ÃÜÌÒ´«Ã½

Skip page header and navigation

Prentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw (Dysgu Gydol Oes)

Abertawe
3 blynedd
Cyflogaeth yn y sector

Mae’r rhaglen Prentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw wedi ei datblygu mewn cydweithrediad â chyflogwyr er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion dilyniant gyrfa cyfredol mewn diwydiant sy’n ganolog i gynnal crefft draddodiadol gwydr lliw.

Bydd y rhaglen arloesol hon a ariennir gan y Llywodraeth yn helpu prentisiaid i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a thechnegol trwy gyfuniad o astudio yn y brifysgol a dysgu seiliedig ar waith. 

Bydd y prentis yn datblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth o ran ymchwil, dylunio, crefft, adeiladu a ffitio gwydr pensaernïol a gwydr lliw.

Gall hyn gynnwys gwaith cadwraeth ac adfer ar wydr lliw yn ogystal â gweithio ar gomisiynau newydd neu waith pensaernïol. Mae prosiectau’n amrywio o gomisiynau preifat a chyhoeddus bach i rai ar raddfa fawr a all gynnwys ymchwil, dylunio ac adeiladu gwydr lliw newydd a phresennol o fewn cyd-destunau hanesyddol a/neu gyfoes mewn adeiladau cyhoeddus neu ddomestig.  

Mae’r rhaglen hon wedi’i hachredu gan y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol (IFATE).

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Prentisiaethau
  • Cyfunol (ar y campws)
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 blynedd
Gofynion mynediad:
Cyflogaeth yn y sector

Cyllid sydd ar gael i brentisiaid sy’n byw yn Lloegr yn unig, astudio Ar-lein

Pam dewis y cwrs hwn?

01
PCYDDS yw’r unig ddarparwr hyfforddiant yn y DU am y brentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw, gyda dros 80 mlynedd o brofiad mewn hyfforddiant ac addysg gwydr lliw?
02
Cyfleusterau a stiwdios gwydr lliw o ansawdd uchel yn cynnwys odynnau niferus, stiwdio paentio gwydr, bae asid, chwythwyr tywod ac archif gwydr lliw’r Brifysgol
03
Arbenigedd yn gysylltiedig â’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol sydd â phrofiad eang ar brosiectau go iawn i’r sectorau treftadaeth, masnachol ac eglwysig

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y prentis yn datblygu sgiliau ymarferol wrth drin a thorri gwydr, paentio gwydr, gosod plwm, sodro a smentio. Mae hyn yn hanfodol i greu gwydr lliw.

Yn ogystal â’r sgiliau ymarferol hyn, bydd prentisiaid yn datblygu sgiliau i ddelio â phobl a gweithio fel aelod o dîm, byddant yn dysgu sut i ymchwilio a dadansoddi gwybodaeth hanesyddol a thechnegol.

Byddant hefyd yn dysgu creadigrwydd mewn dylunio sy’n cynnwys lluniadu a chyflawni cartwnau gwydr lliw a lluniadau llinell dorri.  

Mae’r cynllun yn cael ei astudio dros gyfnod o 3 blynedd yn ystod cyflogaeth ac mae’n cynnwys ystod o weithdai ar-lein, dysgu o bell ac ymarferol arbenigol.

Lluniadu a Dylunio
Astudiaethau Hanesyddol a Chyd-destunol
Technegau Gwaith Mainc ac Adeiladu
Gweithdy Prosesau Hybrid
Paentio Gwydr a Staeniau Arian
Adeiladwaith yr Adeilad
Prosesau Gwydr Arbenigol
Panel Astudio Hanesyddol

testimonial

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • I gael mynediad i’r rhaglen brentisiaeth, rhaid i chi fod yn gyflogedig yn y sector ac yn gweithio yn Lloegr am fwy na 50% o’r amser. 

  • Asesu ac adborth ffurfiannol yn ystod hyfforddiant ‘i ffwrdd o’r gwaith’, a thrwy Adolygiadau Cynnydd gyda mentor yn y gweithle a swyddog cyswllt. 

    Asesu Terfynol drwy aseswyr annibynnol ICON drwy arsylwi yn y gweithle, a thrafodaeth broffesiynol yn seiliedig ar bortffolio o dystiolaeth, sy’n arddangos bod Gwybodaeth, Sgiliau ac Ymddygiad ar safon y Brentisiaeth Crefftwr Gwydr Lliw wedi’u cyflawni.  

  • Os ydych yn gyflogwr nad yw’n talu’r Ardoll, mae’r Llywodraeth yn gofyn am gyfraniad o 5% o’r costau hyfforddi ac asesu.  Cysylltwch i gael cyngor pellach. 

  • Mae rhai cyfleoedd cyllido allanol ar gael i gyflogwyr ac unigolion.  Cysylltwch i gael cyngor pellach.

  • Creu, atgyweirio ac adfer gwydr lliw, a gwaith cadwraeth. 

Mwy o gyrsiau Celf, Dylunio a Ffotograffiaeth

Chwiliwch am gyrsiau