
Crefftau Dylunio - Deialogau Cyfoes (Rhan amser) (MA)
Dyluniwyd yr MA Crefftau Dylunio – Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe ar gyfer unigolion creadigol sy’n gobeithio archwilio arferion crefft cyfoes trwy ddysgu ymarferol a damcaniaethol. Yn rhan o’r portffolio Deialogau Cyfoes, mae’r cwrs hwn yn eich gwahodd i ymgysylltu â materion cyfoes ac ymchwiliadau materol, gan sicrhau eich bod yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’ch arfer unigol eich hun. Fe gewch gyfle i archwilio deialogau beirniadol a damcaniaethol yn rhan greiddiol o’ch taith ddysgu.
Trwy weithdai Crefftau Dylunio arbenigol, gallwch ddewis canolbwyntio ar gerameg, gwydr neu fetelau, neu fabwysiadu ymagwedd fwy rhyngddisgyblaethol trwy weithio ar draws gwahanol ddeunyddiau a disgyblaethau, gan gynnwys ffotograffiaeth, print, a thecstilau. Bydd yr amrywiaeth hon yn eich annog i ehangu eich rhagolygon creadigol ac arbrofi gyda phrosesau o waith llaw a phrosesau digidol.
Yn ogystal â dulliau crefft traddodiadol, mae’r cwrs hwn yn croesawu technolegau newydd ac yn annog arloesedd. Bydd gennych fynediad at gyfleusterau arloesol, gan gynnwys argraffu 3D, sy’n eich galluogi i integreiddio dylunio digidol â gwneud traddodiadol. P’un a ydych chi’n gweithio ym maes gemwaith, tecstilau, neu ddeunyddiau eraill, byddwch chi’n gallu gwthio ffiniau crefft a dylunio.
Mae’r rhaglen hefyd yn ystyried ysgrifennu a thestun yn fathau o wneud a meddwl, gan eich galluogi i archwilio sut y gall geiriau a chrefft ddod at ei gilydd yn eich arfer creadigol. Drwy gydol eich amser ar y cwrs, cewch eich cefnogi i ddatblygu eich llais eich hun fel dylunydd, gyda ffocws ar ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â deunyddiau a syniadau.
Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, byddwch yn gweithio tuag at arddangosfa derfynol a arweinir gan fyfyrwyr, lle cewch gyfle i arddangos eich gwaith a dod â phopeth rydych wedi’i ddysgu ynghyd. Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn cwblhau adroddiad beirniadol, a fydd yn eich galluogi i adfyfyrio ar eich arfer a maes crefft gyfoes mewn ffordd feddylgar a phroffesiynol. Bydd y prosiect terfynol hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr i ddatblygu gyrfa yn y diwydiannau creadigol, p’un a ydych yn dyheu am weithio fel dylunydd, crefftwr, neu mewn rôl greadigol arall.
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch wedi adeiladu portffolio o waith sy’n adlewyrchu eich arddull a’ch sgiliau unigol, ynghyd â sylfaen gref mewn arferion crefft traddodiadol a digidol. Mae’r cwrs hwn yn cynnig taith ddeinamig a chyffrous i fyd crefft gyfoes, gan roi’r offer i chi lwyddo mewn tirwedd greadigol sy’n datblygu’n gyflym.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein Hathroniaeth
Mae’r cwrs MA Crefftau Dylunio – Deialogau Cyfoes yn annog archwilio creadigol ac adfyfyrio beirniadol. Rydym yn pwysleisio ymagwedd ymarferol at wneud crefftau, gan gyfuno technegau traddodiadol ag arloesi digidol, a hynny wrth feithrin dealltwriaeth feirniadol o arferion crefft cyfoes. Ein nod yw datblygu eich arfer unigol a’ch paratoi ar gyfer byd proffesiynol crefft a dylunio.
Mae portffolio Deialogau Cyfoes meistr yng Ngholeg Celf Abertawe yn cynnig profiad ôl-raddedig unigryw. Mae graddedigion ac ymarferwyr proffesiynol o ystod eang o arbenigeddau yn elwa o ddysgu amlddisgyblaethol ynghyd â darlithwyr arbenigol ac ystod eang o gyfleusterau. Fe gewch y cyfle i wneud defnydd o brofiadau a gwybodaeth ar draws y gwahanol lwybrau ac adlewyrchu hyn yn eich astudiaeth bersonol eich hun.
Mae’r amgylchedd ymchwil yn elwa’n fawr o fewnbwn ein staff addysgu a’n darlithwyr gwadd, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn artistiaid, yn ddylunwyr ac yn ddamcaniaethwyr sy’n enwog yn genedlaethol a rhyngwladol. Yn rhan gyntaf y rhaglen, byddwch yn cwblhau cyfres o fodylau a addysgir. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfnewidiadau amlddisgyblaethol, trwy seminarau a darlithoedd sy’n cynnwys myfyrwyr o bob rhaglen o fewn y portffolio Deialogau Cyfoes, i ysgogi safbwyntiau newydd a herio cyfeiriadau. Y disgwyl yw bod trawsffrwythloni syniadau drwy ddeialogau o’r fath yn hyrwyddo myfyrwyr i ailedrych ar ganfyddiadau a thechnegau cynhyrchu sy’n briodol i’ch disgyblaeth. Trwy gydol yr elfen a addysgir o’r rhaglen, bydd disgwyl i chi gynnal ymchwiliadau materol ac ymchwilio i themâu cyfoes, gan ystyried materion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn archwilio ystod o ddefnyddiau, gan gynnwys cerameg, gwydr, metelau a thecstilau, wrth ddatblygu prosesau gwneud â llaw a digidol. Byddwch yn ymgysylltu ag ymchwiliadau materol a deialogau beirniadol a damcaniaethol, a fydd yn dyfnhau eich dealltwriaeth o arferion crefft cyfoes. Daw’r cwrs i ben mewn arddangosfa a arweinir gan fyfyrwyr ac adroddiad beirniadol, sy’n eich galluogi i arddangos eich ymagwedd bersonol at ddylunio a chrefft.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
(60 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2
- neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Sylwch, mae’r rhaglen meistr hon yn galw am ymchwil ymarferol a damcaniaethol yn ogystal â pheth ysgrifennu academaidd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer yr holl ymgeiswyr er mwyn asesu addasrwydd ar gyfer y cwrs a ddewiswyd. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio o waith.
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Cyfweliad
Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.
Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Ar lefel meistr, rydym yn deall y gall bod gwahanol resymau dros astudio MA. Efallai eich bod yn dymuno cadw eich momentwm astudio, newid cyfeiriad eich astudiaethau neu yrfa, dyfnhau eich gwybodaeth, cael cyfle i symud eich gyrfa ymlaen neu gael rhagor o amser i ddatblygu syniadau a mireinio eich sgiliau. Mae trafod yr opsiynau hyn yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk.
Portffolio
Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan amlygu eich arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. Gall y portffolio hwn hefyd gynnwys arfer neu brofiad proffesiynol a phriodoleddau sydd gennych y gellid eu defnyddio wrth astudio ar lefel meistr. P’un a yw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn amlygu eich potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
-
Bydd asesu’n digwydd trwy waith cwrs, sy’n cynnwys cyflwyniadau yn ogystal â gwaith ymarferol ysgrifenedig.
Yn Semester 1 bydd traethawd damcaniaethol 4,000 o eiriau gyda chyflwyniad poster, ac yn Semester 3 bydd adroddiad 5,000 o eiriau sy’n cyd-fynd â’r gwaith ymarferol.
Nid oes arholiadau ar y cwrs hwn. Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol drwy gydol pob modiwl. Bydd asesiadau crynodol ar ddiwedd pob modiwl, sy’n cynnwys cyflwyno’r gwaith i’r tîm asesu.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs, gan gynnwys, ymhlith eraill:
Tiwtorialau
Mae’r tiwtorialau hyn yn cael eu cynnal yn rheolaidd.
Yn Semester 1, llawn-amser/Blwyddyn 1, rhan-amser, mae pob myfyriwr yn cwrdd ag aelod o staff er mwyn trafod eu gwaith fel rhan o bob modiwl. Yn Semester 2 a 3, llawn- amser/Blynyddoedd 2 a 3, rhan-amser, mae myfyrwyr yn gweithio’n fwy annibynnol ac yn cofrestru ar gyfer tiwtorialau o fewn, neu ar draws, eu disgyblaeth, ynghyd â’r rhai a drefnir pan fyddan nhw angen cymorth gyda’u gwaith.
Fel tîm, rydym yn sicrhau bod pob myfyriwr sydd yn eu semester/blwyddyn olaf ar y cwrs yn cwrdd ag o leiaf un aelod o’r staff academaidd bob wythnos.
Seminarau/Tiwtorialau Grŵp
Mae’r rhain yn cael eu cynnal yn rheolaidd, yn ystod pob cam o’r cwrs, gydag un aelod o staff. Maen nhw’n gyfle gwych i fyfyrwyr rannu a chyfnewid syniadau gyda’u cyfoedion mewn ffordd strwythuredig ac i gael mewnbwn gwerthfawr gan staff.
Cyflwyniadau Ffurfiol ac Anffurfiol
Mae gan rai o’r modiwlau gyflwyniad syniadau yn rhan o ganlyniad y modiwl, ac maen nhw’n ffordd hanfodol o rannu syniadau ar draws y cwrs. Mae cyflwyno gwaith i gyfoedion yn anffurfiol hefyd yn rhan o addysgu’r seminar ac yn ffordd o gael adborth gwerthfawr ar gynnydd y gwaith.
Arddangos gwaith
Ar ddiwedd y cwrs bydd cyfle, os yw’n briodol, i arddangos canlyniadau’r cwrs mewn arddangosfa wedi’i guradu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cefnogaeth i gynnal eu harddangosfeydd eu hunain yn rhan ganol y cwrs, os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny. -
Gall ein myfyrwyr fanteisio ar amrywiaeth o offer ac adnoddau a fydd, fel arfer, yn ddigon i’w caniatáu i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r holl ddeunyddiau sylfaenol y bydd myfyrwyr eu hangen i ddatblygu eu gwaith ymarferol yn ein gweithdai a’n cyfleusterau stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn wynebu rhai costau ychwanegol wrth ehangu eu harfer personol. Er enghraifft, wrth brynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno â theithiau astudio dewisol, a thalu am argraffu.
Yn dibynnu ar bellter a hyd, gall cost yr ymweliad astudio dewisol amrywio o tua £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol, i £200 neu fwy ar gyfer ymweliadau astudio tramor neu deithiau hirach yn y DU. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau fel trafnidiaeth, mynediad i leoliadau a llety. Fel
arfer mae cyfraddau is ar gyfer ein myfyrwyr. -
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Bydd graddedigion yn aelodau gweithgar o’n diwylliant creadigol, ac yn datblygu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o rolau proffesiynol, fel:
- Entrepreneur diwylliannol
- Curadur
- Addysgwr – darlithydd prifysgol
- Myfyriwr gradd ymchwil a ariennir
- Artist/dylunydd