helpu i nodi a chyflawni eich dyheadau gyrfaol mewn amgylchedd creadigol sy’n annog twf ac arbrofi. Byddwch yn elwa o wybodaeth tiwtoriaid ac ymarferwyr profiadol, yn ogystal â’ch cyfoedion, sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd creadigol.

Wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o feddwl gweledol ac yn cymryd rhan mewn adfyfyrio beirniadol, gan archwilio sut y gall eich gwaith gyfrannu at sgyrsiau ehangach. P’un a oes arnoch eisiau canolbwyntio ar dechnolegau newydd ym maes darlunio, datblygu eich llais awdurol, neu archwilio themâu fel cyfiawnder cymdeithasol, mae’r cwrs yn rhoi’r rhyddid i chi arbrofi a gwthio’ch ffiniau creadigol. Mae strwythur arbrofol y cwrs yn eich galluogi i roi cynnig ar syniadau a dulliau gweithredu newydd, gan sicrhau bod eich gwaith yn parhau i fod wedi’i wreiddio mewn dealltwriaeth gadarn o arferion cyfoes.

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer dyfodol yn y diwydiannau creadigol, gan eich helpu i lywio’ch ffordd drwy heriau’r farchnad fyd-eang sydd ohoni. Mewn amgylchedd creadigol ôl-raddedig cefnogol, byddwch yn mireinio’ch gwaith ac yn magu’r hyder i dorri’ch cwys eich hun yn y byd darlunio sy’n ehangu’n barhaus.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
  • Dwyieithog
Hyd y cwrs:
18 Mis Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r portffolio meistr Deialogau Cyfoes yn cynnig amgylchedd dysgu rhyngddisgyblaethol unigryw, gyda mynediad at weithdai a staff ar draws y gyfadran.
02
Mae myfyrwyr meistr ac ymchwil yn cael eu cefnogi gan dîm ymroddgar a phroffesiynol o ddarlithwyr ac arddangoswyr technegol, a gyda'i gilydd maen nhw’n creu amgylchedd dysgu cefnogol a llawn amrywiaeth.
03
Mae Coleg Celf Abertawe yn cynnig opsiynau llawnamser a rhan-amser ac, er mwyn helpu i gefnogi ein myfyrwyr meistr, rydym yn gwneud y rhan fwyaf o'r addysgu craidd ar ddyddiau Iau a Gwener.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Ein hathroniaeth  

Mae ein cwrs MA Darlunio – Deialogau Cyfoes yn canolbwyntio ar feithrin creadigrwydd, meddwl beirniadol, a thwf proffesiynol. Rydym yn annog myfyrwyr i archwilio dulliau arloesol, herio syniadau confensiynol, a datblygu llais artistig personol trwy arfer adfyfyriol, cydweithio ac arbrofi ymarferol o fewn amgylchedd dysgu cefnogol a deinamig.

Mae’r portffolio Deialogau Cyfoes meistr yng Ngholeg Celf Abertawe yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw. Mae graddedigion ac ymarferwyr proffesiynol o ystod eang o arbenigeddau yn elwa o ddysgu amlddisgyblaethol ynghyd â darlithwyr arbenigol ac ystod eang o gyfleusterau. Fe gewch y cyfle i fanteisio ar brofiadau a gwybodaeth o bob rhan o’r gwahanol lwybrau ac adlewyrchu hyn yn eich astudiaeth bersonol eich hun.

Mae’r amgylchedd ymchwil yn elwa’n fawr o fewnbwn ein staff addysgu a’n darlithwyr gwadd, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn artistiaid, dylunwyr a damcaniaethwyr sy’n ymchwilwyr gweithredol o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol. Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn cwblhau cyfres o fodylau a addysgir. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfnewidiadau amlddisgyblaethol, trwy seminarau a darlithoedd sy’n cynnwys myfyrwyr o bob rhaglen o fewn y  portffolio Deialogau Cyfoes, i ysgogi safbwyntiau newydd a herio cyfeiriadau. Disgwylir i syniadau newydd a chyffrous sy’n codi drwy ddeialogau o’r fath hyrwyddo ffordd newydd o feddwl am y canfyddiadau a’r technegau cynhyrchu sy’n briodol i’ch disgyblaeth. Trwy gydol yr elfen a addysgir o’r rhaglen, bydd disgwyl i chi gynnal ymchwiliadau ac ymchwil materol i themâu cyfoes, gan ystyried materion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ymchwilio i arferion darlunio cyfoes, gan ganolbwyntio ar ddulliau traddodiadol a digidol. Byddwch yn datblygu sylfaen gref ym maes meddwl gweledol a myfyrio beirniadol, gan arbrofi gydag amrywiol gyfryngau i lunio eich arfer creadigol a nodi eich diddordebau arbenigol. Fe gewch gyfleoedd i gyflwyno eich gwaith drwy arddangosfeydd, cyhoeddi a llwyfannau arloesol eraill, wrth integreiddio ymchwil a theori i mewn i’ch prosiectau. 

Gorfodol

Safbwyntiau Cydfodol

(20 credydau)

Yr Arbrawf Meddwl

(20 credydau)

Deialogau Cydweithredol

(20 credydau)

Ymchwil ac Arfer Archwiliol

(60 credydau)

Arfer Cadarnhau

(60 credydau)

Disclaimer

  • Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.

    Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Gradd anrhydedd 2:2 

    • neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. 

    Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.  Sylwch, mae’r rhaglen meistr hon yn galw am ymchwil ymarferol a damcaniaethol yn ogystal Ã¢ pheth ysgrifennu academaidd. 

    Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr er mwyn asesu addasrwydd ar gyfer y cwrs a ddewiswyd. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith. 

    Cyngor a Chymorth Derbyn  

    I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. 

    Gofynion Iaith Saesneg  

    Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;

    Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. 

     Gofynion fisa ac ariannu 

    Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;

    Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;

    Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   

  • Cyfweliad 

    Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad. 

    Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Ar lefel meistr, rydym yn deall y gall bod gwahanol resymau dros astudio MA. Efallai eich bod yn dymuno cadw eich momentwm astudio, newid cyfeiriad eich astudiaethau neu yrfa, dyfnhau eich gwybodaeth, cael cyfle i symud eich gyrfa ymlaen neu gael rhagor o amser i ddatblygu syniadau a mireinio eich sgiliau. Mae trafod yr opsiynau hyn yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd. 

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk.

    Portffolio 

    Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan amlygu eich arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. Gall y portffolio hwn hefyd gynnwys arfer neu brofiad proffesiynol a phriodoleddau sydd gennych y gellid eu defnyddio wrth astudio ar lefel meistr. P’un a yw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn amlygu eich potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.

  • Bydd asesu’n digwydd trwy waith cwrs, sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ogystal â gwaith ymarferol ysgrifenedig.


    Yn Semester 1 bydd traethawd damcaniaethol 4,000 o eiriau gyda chyflwyniad poster, ac yn Semester 3 bydd adroddiad 5,000 o eiriau sy’n cyd-fynd â’r gwaith ymarferol.


    Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modiwl. Bydd asesiadau crynodol ar ddiwedd pob modiwl, sy’n cynnwys cyflwyno’r gwaith i’r tîm asesu.
     

    Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs, gan gynnwys, ymhlith eraill:

    Tiwtorialau 
    Mae’r tiwtorialau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.


    Yn Semester 1, llawn-amser/Blwyddyn 1, rhan-amser, mae pob myfyriwr yn cwrdd ag aelod o staff er mwyn trafod eu gwaith fel rhan o bob modiwl. Yn Semester 2 a 3, llawn- amser/Blynyddoedd 2 a 3, rhan-amser, mae myfyrwyr yn gweithio’n fwy annibynnol ac yn cofrestru ar gyfer tiwtorialau o fewn, neu ar draws, eu disgyblaeth, ynghyd â’r rhai a drefnir pan fyddan nhw angen cymorth gyda’u gwaith.


    Fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr sydd yn eu semester/blwyddyn olaf ar y cwrs yn cwrdd ag o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos. 


    Seminarau/Tiwtorialau Grŵp
    Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ystod pob cam o’r cwrs, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn ffordd strwythuredig ac i gael mewnbwn gwerthfawr gan staff.


    Cyflwyniadau Ffurfiol ac Anffurfiol
    Mae gan rai o’r modiwlau gyflwyniad syniadau yn rhan o ganlyniad y modiwl, ac maen nhw’n ffordd hanfodol o rannu syniadau ar draws y cwrs. Mae cyflwyno gwaith i gyfoedion yn anffurfiol hefyd yn rhan o addysgu’r seminar ac yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar gynnydd y gwaith.


    Arddangos gwaith
    Ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle, os yw’n briodol, i arddangos canlyniadau’r cwrs mewn arddangosfa wedi’i guradu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain yn rhan ganol y cwrs, os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.

  • Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdai a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.


    Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu. 


    Yn dibynnu ar bellter a hyd, gall cost yr ymweliad astudio dewisol amrywio o tua £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol, i £200 neu fwy ar gyfer ymweliadau astudio tramor neu deithiau hirach yn y DU. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau fel trafnidiaeth, mynediad i leoliadau a llety. Fel
    arfer mae cyfraddau is ar gyfer ein myfyrwyr.

  • Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. 

    Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  

    Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 

    Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;

    Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 

    Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion yn aelodau gweithgar o’n diwylliant creadigol, ac yn datblygu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o rolau proffesiynol, fel:

    • Entrepreneur diwylliannol
    • Curadur
    • Addysgwr – darlithydd prifysgol
    • Myfyriwr gradd ymchwil a ariennir
    • Artist/dylunydd

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau