Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) (BA Anrh)
Mae’r BA (Anrh) mewn Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) yn cynnig cyfle unigryw i archwilio treftadaeth gyfoethog Tsieina’r henfyd. Trwy’r cwrs hwn, mae myfyrwyr yn ymgysylltu’n ddwfn â’r traddodiadau deallusol, cymdeithasol a moesol sy’n parhau i siapio meddwl a diwylliant Tsieineaidd. Yn ganolog i’r rhaglen hon mae archwiliad o sut roedd meddylwyr clasurol Tsieineaidd yn rhagweld datblygiad rhagoriaeth ddynol a sut mae’r syniadau hyn yn parhau i fod yn berthnasol yn y byd sydd ohoni.
Addysgir y rhaglen Sinoleg hon yn Saesneg ac mae’n cymryd ymagwedd eang, gan ganolbwyntio ar ystod o bynciau sy’n hanfodol i ddeall gwareiddiad Tsieineaidd a’i sylfeini athronyddol. Mae’r cwrs yn ymdrin ag agweddau hanfodol ar astudiaethau Tsieineaidd, o ieitheg Tsieineaidd a’r system addysg cyn-fodern i ddehongli clasuron Conffiwsaidd. Trwy astudio’r meysydd hyn, mae myfyrwyr yn cael mewnwelediad i’r fframweithiau athronyddol craidd a’r cysyniadau llywodraethu sydd wedi dylanwadu ar gymdeithas Tsieineaidd ers canrifoedd. Mae’r astudiaethau hyn yn helpu myfyrwyr i werthfawrogi doethineb oesol meddwl Tsieineaidd a’i botensial i lywio syniadau modern am dwf personol a chymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn dilyn dull rhyngddisgyblaethol, gan wneud cysylltiadau ar draws meysydd fel hanes, ieithyddiaeth, llenyddiaeth ac athroniaeth. Mae’r sylfaen eang hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o’r strwythurau cymdeithasol a’r egwyddorion economaidd hynafol a luniodd gymdeithas Tsieineaidd, gan gynnig mewnwelediadau sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oeddent yn yr oesoedd a fu. Drwy ddod â meysydd astudio amrywiol ynghyd, mae myfyrwyr yn cael persbectif cyflawn ar addysg ddyneiddiol a sut y gall meddwl clasurol Tsieineaidd ysbrydoli gwytnwch a’r gallu i addasu.
Fel nodwedd unigryw, mae’r cwrs yn cynnwys gwersi Tsieinëeg Mandarin, gan alluogi myfyrwyr i ddyfnhau eu hymgysylltiad â diwylliant a hanes Tsieina. Mae’r sgil iaith hon yn fantais ychwanegol i’r rhai sy’n ystyried rolau’n y dyfodol mewn byd cynyddol ryng-gysylltiedig.
Mae ffocws y rhaglen ar hygyrchedd, cymhwysiad a pherthnasedd yn y byd go iawn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod eang o gyfleoedd gyrfa. Gall graddedigion fynd ymlaen i rolau mewn addysg a hyfforddiant, llywodraeth a gweinyddiaeth gyhoeddus, adnoddau dynol a gweinyddu busnes. Mae’r sgiliau a geir o’r radd hon hefyd yn darparu sylfaen ragorol ar gyfer astudiaethau ac ymchwil ôl-raddedig, yn enwedig mewn meysydd sy’n ymwneud â Dwyrain Asia ac astudiaethau diwylliannol byd-eang.
Wrth ddewis y rhaglen hon, bydd myfyrwyr yn ymgymryd â thaith ddeallusol gyfoethog sy’n pontio’r gorffennol a’r presennol, gan eu harfogi â gwybodaeth a sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr heddiw. Trwy astudio Sinoleg, mae myfyrwyr yn dod yn rhan o etifeddiaeth o ddysgu dyneiddiol sy’n rhoi gwerth ar ddealltwriaeth ddiwylliannol, mewnwelediad moesegol, a thwf personol.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Israddedig
Cartref (Llawn amser): £9,535 y flwyddyn
Tramor (Llawn amser): £15,525 y flwyddyn
Pam ddewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein rhaglen BA (Anrh) Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol) yn pwysleisio hygyrchedd, cymhwysiad, gallu i addasu a dull rhyngddisgyblaethol. Wedi’i chynllunio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol heb sgiliau Tsieinëeg blaenorol, mae’n cynnig hyfforddiant cynhwysfawr mewn testunau Tsieineaidd clasurol a chysyniadau diwylliannol. Trwy ddadansoddi beirniadol, rhyngddiwylliannol a chyd-destunol hanesyddol, mae myfyrwyr yn cael offer i ddehongli a chymhwyso athroniaeth Gonffiwsaidd a gwerthoedd dyneiddiol Tsieineaidd i heriau hanesyddol a chyfoes byd-eang.
Caiff myfyrwyr eu cyflwyno i destunau clasurol a fframweithiau diwylliannol Tsieineaidd hanfodol, gyda ffocws cryf ar Gonffiwsiaeth a meddwl economaidd traddodiadol. Mae’r modylau hefyd wedi’u cynllunio i ddarparu mewnwelediadau sylfaenol i gof hanesyddol a delfrydau dyneiddiol, tra bod hyfforddiant ieithegol yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer dehongli Tsieinëeg glasurol.
(30 credydau)
(20 credydau)
(30 credyday)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar groestoriad athroniaeth, llywodraethu ac addysg ym meddwl Tsieineaidd. Mae’r flwyddyn hon hefyd yn ehangu ar ieitheg Tsieineaidd, gan baratoi myfyrwyr i ymgysylltu’n feirniadol â chlasuron Conffiwsaidd. Mae’r flwyddyn hon yn atgyfnerthu dealltwriaeth o rôl addysg ddyneiddiol wrth lunio cymeriad personol a chymdeithas yn Tsieina hanesyddol.
(30 credydau)
(20 credydau)
(30 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil annibynnol a thraethawd hir ar addysg ddyneiddiol mewn Sinoleg. Mae modylau uwch yn helpu i fireinio sgiliau deongliadol, gan ganiatáu i fyfyrwyr wneud cysylltiadau rhwng mewnwelediadau clasurol a materion cyfoes, wedi’u cefnogi gan safbwyntiau rhyngddisgyblaethol a rhyngddiwylliannol.
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
testimonial
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Further information
-
96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS - e.e. Safon Uwch: CCC-BBC, BTEC: MMM-DMM, IB: 30-32
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.  &²Ô²ú²õ±è;
°Õ³Ò´¡±«â€¯â€¯&²Ô²ú²õ±è;
Mae angen TGAU gradd A*-C (gradd 9-4 yn Lloegr) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn  &²Ô²ú²õ±è;
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion Iaith Saesneg  &²Ô²ú²õ±è;Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.  &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.  &²Ô²ú²õ±è;
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mae dulliau asesu yn amrywio o fodiwl i fodiwl, ond gallwch ddisgwyl asesiadau gan gynnwys traethodau a chyflwyniadau. Mae asesiadau’n cyfuno trylwyredd academaidd â myfyrio ar gymhwysiad ymarferol yr egwyddorion sy’n dangos gallu myfyriwr i integreiddio eu gwybodaeth a’u sgiliau yn ystyrlon.
-
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen hon, e-bostiwch sinology@uwtsd.ac.uk