Ffotograffiaeth Yn Y Celfyddydau (Rhan amser) (BA Anrh)
Mae’r rhaglen Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS yn eich annog i ystyried ble mae ffotograffiaeth yn eistedd o fewn arfer celfyddydol cyfoes a diwylliant gweledol. Mae’r cwrs hwn yn eich annog i fentro ac ymchwilio i bosibiliadau cyfrwng ffotograffiaeth. Gyda phwyslais ar feddwl cysyniadol a ffotograffiaeth gysyniadol, byddwch yn edrych ar gyd-destunau esthetig, moesegol a chymdeithasol profiadau unigol a chyfunol.
Mae ein rhaglen yn defnyddio ystod eang o gyfryngau, o draddodiadol a digidol i dechnegau a phrosesau ffotograffiaeth arbrofol. Mae’n caniatáu dull hyblyg wrth wneud delweddau, o ran y deunydd pwnc a’r dechneg, lle byddwch yn archwilio ac yn herio confensiynau ymarfer celfyddydol ffotograffig cyfoes. Byddwch yn datblygu sgiliau ffotograffiaeth technegol a fyddwch yn eu defnyddio drwy gydol eich gyrfa.
Mae gan yr adran ffotograffiaeth gysylltiadau cryf â’r diwydiannau celf a’r cyfryngau masnachol. Mae’r cysylltiadau hyn yn cael eu cryfhau gan ymweliadau rheolaidd gan ddarlithwyr gwadd. Bydd y rhain yn eich darparu â chyfleoedd i gwrdd â gweithwyr proffesiynol yn y maes a dysgu oddi wrthynt. Mae hyn yn eich helpu i adeiladu cysylltiadau â’r diwydiant sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau creadigol.
Bydd ein darlithwyr a gweithwyr technegol arbenigol yn eich cefnogi i adeiladu portffolio ffotograffiaeth proffesiynol yn ystod y cwrs. Byddwch yn dysgu’r hyn sy’n ofynnol i gael gyrfa lwyddiannus yn y celfyddydau gweledol. Mae ein cyn-fyfyrwyr diweddar wedi cael swyddi mewn rolau amrywiol, gan gynnwys ffotograffwyr golygyddol, ffotograffwyr hysbysebu, artistiaid, curaduron a chyfarwyddwyr orielau.
Mae gan yr adran ffotograffiaeth ystod nodedig o gyfleusterau. Yn ogystal â chyfleusterau ac ystafelloedd tywyll ffotograffiaeth traddodiadol helaeth, mae ein darpariaeth ddigidol yn cynnwys ystafell ddigidol lliw-reoledig arbenigol ac ynddynt y feddalwedd Adobe diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys sganwyr ffilm Hasselblad eglur iawn, printio portffolio ac arddangosfa fformat canolig a mawr. Mae ein dosbarthiadau bach a’n hawyrgylch cyfeillgar yn sicrhau rhyngweithio eithriadol rhwng myfyrwyr a staff.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Rhan amser
- Saesneg
- Dwyieithog
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Ein hathroniaeth dysgu ac addysg yw darparu dull hyblyg sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan annog creadigrwydd a meddwl beirniadol. Ein nod yw rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder sydd eu hangen arnoch i ffynnu ym maes deinameg ffotograffiaeth.
Fe’ch anogir i archwilio syniadau a datblygu sgiliau sy’n berthnasol i gyd-destunau megis celf gyfoes, cyhoeddi, hysbysebu, ffasiwn, addurno mewnol, pensaernïaeth a theithio. I’r perwyl hwn, mae’r cwrs yn eich galluogi i leoli’ch gwaith a’i fynegi’n feirniadol mewn perthynas â’ch cynulleidfa a’r cyd-destun diwylliannol ehangach.
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 credyd)
(20 credydau)
(20 credyd)
(10 credydau)
(10 credydau)
(20 Credyd)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(10 credydau)
(10 credydau)
(40 credydau)
(20 credydau)
(60 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Oriel Ffotograffiaeth yn y Celfyddydau
Gwybodaeth allweddol
-
120 o bwyntiau tariff UCAS 
e.e. Safon Uwch: ABB, BTEC: DDM, IB: 33 a Phortffolio
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS. &²Ô²ú²õ±è;
Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i gelf a/neu ddylunio, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
Rydym yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs dan sylw. Caiff eich sgiliau, eich cyflawniadau a’ch profiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch portffolio gwaith.
°Õ³Ò´¡±«â€¯
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd. &²Ô²ú²õ±è;
Llwybrau mynediad amgen 
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid oes gennych y gofynion mynediad i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
– Tystysgrif mewn Addysg Uwch (CertHE).
Cwrs blwyddyn yw hwn sy’n cynnig cyflwyniad cynhwysfawr i gelf a dylunio, gan sefydlu sail gadarn i’ch dyfodol creadigol. Yn ystod y cwrs, byddwch yn ymwneud ag ystod eang o ddisgyblaethau artistig a meysydd dylunio, gan eich helpu i ddarganfod eich diddordebau a mireinio eich sgiliau.  
Cyngor a Chymorth Derbyn 
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
 Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Cynhelir asesiadau drwy waith cwrs - ysgrifenedig ac ymarferol. Ni fydd unrhyw arholiadau ar y cwrs hwn. Mae myfyrwyr yn cael eu hasesu’n ffurfiannol gydol modwl; mae asesu crynodol yn digwydd ar ddiwedd modwl. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu drwy gydol y cwrs sy’n cynnwys:
Darlithoedd
Fel arfer ar ddechrau cyfnod cyswllt a drefnwyd, bydd darlithoedd yn gyffredinol yn cynnwys cyflwyniad ffurfiol sy’n rhoi gwybodaeth sy’n berthnasol i’r modwl, ynghyd ag elfennau gweledol, gyda dangosiad neu diwtorial/gweithgaredd grŵp i ddilyn.
°Õ¾±·É³Ù´Ç°ù¾±²¹±ô²¹³Ü&²Ô²ú²õ±è;³Ò°ùŵ±è
Yn amodol ar faint y garfan, cynnwys y modwl a dewis y darlithwyr unigol, mae’r rhain fel arfer mewn grwpiau o ddim mwy na chwe myfyriwr ar y tro ac yn cael eu cyflwyno dros gyfnod penodol.
Tiwtorialau Unigol
Caiff tiwtorialau unigol eu trefnu, gan amlaf, ar gyfer myfyrwyr lefel 5, lefel 6, a lefel 7, ac maent yn cynnig cyfle manylach ac â mwy o ffocws i roi adborth i fyfyrwyr ac i ddatblygu syniadau. Fel arfer, trefnir y rhain mewn perthynas â modylau arfer unigol megis Prosiectau a Arweinir gan Fyfyrwyr.
Beirniadaethau
Trefnir beirniadaethau grŵp yn rheolaidd ar gyfer pob grŵp blwyddyn. Ar gyfer lefel 4, mae’r rhain yn aml yn rhan o’r asesiad ar ddiwedd prosiectau byr, ar gyfer lefelau 5, 6 a 7 fe’u trefnir at ddiben adolygiadau interim ac i roi adborth ar waith sy’n mynd rhagddo, ac maent yn cynnwys cyfranogiad myfyrwyr a beirniadaeth cymheiriaid.
Gweithdai
Cyflwynir y rhain i addysgu sgiliau penodol i fyfyrwyr, bydd maint y grŵp yn amodol ar y pwnc a maint yr ystafell a gall gynnwys gwaith prosiect. Fel arfer ni chaiff y rhain eu marcio’n ffurfiol ond gallant fod yn destun beirniadaeth grŵp, a rhoddir adborth anffurfiol.
Cyflwyniadau
Defnyddir cyflwyniadau ffurfiol gan fyfyrwyr i’w cymheiriaid a staff at ddiben ymchwil a datblygu drwodd i waith gorffenedig. Fel arfer bydd myfyrwyr yn dechrau gwneud cyflwyniadau ar lefel 4 mewn grwpiau bach i fagu hyder yn y broses.
Wedyn ceir cyflwyniadau ymchwil sy’n cael eu hasesu i gymheiriaid ar lefel 5 a Chyflwyniadau Prosiect Mawr i staff a grwpiau blwyddyn eraill ar lefel 6 a 7. Mae’r cyflwyniad yn gyfrwng delfrydol ar gyfer datblygu hyder unigolion a sgiliau trosglwyddadwy.
-
Cyfweliad
Mae’n ofynnol i holl ymgeiswyr Coleg Celf Abertawe gael cyfweliad.
Rydym yn mwynhau’r broses gyfweld yn fawr, gan ddod i’ch adnabod chi a’ch gwaith, ac rydym yn teimlo mai dyma’r ffordd orau i ddod o hyd i’r myfyrwyr iawn i’n rhaglenni. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod gan ein hymgeiswyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud y dewis iawn iddyn nhw hefyd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn eich cyfweliad, cysylltwch â ni yn artanddesign@uwtsd.ac.uk
Portffolio
Gofynnwn i chi ddod â phortffolio o beth gwaith o’r gorffennol ac yn gyfredol. Eich portffolio yw casgliad o’ch gwaith mwyaf cyffrous a chynrychiadol, gan arddangos eich galluoedd creadigol, sgiliau technegol, a gweledigaeth artistig. Mae’n adrodd stori eich taith greadigol, gan roi sylw i’ch arddull, diddordebau, a syniadau unigryw wrth iddyn nhw ddatblygu. Rydym yn dehongli’r term ‘portffolio’ yn eang ac yn hapus i chi wneud yr un peth. Gall hyn gynnwys darnau gorffenedig, gwaith ar ei hanner, llyfrau braslunio, lluniadau, a phrosiectau sy’n parhau i ddatblygu, am fod y rhain yn rhoi cipolwg i ni ar eich proses feddwl a chreadigol. P’un a ydyn nhw mewn fformat ffisegol neu ddigidol, mae’ch portffolio’n gyfle i arddangos eich taith greadigol mewn ffordd sy’n teimlo’n ddilys i chi, gyda phob darn yn rhoi sylw i’ch potensial creadigol a’ch brwdfrydedd dros y rhaglen rydych yn gwneud cais amdani.
Rydym yn deall bod llawer o ymgeiswyr yn parhau i fod ar ganol eu cymwysterau (e.e. Safon Uwch, BTEC, L3, Sylfaen) ac yn datblygu corff o waith, felly nid oes pwysau i bopeth fod wedi’i gwblhau nac yn gaboledig.
-
Mae gan ein myfyrwyr fynediad at ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Rydym yn darparu’r deunyddiau sylfaenol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddatblygu eu gwaith ymarferol o fewn ein cyfleusterau gweithdy a stiwdio helaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr celf a dylunio yn gorfod talu rhai costau ychwanegol i ymestyn eu harchwiliad o’u harfer personol. Er enghraifft, prynu eu deunyddiau a’u hoffer arbenigol eu hunain, ymuno mewn gwibdeithiau astudio dewisol, ac argraffu.
Mae disgwyl i fyfyrwyr ddod â’u hoffer celf a dylunio personol eu hunain gyda nhw pan fyddant yn dechrau’r cwrs. Gallwn roi cyngor ar yr offer cywir sydd ei angen ar gyfer eich rhaglen astudio a chyfeirio at gyflenwyr priodol os byddwch yn dymuno prynu eitemau hanfodol cyn, neu yn ystod, eich astudiaethau.
Bydd pecyn celf a dylunio sylfaenol yn costio tua £100 ond mae’n bosibl y bydd gennych lawer o’r offer sydd ei angen yn barod, felly cysylltwch â ni yn gyntaf. Er bod gennym stiwdios dylunio digidol pwrpasol helaeth (PC a MAC) i chi wneud eich gwaith cwrs, efallai y byddwch hefyd yn dymuno dod â’ch dyfeisiau digidol eich hunain gyda chi. Cysylltwch â ni yn gyntaf cyn i chi brynu unrhyw beth.
Yn dibynnu ar y pellter a’r hyd, gall ymweliadau astudio opsiynol amrywio o ran cost o oddeutu £10 i ymweld ag orielau ac arddangosfeydd lleol i £200+ ar gyfer teithiau tramor. Mae’r costau hyn yn cynnwys pethau megis cludiant, mynediad i leoliadau a llety ac maen nhw fel arfer ar gyfraddau gostyngol i’n myfyrwyr.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg. &²Ô²ú²õ±è;
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael ewch i’n hadran ar Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.
-
Gall myfyrwyr hefyd fanteisio ar y cyfle i astudio am semester yn Ewrop, UDA neu Ganada.