
Doethuriaeth (PhD)
Mae PhD gyda ni yn cynnig cyfle i chi ymgymryd ag archwiliad manwl o bwnc ymchwil sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch nodau gyrfa. Mae’r cymhwyster hwn a gydnabyddir yn rhyngwladol wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n ceisio gwneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth yn eu maes, gyda chefnogaeth goruchwyliaeth academaidd arbenigol.
Mae’r rhaglen yn darparu sgiliau ymchwil uwch a gwybodaeth ddamcaniaethol i chi i ddylunio, cynnal, gwerthuso ac amddiffyn eich ymchwil annibynnol. Ochr yn ochr ag arbenigedd pwnc-benodol, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdano, gan gynnwys meddwl beirniadol, datrys problemau, a chyfathrebu effeithiol - eich paratoi ar gyfer llwyddiant yn y byd academaidd neu yrfaoedd ymchwil-ddwys eraill.
Rydym yn croesawu ymgeiswyr o ystod o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol. Mae gan ein tîm o oruchwylwyr profiadol arbenigedd ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan sicrhau eich bod yn derbyn arweiniad a chefnogaeth wedi’i deilwra trwy gydol eich taith PhD.
P’un a ydych chi’n anelu at yrfa mewn ymchwil, academia, neu y tu hwnt, PhD o’r Drindod Dewi Sant yw eich llwybr i ddod yn arbenigwr yn eich maes dewisol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Dysgu o bell
- Llawn amser
- Rhan amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Fel darpar ymgeisydd PhD yn PCYDDS, byddwch yn dechrau drwy gyflwyno cynnig ymchwil sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau academaidd a’ch dyheadau gyrfaol. Ar ôl i’ch cynnig gael ei gymeradwyo, bydd tîm goruchwylio o ddau neu dri aelod o staff academaidd yn cael ei glustnodi i chi, dan arweiniad Cyfarwyddwr Astudiaethau, a fydd yn eich cefnogi a’ch arwain trwy eich taith ymchwil.
Bydd eich rhaglen PhD yn cynnwys ymchwiliad estynedig a phenodol i’ch dewis bwnc, gan arwain at gynhyrchu traethawd hir ysgrifenedig. I’r rhai sy’n dilyn ymchwil seiliedig ar arfer, mae’r rhaglen yn cynnig yr opsiwn i gynhyrchu traethawd ysgrifenedig byrrach ynghyd â chorff sylweddol o waith ymarferol, sy’n eich galluogi i gyfuno arfer creadigol ag ymchwil academaidd trylwyr.
Drwy gydol eich astudiaethau, bydd gennych fynediad at ystod o gyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant ymchwil, gan gynnwys gweithdai a digwyddiadau a gynlluniwyd i wella eich galluoedd ymchwil. Yn ogystal, anogir pob myfyriwr ymchwil i gymryd rhan yn Ysgol Haf flynyddol y Brifysgol, sy’n darparu cyfleoedd pellach i ddatblygu sgiliau, rhwydweithio a chydweithio â chyd-ymchwilwyr.
Mae gan ein staff academaidd gyfoeth o arbenigedd ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, gan sicrhau bod eich ymchwil yn cael ei gefnogi gan oruchwylwyr profiadol sydd â dealltwriaeth ddofn o’ch maes.
Yn aml, mae ymgymryd ag ymchwil PhD yn PCYDDS yn arwain at gyhoeddi’r gwaith a gall hyn fod yn llwybr at yrfa yn y byd academaidd neu rolau eraill sy’n canolbwyntio ar ymchwil. Mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i gyfrannu gwybodaeth wreiddiol i’ch maes wrth ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cefnogi eich uchelgeisiau gyrfaol.
Meysydd Goruchwylio PhD
- Celf a’r Cyfryngau – Llawn Amser a Rhan-amser
-
Busnes, Cyllid a Rheolaeth - Llawn amser a Rhan-amser
-
Gweithiau Cyhoeddedig (Busnes) - Llawn amser a Rhan-amser
-
Twristiaeth a Lletygarwch - Llawn amser a Rhan-amser
- Addysg - Llawn Amser a Rhan-amser
- Plentyndod ac Ieuenctid - Rhan-amser
-
Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored - Llawn Amser a Rhan-amser
-
Llythrennedd Corfforol - Llawn Amser a Rhan-amser
-
Seicoleg - Rhan-amser
-
Astudiaethau Celtaidd – Llawn-amser a Rhan-amser
-
Athroniaeth - Llawn amser a Rhan-amser
-
Cyfiawnder Cymdeithasol - Rhan-amser
-
Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol – Rhan-amser
-
Hanes - Rhan-amser
-
Ysgrifennu Creadigol a Saesneg - Rhan-amser
-
Cyfrifiadura – Llawn amser a Rhan-amser
-
Peirianneg - Llawn amser a Rhan-amser
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Y meincnod ar gyfer mynediad yw gradd israddedig 2:1 neu uwch. Gall myfyrwyr aeddfed wneud cais sy’n ystyried eu portffolio a/neu eu gyrfa academaidd/diwydiannol flaenorol.
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
Caiff Doethuriaeth ei hasesu drwy gyflwyno traethawd ymchwil ysgrifenedig ynghyd â chorff o waith ymarferol, os yw’n briodol, ac yna bydd dau arholwr, un o’r tu allan i’r Brifysgol, yn cynnal arholiad llafar, neu viva, er mwyn craffu ar y gwaith.
-
Mae rhai o’r doethuriaethau hyn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.