Diwinyddiaeth Gristnogol (Llawn amser) (MTh)
Diwinyddiaeth yw un o’r meysydd mwyaf cynhwysfawr ac eang y gellir eu hastudio. Er bod rhai yn tybio mai disgyblaeth ar gyfer clerigwyr yn unig yw diwinyddiaeth, mewn gwirionedd, mae’n mynd i’r afael â chwestiynau sydd o ddiddordeb i bawb yn y pen draw. Pam rydyn ni’n bodoli? Beth yw bywyd da, a sut gallwn ni fyw bywyd da? A oes Duw? Ac os oes Duw, sut un yw Duw?
Mae diwinyddiaeth yn gofyn cwestiynau mawr dynoliaeth er mwyn deall ein bywydau bob dydd yn well. Mae diwinyddiaeth yn ddisgyblaeth unigryw gan ei bod yn drafodaeth ar bopeth. A bydd myfyrwyr sy’n astudio diwinyddiaeth yn PCYDDS yn cael y cyfle i astudio popeth – o hanes ac athroniaeth i theori a chymdeithaseg hermeniwtaidd, i ddiwylliant a moeseg.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Dysgu o bell
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r MTh mewn Diwinyddiaeth Gristnogol yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio cwestiynau mawr dynoliaeth trwy fynd i’r afael â dysgeidiaeth a thraddodiadau’r eglwys Gristnogol. Ond mae’r rhaglen yn gyffredinol yn eangfrydig ac yn agored i bobl o bob cefndir crefyddol.
Cyflwynir y cwrs MTh fel rhaglen astudio dysgu o bell yn llawn amser ac yn rhan-amser. Mae holl gynnwys y modiwlau ar gael trwy Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y Brifysgol a bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi trwy gydol eu hastudiaethau â chyswllt rheolaidd gyda’u tiwtoriaid modiwl, naill ai un i un (trwy e-bost, Skype, ffôn), mewn grwpiau (gan ddefnyddio cyfryngau megis Skype), neu drwy fforymau trafod modiwlau yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir neu wikis.
Yn Rhan I, mae myfyrwyr yn astudio un modiwl gorfodol 30 credyd a thri modiwl dewisol 30 credyd (cyfanswm o 120 credyd).
Yn Rhan II, mae myfyrwyr yn ymgymryd â thraethawd hir 15,000 o eiriau o dan arweiniad academydd profiadol sydd â phrofiad blaenorol o waith ymchwil ym maes diwinyddiaeth Gristnogol. P’un ai eich bod yn awyddus i ddatblygu a gosod sylfaen ar gyfer ymchwil ddoethurol bellach, neu ddim ond eisiau porthi eich chwilfrydedd, mae’r traethawd hir yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu ac archwilio eich diddordebau ymchwil eich hun.
Gorfodol
Dewisol
(20 credydau)
Disclaimer
-
Mae’r modylau a amlinellir uchod yn enghreifftiau o’r hyn y gallwch ddisgwyl ei ddysgu ar y cwrs hwn yn seiliedig ar addysgu academaidd diweddar. Rydym yn adolygu ein cyrsiau yn barhaus i sicrhau bod yr ansawdd yn cael ei wella ac er mwyn rheoli ein hadnoddau. Gall yr union fodylau sydd ar gael i chi yn y dyfodol amrywio yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a galw myfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnwys modylau dewisol, diben rhain yw darparu elfen o ddewis o fewn y cwrs. Gall argaeledd modylau dewisol amrywio o flwyddyn i flwyddyn a byddant yn amodol ar gyflawni isafswm niferoedd myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau dewisol penodol.
Fel arfer, byddwch yn cwblhau 120 credyd y flwyddyn astudio ar gwrs llawn amser. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n Cytundeb Myfyrwyr.
tysteb
Staff
Staff
Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd anrhydedd 2:2 
- neu gyfwerth a gydnabyddir gan PCYDDS.
Llwybrau mynediad amgen 
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg Uwch (Tyst. Ôl-radd). Dyma ran gyntaf y radd Meistr lawn.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich astudiaethau Tyst. Ôl-radd yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys i symud ymlaen i weddill y radd Meistr. &²Ô²ú²õ±è;
Mae’r rhain yn llwybrau delfrydol os ydych yn dychwelyd i astudio ar ôl seibiant, os nad ydych wedi astudio’r pwnc hwn o’r blaen, neu os na wnaethoch gyflawni’n raddau roeddech eu hangen i gael lle ar y radd hon. &²Ô²ú²õ±è;
Cyngor a Chymorth Derbyn 
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.Gofynion Iaith Saesneg 
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg ±ð°ù²¹¾±±ô±ô. &²Ô²ú²õ±è;
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannuOs nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa. &²Ô²ú²õ±è;
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi. &²Ô²ú²õ±è;
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.  
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau. â¶Ä¯â¶Ä¯&²Ô²ú²õ±è;
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais. 
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. &²Ô²ú²õ±è;
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byr (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), dadansoddiadau cymharol, adolygiadau a gwerthfawrogiad llenyddol, aseiniadau byr, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15,000 o eiriau.
-
Gwneir amcangyfrifon ar y dybiaeth y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Cynlluniwyd y rhaglen i ddenu myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau cyffredinol a’u sgiliau sy’n benodol i’r pwnc. Mae’n cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar i symud ymlaen i weithio ar lefel 7 yn eu maes astudio arbenigol ac yn helpu i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym myd addysg, y weinidogaeth ac ymchwil.
Cyfleoedd Gyrfa:
• Unrhyw yrfa sy’n ymwneud ag astudiaethau Cristnogol neu Ddiwinyddiaeth
• Addysgwyr hanes neu addysg grefyddol
• Hyfforddi gweinidogion ac arweinwyr yn yr Eglwys Gristnogol
• Darpar academyddion ac ymchwilwyr proffesiynol