Astudio Crefyddau (Rhan amser) (MA)
Mae’r MA mewn Astudio Crefyddau yn cynnig dull unigryw o astudio credoau ac arferion crefyddol ledled y byd. Nid yw’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar un traddodiad crefyddol penodol; yn hytrach, mae’n annog myfyrwyr i ymgysylltu â llawer o grefyddau mewn ffordd sy’n rhydd, yn deg ac yn feddwl agored. Yma, mae myfyrwyr yn dysgu i archwilio hunaniaethau a chynrychiolaethau crefyddol gwahanol tra’n meddwl yn feirniadol am yr hyn y mae crefydd yn ei olygu yn y byd sydd ohoni.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar grefyddau cyfoes, gan archwilio rôl crefydd mewn cyd-destunau cymdeithasol a byd-eang cyfredol. Fe’i chynlluniwyd gan staff sydd ag arbenigedd mewn cymdeithaseg,anthropoleg ac astudiaethau crefyddol, sy’n golygu bod myfyrwyr yn elwa o ddull amrywiol a rhyngddisgyblaethol. Mae’r cefndir hwn yn caniatáu i fyfyrwyr ddod at grefydd o amrywiaeth o safbwyntiau, megis archwilio sut mae syniadau ac arferion crefyddol yn dylanwadu ar ddiwylliant a chymdeithas fodern, ac yn cael eu dylanwadu ganddynt. Mae’r MA yn mynd i’r afael â chysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol bywyd crefyddol, felly mae myfyrwyr yn cael dealltwriaeth ddyfnach o sut mae crefydd yn gweithredu mewn gwahanol rannau o’r byd ac mewn gwahanol leoliadau cymdeithasol.
Gall myfyrwyr ar y cwrs hwn ddisgwyl amrywiaeth o fodylau sy’n dod â themâu beirniadol ynghyd, o ddefodau crefyddol ac ysgrythur gysegredig i heriau moesegol a gwleidyddol sy’n berthnasol i grefydd heddiw. Mae’r modylau hyn hefyd yn helpu myfyrwyr i ystyried materion cyfoes fel newid hinsawdd, ymfudo, a hawliau dynol, gan weld sut mae credoau crefyddol yn cysylltu â’r pynciau mawr byd-eang hyn. Mae astudiaethau o’r fath nid yn unig yn berthnasol ar gyfer deall y gorffennol ond hefyd ar gyfer dadansoddi cymdeithas heddiw a’i gwerthoedd.
Mae’r MA Astudio Crefyddau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd am ddatblygu sgiliau ymchwil uwch, gan ei gwneud yn sylfaen gref i fyfyrwyr sy’n ystyried astudiaeth bellach, megis PhD. Ond mae’r rhaglen hon hefyd yn werthfawr i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn Addysg Grefyddol neu feysydd eraill lle mae deall amrywiaeth ddiwylliannol yn bwysig.
Drwy gydol y rhaglen hon, anogir myfyrwyr i feddwl yn annibynnol, yn feirniadol ac yn empathetig am grefydd fel y mae’n bodoli heddiw. Gyda safbwynt byd-eang, mae’r cwrs hwn yn addas iawn i’r rhai sydd â diddordeb mewn deall rôl crefydd yn ein byd modern, rhyng-gysylltiedig. P’un ai mewn gwaith academaidd pellach neu mewn meysydd proffesiynol lle mae dealltwriaeth ddiwylliannol a chrefyddol yn allweddol, bydd graddedigion wedi’u paratoi’n dda ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
- Dysgu o bell
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r rhaglen hon yn pwysleisio ymgysylltu beirniadol, archwilio deallusol ac ymchwil ryngddisgyblaethol, gan alluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth o draddodiadau crefyddol amrywiol. Rydym yn gwerthfawrogi hyblygrwydd, gan annog myfyrwyr i ddilyn meysydd o ddiddordeb personol, meithrin gwybodaeth arbenigol, ac archwilio methodolegau cymharol. Mae’r strwythur hwn yn meithrin sgiliau mewn ymchwil annibynnol, meddwl yn feirniadol a llythrennedd diwylliannol, gan baratoi graddedigion i gyfrannu’n ystyrlon i leoliadau academaidd a phroffesiynol.
Yn y flwyddyn gyntaf, mae myfyrwyr yn ymgysylltu â damcaniaethau a dulliau sylfaenol. Mae’r cam cychwynnol hwn yn seilio myfyrwyr mewn fframweithiau hanfodol ac yn eu paratoi ar gyfer astudio arbenigol. Yna gwahoddir myfyrwyr i ddewis o amrywiaeth o fodylau dewisol, gan ganiatáu archwilio i draddodiadau, themâu a methodolegau crefyddol gwahanol, megis Bwdhaeth, astudiaethau Islamaidd, ac ysbrydolrwydd Celtaidd. Mae’r ehangder hwn yn meithrin dealltwriaeth eang, hyblyg o grefyddau byd-eang.
Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, bydd myfyrwyr yn dewis modylau uwch sy’n cyd-fynd â’u diddordebau penodol. Anogir myfyrwyr i fireinio ffocws eu hymchwil, gan gysylltu pynciau modwl â’u thema traethawd hir arfaethedig.
Mae’r rhaglen yn arwain at brosiect ymchwil traethawd hir sy’n syntheseiddio’r wybodaeth, y damcaniaethau a’r methodolegau a ddysgwyd trwy gydol y cwrs. Mae hyn yn arfogi graddedigion â sgiliau ymchwil uwch ac arbenigedd dwfn yn eu maes ffocws.
Gorfodol
Dewisol - System Blwyddyn A / B
(30 credydau)
(30 credydau)
(20 credydau)
(30 credits credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2  &²Ô²ú²õ±è;
-
neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS. &²Ô²ú²õ±è;
 Cyngor a Chymorth Derbyn  
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad. &²Ô²ú²õ±è;Gofynion Iaith Saesneg  
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw. &²Ô²ú²õ±è;
Gofynion fisa ac ariannu &²Ô²ú²õ±è;Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.  &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.  &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.   &²Ô²ú²õ±è;
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.    &²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. &²Ô²ú²õ±è;
-
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.  &²Ô²ú²õ±è;
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau. &²Ô²ú²õ±è;
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union  argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol 
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg 
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mae’r asesiadau’n cynnwys traethodau hir (fel arfer 4,000 o eiriau), adolygiadau beirniadol byrrach, cynigion ymchwil, a thasgau byrrach eraill. Nid oes arholiadau. Mae’r traethawd hir yn un darn o waith 15,000 o eiriau.
-
Gwneir amcangyfrifon ar y dybiaeth y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r cwrs hwn yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy craidd mewn dealltwriaeth grefyddol, sensitifrwydd rhyngddiwylliannol, a hunanadfyfyrio sydd o werth i gyflogwyr. Fel arfer, mae myfyrwyr yn mynd yn eu blaen i weithio mewn nifer o broffesiynau, gan gynnwys addysgu, bancio a busnes ariannol, marchnata a hysbysebu, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, iechyd a gofal cymdeithasol, cwnsela, a gwasanaeth cwsmeriaid.